Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Dark Skies in Denbighshire

Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2024

Rydem nawr yn Wythnos Awyr Dywyll Cymru,rwan yn ei trydydd flwyddyn, rhwng y 9fed a’r 18fed o Chwefror, 2024.

Mae’r fenter ar y cyd yma’n dod a’r wyth tirwedd dynodedig yng Nghymru at ei gilydd, gan uno Parciau Cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro, yn ogystal a Ardaloedd o Harddwch Naturiol: Ynys Môn, Pen Llŷn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Gŵyr, a Dyffryn Gwy.

Prif nôd Wythnos Awyr Dywyll Cymru yw codi ymwybyddiaeth am rôl hanfodol awyr dywyll mewn bioamrywiaeth, iechyd dynol, cadwraeth egni, diogelu ein treftadaeth, ac wrth gwrs seryddiaeth. Mi fydd yr wythnos yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau ar-lein ac ar safleoedd ar draws yr wyth lleoliad gan sicrhau cyfleoedd i bawb ymuno.

Mae gan Cymru’r ganran uchaf o warchodfeydd awyr dywyll yn y byd a Pharc Cenedlaethol Eryri yw’r Warchodfa Awyr Dywyll fwyaf ym Mhrydain ac yn ddiweddar sicrhaodd Ynys Enlli ei statws fel yr unig Noddfa Awyr Dywyll yn Ewrop.

Mae tirweddau dynodedig Cymru yn mynd i’r afael â llygredd golau, un bwlb ar y tro. Mae newid i oleuadau eco-gyfeillgar yn eich cartref yn ffordd wych o warchod y blaned, eich iechyd a’ch cyfrif banc! Mae canllawiau goleuo dwyieithog am ddim ar gael ar-lein neu ar gopis caled.

Dywedodd Dani Robertson, Swyddog Awyr Dywyll Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Nid mater o warchod harddwch naturiol yn unig yw diogelu ein hawyr dywyll; mae’n ymrwymiad i warchod bioamrywiaeth, iechyd a lles ein pobl a’n cysylltiad i’r bydysawd. Mae Wythnos Awyr Dywyll Cymru’n gyfle unigryw i bawb ddysgu mwy am y rhyfeddodau sydd uwch ein pennau, pwysigrwydd ein awyr dywyll ac ymuno iddathlu treftadaeth ein tywyllwch.”

Mi fydd digwyddiadau’r wythnos yn cael eu rhestru ar wefan swyddogol Profi’r Tywyllwch Cymru gan ddarparu canllaw llawn ar gyfer y mynychwyr. Ar gyfer gwybodaeth bellach, diweddariadau a mewnweliadau am ryfeddodau ein awyr dywyll, dilynwch Prosiect Nos ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae awyr y nos yn un o bleserau gaeaf yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae llygredd golau’n yn DU ac Ewrop, ond yma yng Nghymru mae cannoedd o leoedd i brofi harddwch ein awyr tywyll. Erbyn hyn mae gan Gymru rwydwaith o Warchodfeydd Awyr Tywyll Rhyngwladol a Pharciau Awyr Tywyll y mae seryddwyr wedi’u nodi’n lleoedd gorau yn y byd i weld sêr. Mae ein AHNE gyda thelesgopau, siartiau, camerâu ac offer arall, a fydd yn cefnogi digwyddiadau Awyr Tywyll trwy’e blwyddyn.

Mae pwysigrwydd tywyllwch o ansawdd da yn ddeublyg. I ddechrau, mae tua 60% o’n bywyd gwyllt yn dod yn fyw yn y nos ac mae astudiaethau wedi dangos bod golau artiffisial yn y nos yn cael effeithiau negyddol – weithiau’n farwol – ar lawer o greaduriaid (gan gynnwys bodau dynol) sy’n effeithio ar ymddygiadau fel maeth, patrymau cysgu, atgenhedlu a diogelwch rhag ysglyfaethwyr. Hoffem sicrhau bod awyr y nos yn yr AHNE yn cael ei gadw fel y gall ein bywyd gwyllt ffynnu yn eu cynefinoedd naturiol, gan fyw yng nghylchoedd naturiol nos a dydd.

Yn ail, ychydig o leoedd sydd ar ôl lle gall pobl gael gwir ganfyddiad o’r nos a’i awyr syfrdanol yn llawn sêr. Mewn gwirionedd dim ond 2% o bobl sy’n byw yn y DU fydd yn profi awyr wirioneddol dywyll. Rydym yn ffodus ein bod mewn sefyllfa lle gall ymwelwyr fynd yn hawdd i lefydd sydd ag ychydig iawn o lygredd golau o’r ardaloedd poblog o’u cwmpas, sy’n golygu y gall seryddwyr, selogion, beirdd ac ysgolheigion fel ei gilydd fwynhau un o’r sioeau mwyaf ysblennydd ar y Ddaear.

I ddechrau’r wythnos gyffrous hon o ddigwyddiadau nefol, rydym yn annog selogion sêr o bob oed i fynd i’r gerddi cefn neu i Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll AHNE i gael synnu ar awyr y nos!

Ar noson glir, mae nifer o ryfeddodau yn aros amdanoch yn yr awyr. Gallwch weld galaeth 2½ miliwn o flynyddoedd goleuni i ffwrdd gyda’ch llygaid eich hunain, ac wrth ddefnyddio binocwlars, gallwch weld craterau ar y lleuad! Mae nifer o ffyrdd o fod yn rhan, beth am gasglu blancedi y tu allan a chreu man cyfforddus i edrych ar y sêr, gwyliwch yr awyr yn newid fel mae’r haul yn nosi, neu osodwch babell yn eich gardd i chwilio am sêr wib!

Ymunwch â’r storïwr Fiona ddydd Gwener i glywed am yr holl straeon y mae awyr y nos wedi eu hysbrydoli dros y blynyddoedd.