Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Fforiwr Dyfrdwy; T3, TrawsCymru

Mae’r T3 yn un o sawl taith TrawsCymru pellter hir a noddir gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhedeg yr holl ffordd o’r Bermo i Wrecsam. Mae’r prif arosfannau yn Nolgellau a’r Bala yng Ngwynedd, Corwen a Llangollen yn Sir Ddinbych a Rhiwabon yn Wrecsam. (Edrychwch ar yr amserlenni i weld ym mha lefydd llai mae’r bws yn stopio ar y ffordd). Mae ‘na saith gwasanaeth bob dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a phedwar ar ddydd Sul. Gydag Ap TrawsCymru gallwch gynllunio eich siwrnai a gweld yn union lle mae eich bws.

Mae llawer o’r daith hon, yn enwedig drwy Sir Ddinbych, yn dilyn llwybr Afon Dyfrdwy sy’n tarddu ym mynydd y Dduallt yn Eryri, yna’n llifo drwy ganol Llyn Tegid, yn byrlymu drwy Sir Dinbych ac yn troi’n fwystfil o foryd yng Nghaer.

Mae’r daith hon yn un ardderchog os ydych eisiau ymuno â llwybrau cerdded, er enghraifft Llwybr Tegid (18 milltir) o Gynwyd i’r Bala neu Lwybr Gogledd y Berwyn (15 milltir) sy’n mynd i’r dde o’r afon rhwng Llangollen a Chorwen. Hefyd, rhwng Llangollen a Chorwen, mae Llwybr Dyffryn Dyfrdwy (15 milltir) a Llwybr Bryniau Clwyd (122 milltir) yn deithiau sy’n mynd i’r gogledd o’r afon.

Llandrillo

Mae’r B4401 yn gwyro ychydig oddi wrth Afon Dyfrdwy yma felly nid yw pentref Llandrillo yn union ar lan yr afon. Ond mae Afon Ceidiog, un o is-afonydd y Ddyfrdwy, yn nodwedd amlwg yn  llifo dan bontydd y pentref. I mi mae Llandrillo yn gwbl nodweddiadol o Sir Ddinbych – yn ymgorffori’r tirweddau gwyrdd hardd o lwyni, dyffrynnoedd a bryniau sydd i’w gweld drwy ffenestri’r bysus. Mae’r dafarn wedi cau, ond nid felly Eglwys Sant Trillo, siop y Swyddfa Bost a Bwyty’r Berwyn. Cewch gipolwg ar dractorau rhwng y tai a rhosod yn dringo dros y drysau.

Mae Llandrillo’n hardd hyd yn oed yn y glaw, gyda’i naws heddychlon, hynaws yn treiddio drwy’r coed. Mae diferion o law pêr yn disgyn i Afon Ceidiog. Yn y fan hon y gwnes i gyfarfod Jeff, yn mynd am dro foreol wlyb. “Dwi’n cofio plisman yn y pentre” meddai. “PC. Roberts. Byddai’n dod i lawr adeg golchi defaid, i wneud yn siŵr fod popeth yn mynd yn iawn.” Dywedodd Jeff wrtha’i fod y capeli mor llawn ar un adeg, a’r gwasanaethau mor hir, byddai rhieni’n gadael eu plant adref i ofalu amdanynt eu hunain.

Mae Llandrillo’n lle gwych i ddechrau taith gerdded. Gallwch gerdded i Foel Tŷ-Uchaf lle saif cylch cerrig o’r Oes Efydd.  Neu ddilyn Llwybr Tegid i Gynwyd neu’r Bala. Os ‘da chi’n barod am fwy o her, ewch i Fynyddoedd y Berwyn, i Gadair Bronwen neu hyd yn oed drosti i Bistyll Rhaeadr. (Mae Pistyll Rhaeadr yn agos at bentref Llanrhaeadr ym Mochnant ym Mhowys, sy’n cael ei wasanaethu gan wasanaeth 79 Dyffryn Tanat o Groesoswallt.) Neu cerddwch i Gadair Bronwen a dod yn ôl ar hyd Wayfarers Way – taith 15 milltir heriol.

Roswell Cymru

Yn ôl yr hanes, ar 23 Ionawr 1974 glaniodd UFO ym mynyddoedd y Berwyn y tu ôl i Landrillo. Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn gwir achos y digwyddiad oedd cyfuniad o ddaeargryn a meteor yn llosgi yn yr atmosffer. Disgrifiodd pum adroddiad arall o dde Lloegr y noson honno belen o dân yn disgyn ar y gorwel yn y gogledd-orllewin.  Credir fod y meteor wedi chwalu dros Fanceinion. Roedd yr ergyd fawr a glywodd preswylwyr Llandrillo, ac y cymerwyd mai daeargryn ydoedd – yn mesur 4.5 ar y raddfa Richter. Ond nid yw pawb yn fodlon â chasgliadau’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Yn ôl llygad dystion roedd goleuadau gwyrdd yn yr awyr a golau coch ar y mynydd. “Roedd yn andros o ergyd fawr”  meddai Richard, un o drigolion Llandrillo, oedd yn 8 oed ar y pryd, “ac roedd y fyddin yno o fewn munudau”. Cyrhaeddodd y gwasanaethau brys a’r heddlu ond yn ôl pob sôn caewyd yr ardal i ffwrdd iddyn nhw ac i ffermwyr lleol gan gonfoi o dryciau’r fyddin. Ni chafwyd unrhyw adroddiad erioed fod unrhyw beth wedi’i ddarganfod yno.

