Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2023

Fel rhan o ail Wythnos Awyr Dywyll Cymru, bydd y teulu tirwedd a ddiogelir yng Nghymru yn gweithio gyda’i gilydd i ddod ag wythnos o ddigwyddiadau ar hyd a lled y wlad rhwng 17 a 26 Chwefror.

Dark Skies

Mae awyr y nos yn un o bleserau’r gaeaf yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae llygredd golau yn effeithio ar lawer o’r DU ac Ewrop, ond yma yng Nghymru mae cannoedd o leoedd ble gallwch brofi harddwch awyr y nos. Mae gan Gymru rwydwaith o Warchodfeydd Awyr Dywyll Rhyngwladol a Pharciau Awyr Dywyll y mae seryddwyr wedi eu nodi fel rhai o’r mannau gorau yn y byd i wylio sêr. Mae ein AHNE wedi cael arsyllfa symudol ar ffurf fan camper wedi’i thrawsnewid â thelesgopau. siartiau, camerâu ac offer eraill, fydd yn cefnogi digwyddiadau Awyr Dywyll  drwy gydol y flwyddyn.

DarkSkies in the Clwydian Range

Mae pwysigrwydd tywyllwch o ansawdd da yn ddeublyg. I ddechrau, mae tua 60% o’n bywyd gwyllt yn dod yn fyw yn y nos ac mae astudiaethau wedi dangos bod golau artiffisial yn y nos yn cael effeithiau negyddol – weithiau’n farwol – ar lawer o greaduriaid (gan gynnwys bodau dynol) sy’n effeithio ar ymddygiadau fel maeth, patrymau cysgu, atgenhedlu a diogelwch rhag ysglyfaethwyr. Drwy warchod ein hawyr dywyll fel y gall ein bywyd gwyllt ffynnu yn eu cynefinoedd naturiol, gan fyw yng nghylchoedd naturiol nos a dydd.

Yn ail, ychydig o leoedd sydd ar ôl lle gall pobl gael gwir ganfyddiad o’r nos a’i awyr syfrdanol yn llawn sêr. Mewn gwirionedd dim ond 2% o bobl sy’n byw yn y DU fydd yn profi awyr wirioneddol dywyll. Rydym yn ffodus ein bod mewn sefyllfa lle gall ymwelwyr fynd yn hawdd i lefydd sydd ag ychydig iawn o lygredd golau o’r ardaloedd poblog o’u cwmpas, sy’n golygu y gall seryddwyr, selogion, beirdd ac ysgolheigion fel ei gilydd fwynhau un o’r sioeau mwyaf ysblennydd ar y Ddaear.

I ddechrau’r wythnos gyffrous o ddigwyddiadau wybrennol, rydym yn annog pobl o bob oed sydd â diddordeb yn y sêr i fynd i’ch gerddi cefn neu i Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll yr AHNE i ryfeddu ar awyr y nos!

Ar unrhyw noson glir, mae rhyfeddodau di-ri yn aros amdanoch yn yr awyr. Gallwch weld galaeth 2½ miliwn o flynyddoedd goleuni i ffwrdd gyda’ch llygaid eich hun, a gydag ysbienddrych gallwch weld craterau ar y lleuad! Mae llawer o ffyrdd i gymryd rhan, beth am osod blancedi y tu allan i greu lle cyfforddus i wylio’r sêr, gwylio’r awyr yn newid wrth i’r haul fachlud yn y gwyll, neu godi pabell yn eich gardd i chwilio am sêr gwib!

 

Bydd y digwyddiadau’n dangos yr hyn sydd gan ein Hawyr Dywyll nodedig i’w gynnig a bydd yn cynnau diddordeb ein cymunedau a busnesau i weithio gyda natur gobeithio. Mae ein hawyr dywyll yn gwarchod ein bywyd gwyllt a’n hinsawdd ond gellir ei defnyddio hefyd i ymestyn y tymor ymwelwyr ac annog twristiaeth y tu hwnt i fisoedd traddodiadol yr haf.

Dyma rai o’r digwyddiadau sydd ar gael

  • Arweiniad i Wylio’r Sêr yn Nyffryn Dyfrdwy gyda Rob Jones, gŵr lleol â diddordeb mewn seryddiaeth, yn Rhaeadr y Bedol.
  • Syllu ar y sêr o’r dŵr gyda SUP Lass Paddle Adventures yng Ngholomendy.
  • Straeon am sêr gyda Fiona Collins ym Mhen y Pigyn, Corwen.

 

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.