Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ffefryn pluog yng ngwlypdir Morfa

Mae un o’r adar mwyaf poblogaidd wedi cyrraedd gwlyptir sy’n datblygu yn Sir Ddinbych.

Wythnos diwethaf dathlwyd Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd sy’n annog adfywio ac adfer gwlyptiroedd sydd wedi dirywio.

Mae’r ymgyrch hefyd yn cefnogi adfywio’r ardaloedd pwysig hyn i annog rhagor o fywyd gwyllt i ddychwelyd ac mae un o’r ardaloedd sy’n cael ei hadfywio wedi’i lleoli ym Mhrestatyn.

Dechreuodd y gwaith ar y Morfa, sy’n 35 erw o wlyptir ger Prestatyn yn 2020 pan gafodd ei brynu gan y Cyngor ar ôl cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu ei statws yn adnodd gwlyptir naturiol. Cafodd tri phwll eu creu ar y safle i ehangu’r gefnogaeth ar gyfer byd natur y gwlyptir.

Mae manteision hyn yn cynnwys mwy o fioamrywiaeth, fflora ac adar yn ogystal ag atyniad gwlyptir i wylwyr adar ymweld ag ef o dri platfform gwylio. Mae gan bob platfform fwrdd dehongli yn sôn am yr ardal y mae’n edrych allan arni.

Mae’r gwlyptir yn gorwedd wrth ymyl cafn Prestatyn ac mae’n ffurfio ceuffos naturiol ar adegau o law trwm, gan weithredu fel amddiffynfa bwysig rhag llifogydd.

Ac yn awr mae un o’r ffefrynnau ymhlith gwylwyr adar wedi’i weld yn mwynhau rhyfeddodau’r ardal ynghyd â rhywogaethau eraill gan gynnwys y crëyr bach copog a hwyaid gwyllt.

Eglurodd Sasha Taylor, y Ceidwad Cefn Gwlad sy’n gofalu am y safle: “Mae’n gynefin ardderchog i lawer o wahanol rywogaethau o adar ac anifeiliaid eraill hefyd. Rydym ni wedi gweld ambell i gïach yma a gwelodd aelod o’r grŵp amgylcheddol lleol las y dorlan yma a oedd yn anhygoel.  Mae’r adar llai hefyd wrth eu bodd â’r coed helyg yn y canol. Mae’n brysur bob amser yno.

“Mae gennym ni fyrddau dehongli hyfryd newydd sy’n egluro’r buddion o gael y system wlyptir hon.  Maen nhw’n egluro’r cyfan am storio carbon a pha mor fuddiol ydyw ar gyfer newid hinsawdd”

Mae anifail o’r DU sydd mewn perygl hefyd wedi’i weld ger y gwlyptiroedd a bydd gwaith i’w helpu i ffynnu yn yr ardal yn cynnwys datblygu ffosydd draenio dŵr i ddarparu cynefin gwell ar ei gyfer.

Ychwanegodd Sasha: “Mae llawer o bobl yn ein grŵp gwirfoddoli yn treulio llawer o amser yma ac mae llawer ohonyn nhw wedi tynnu lluniau o lygod pengrwn y dŵr ar hyd y dorlan.”

Mae’r Cyngor yn parhau i ddefnyddio gwartheg Belted Galloway i bori ar dir yr ardal a chefnogi i reoli’r safle a disgwylir i’r rhain fod yn ôl ar y gwlyptiroedd yn ystod yr haf.