Carchar Rhuthun a thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre i ailagor ar 23 Mawrth
Mae Carchar Rhuthun a thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl ar ôl bod ar gau dros y gaeaf, pan fydd y safleoedd treftadaeth yn agor eu drysau ddydd Sadwrn 23 Mawrth.
![Ruthin Gaol](https://www.northeastwales.wales/wp-content/uploads/2022/03/871.jpg)
Mae’r safleoedd hanesyddol yn cynnig taith hudolus drwy amser. Ceir cipolwg grymus, llawn awyrgylch ar fywyd carcharorion ers talwm yn y Carchar a chewch wybod mwy am fywyd teuluol yng Nghymru drwy’r oesau yn Nantclwyd y Dre, tŷ pren rhestredig Gradd 1 â statws ‘Trysor Cudd’ am yr ystafelloedd a ail-grëwyd a’i erddi hudolus.
![Nantclwyd y Dre, Ruthin](https://www.northeastwales.wales/wp-content/uploads/2022/03/Nant_Clwyd_Y_Dre.jpg)
Y tymor hwn, ochr yn ochr ag arddangosfeydd rhyngweithiol, teithiau tywys ac arddangosfeydd ymarferol, bydd ymwelwyr yn cael eu herio i ddianc o’r Carchar a dod yn deithwyr amser yn Nantclwyd y Dre fel rhan o weithgareddau newydd sy’n dod â hanes yn fyw mewn ffyrdd sy’n siŵr o greu atgofion.
![Nantclwyd y Dre House and the Lord’s Gardens](https://www.northeastwales.wales/wp-content/uploads/2022/04/Nantclwyd-LG-Archway-2016-1200x900.jpg)
Gyda’i gilydd, mae’r safleoedd yn cynnig diwrnod perffaith i deuluoedd, rhai sy’n frwd am hanes ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am orffennol cymdeithasol a phensaernïol Rhuthun. Gan agor mewn pryd ar gyfer gwyliau’r Pasg, bydd llwybr y Pasg yn cael ei gynnal yn Nantclwyd y Dre ar 23, 28, 29 a 30 Mawrth (10:30 – 17:00, mynediad olaf am 16:00), sy’n rhan o bris arferol tocynnau.
![Nantclwyd y Dre, Ruthin](https://www.northeastwales.wales/wp-content/uploads/2022/03/NantClwyd-y-Dre.jpg)
Bydd Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre ar agor i’r cyhoedd o 23 Mawrth ymlaen, a bydd yr oriau agor a gwybodaeth am docynnau ar gael ar eu gwefannau.
![Ruthin Gaol](https://www.northeastwales.wales/wp-content/uploads/2022/03/871.jpg)