Crwydro Parc Gwledig Loggerheads: Diwrnod o Natur, Hanes a Rhyfeddu’n Dawel🌿
Ar lannau afon Alun yn Sir Ddinbych, mae Parc Gwledig Loggerheads yn teimlo fel un o’r mannau hynny sy’n aros yn dawel ichi bwyllo am ennyd a sylwi ar y prydferthwch. Mae’n barc diymhongar, rywsut. Mae’n teimlo fel bod Loggerheads yn estyn gwahoddiad tyner: dewch i gerdded efo fi, anadlwch ychydig yn ddyfnach, gadewch i’r byd gilio o’ch meddwl am funud.
Disgrifir Loggerheads fel ‘porth’ i Dirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae’n gyfleus i bobl leol (teuluoedd, cerddwyr) yn ogystal â phobl o du hwnt i’r ardal a’r rhai hynny sy’n mentro ar deithiau cerdded mwy egnïol yn y cyffiniau.


Bwrlwm y Dŵr, Siffrwd y Coed ac Adleisiau Hanes
Mae Loggerheads yn gorwedd ar dir a ffurfiwyd dros ganrifoedd gan fyd natur a diwydiant. Dan gysgod mawreddog y clogwyni calchfaen, mae’r afon yn ymlwybro drwy’r dyffryn. Craffwch ac fe welwch chi atgofion o’r gorffennol yn y tirlun: adfeilion hen fwyngloddiau plwm, melinau a llwybrau cerrig a fu dan draed gweithwyr a oedd yn byw bywyd gwahanol iawn i ni.
Er gwaethaf yr hanes diwydiannol, mae yma dawelwch a gwyrddni ymhobman. Mae’n teimlo fel bod byd natur wedi esmwytho’r hagrwch o’r tirlun yn raddol. Mae’n arbennig o hardd yn holl liwiau’r hydref.
Llwybrau i’w Crwydro, Golygfeydd i’w Mwynhau
P’un a ydych chi’n chwilio am fainc i eistedd yn dawel neu’n rhywun sy’n methu â bod yn segur, mae digon o ddewis yn Loggerheads:
- Llwybr Glan yr Afon Llwybr braf wrth ymyl bwrlwm afon Alun. Y dŵr sy’n meddiannu’r sgwrs yn y fan hon.
- Llwybrau Pen y Clogwyn: I rai sy’n hoff o gael gwobr ar ben y daith, mae’r llwybrau hyn yn arwain at olygfeydd godidog o’r dyffryn. Ar ddiwrnod braf, ceir golyga eang tua’r gorwel.
- Y Goedwig: Mwsogl, pelydrau’r haul yn ysmicio drwy frigau’r coed ac arogl y dail wedi iddi fod yn bwrw glaw. Dyma le delfrydol i bobl sydd wrth eu bodd ymysg y coed a byd natur.
Mewn gwahanol fannau, mae’r parc yn teimlo fel llyfr darluniau am fyd natur: creigiau garw, pyllau tawel, siffrwd y dail a chreaduriaid bychan yn mynd o gwmpas eu pethau’n ddiffwdan.
Diod gynnes a chip ar silffoedd y siop
Mae gwaith adnewyddu’n digwydd ar y safle ar hyn o bryd ond mae cyflenwyr lleol wedi sefydlu caffi dros dro lle buom yn mwynhau coffi melfed gwyn a browni Mars bar, ac roedd hyd yn oed y toiledau symudol yn grand iawn.



Mae gwell blas ar bopeth pan mae rhywun wedi cael dracht go lew o awyr iach. Os llwyddwch chi i gael bwrdd y tu allan, efallai y cewch chi gwmpeini aderyn neu ddau’n gobeithio am damaid i’w fwyta.
Mae’r canolfan ymwelwyr wedi symud wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen ac mae digonedd o bethau dymunol i’w rhoi’n anrhegion neu’u prynu i’ch hun. Roeddem yn arbennig o hoff o’r canhwyllau sydd wedi’u gwneud yn lleol a’r dyfeisiau gwasgaru persawr, a oedd ag arogl hyfryd arnynt. Mae gan y staff wybodaeth da am yr ardal a gallant helpu gyda unrhyw agweddau o eich ymweliad.




- Perffaith ar gyfer Diwrnodau â Dim Brys
- Nid yw Parc Gwledig Loggerheads yn lle i ruthro ynddo. Mae’n lle ar gyfer:
- Teuluoedd â phlant chwilfrydig sy’n hel dail crin fel trysorau
- Ffrindiau sydd am gwrdd yn yr awyr agored yn lle bod o flaen sgrin
- Cyplau’n ymlwybro’n hamddenol i nunlle’n benodol
- Cerddwyr sydd eisiau llonydd i ddod at eu coed
- Pobl sy’n mwynhau mynd â chŵn am dro yng nghefn gwlad.
- Mae’n barch sy’n atgoffa rhywun fod prydferthwch yn dod i’r amlwg yn y ffyrdd mwyaf syml: dŵr yn troelli o amgylch cerrig, olion traed ar lwybrau meddal, y gwynt yn ysgwyd y brigau uwch eich pen.
- Cyn Ichi Fynd
- Mae’r maes parcio’n mynd yn brysur iawn ar y penwythnos, yn enwedig pan mae’n braf ( Pris £1.80 am dwy awr)
- Gwisgwch esgidiau nad oes ots gennych gael mwd arnynt
- Dilynwch y Côd Cefn Gwlad.
- *Bydd y gwaith adnewyddu wedi’i orffen erbyn mis Mawrth a bydd y parc yn fwy cynaliadwy fyth er budd cenedlaethau’r dyfodol. Gwneir y gwelliannau oherwydd cynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac i sicrhau fod y parc yn dal i fodloni’r galw yn y dyfodol, er mwyn rheoli’r gwasgfeydd a ddaw gyda mwy o ymwelwyr (dros 200,000 y flwyddyn) a bodloni disgwyliadau’r ymwelwyr hynny.
- Pethau sy’n cael eu gwella
- Gwnaed gwaith i liniaru ar lifogydd (codi lefelau tir) yn ystod y cam cyntaf
- Ailwampio’n llwyr y toiledau, y caffi a’r ganolfan ymwelwyr, tirlunio’r tu allan a chreu lleoedd gwell i eistedd
- Gwaith i hybu cynaladwyedd, fel paneli solar ar ben to’r caffi, er enghraifft.