Corwen

“Mae Corwen yn ganolbwynt trafnidiaeth” meddai arwydd yn yr amgueddfa wych. Cyfeirio mae hyn at y cyfnod rhwng y 18fed a dechrau’r 20fed ganrif pan oedd Corwen yn dref brysur gyda choetsis mawr yn teithio drwyddi, porthmyn yn gyrru eu hanifeiliaid drwodd ar y ffordd i farchnadoedd Lloegr, ac yn ddiweddarach, yn 1841, y rheilffordd newydd yn cyrraedd a’r bws cyntaf yn dod i’r dref yn 1905. Ac mae’r un peth yn wir heddiw gyda’r orsaf fysus yn cynnig cysylltiadau TrawsCymru i bob cyfeiriad. Mae gorsaf Corwen newydd ailagor hefyd, sy’n golygu y gallwch rŵan deithio ar Reilffordd Llangollen – hen lein Rheilffordd y Great Western gynt.

Mae’r dref yn fwrlwm o siarad am yr orsaf newydd gyda phawb yn rhyfeddu at yr holl ymwelwyr mae hi wedi’u denu. “Dod mewn tonnau maen nhw” meddai Cathryn yn y Bottletop Bar. “Maen nhw’n llifo i mewn i’r dref ac yna’n mynd yn ôl allan ar y trên.”

Mae Chris yn Yum Yums yn cytuno. “Mae na fwrlwm yn y dref rŵan” meddai. Mae Yum Yums yn lle gwych i dreulio bore gwlyb. Mae cerddoriaeth fywiog yn chwarae a’r arwydd ‘Roc a Rôl’ yn fflachio. Dwi’n canu efo’r gân Shiny Happy People wrth i bobl fwynhau eu bacwn ac wy. Ac yng Nghaffi Treferwyn mae’r sgyrsiau’n mynd o Gymraeg i Saesneg ac yn ôl. Mae te’n cael ei droelli’n y pot. “Maen nhw’n gneud cinio fel oedd Mam yn arfer ei wneud” meddai Katherine yn yr Emporium yn nes ymlaen.

Mae o’n lle gwych i chwilota, yr Emporium, gydag arogl polish a llwydni’n gymysg a golau’r haul yn treiddio drwy’r ffenestri yn yr hen do haearn rhychog. “Ffatri gwrtaith oedd yn arfer bod yma” meddai Katherine. Rŵan mae’n llawn o hen greiriau, dodrefn, hen drenau bach, llwyau te, tedis, stoliau coesau hir a photiau pupur piwter.

Mae Corwen yn lle da i bobl sy’n hoffi pori ymysg pethau diddorol. Yn llawn cymeriad, mae ‘na ymdeimlad oesol yma. Da chi, ewch am ddiod i Westy Glyndŵr – lle bendigedig, fel labyrinth tu mewn, er yn drist iawn yn ei chael yn anodd cadw i fynd – mae’r gymuned yn gobeithio gallu prynu’r gwesty, ond maen nhw angen help. Gyda John y dyn bar wrth y llyw, mae o’r math o le lle dydi amser ddim yn bodoli. “Dydi o ddim yn gweithio yn y bar” meddai, gan egluro bod y waliau’n rhy drwchus i’r wifi. “Welsoch chi ddrws mor gam a hwn erioed?” meddai Brenda, merch leol. “Da ni gyd yn heidio i fan hyn at y tân yn y gaeaf, ac yn cyfrannu £1 yr un am y glo.”

Bydd llwybr y dref yn eich arwain o amgylch llefydd diddorol eraill, fel Plasty Corwen a adeiladwyd yn y 1840au fel wyrcws.  O ddiddordeb mawr i mi mae Eglwys Sant Mael a Sant Sulien. Yn y fynwent mae ‘cerrig penlinio’ ar gyfer galarwyr yr oes a fu.

Yng Nghorwen mae cyfuniad diddorol o ddiwydiannau, o ffatri trelars Ifor Williams i rwymwr llyfrau. Yma hefyd fe ddewch o hyd i siop cigydd a delicatessen G. R. Evans and Co, sydd nid yn unig yn gwerthu cigoedd a bwydydd o bob math ond hefyd anrhegion fel stolion troed gwlanog siâp dafad a chnuoedd wedi’u llifo.  Mae pys, sudd ffrwythau, llysiau a halen yn brwydro am le ar y silffoedd.

Yng Nghorwen hefyd mae dewis di-ri o lwybrau cerdded. O’r fynwent ewch i fyny’r allt i Goed Pen-y-pigyn. Yma mae coed bedw a derw’n rhoi cysgod a lliw ac islawr o brysgwydd yn ychwanegu at weadwaith y goetir.

Yma hefyd mae cerrig gorsedd Eisteddfod Genedlaethol 1919 a cherrig camu ar draws y nant. Ar y copa mae cofeb garreg a adeiladwyd yn 1863 lle ceir golygfa ysblennydd o Afon Dyfrdwy’n llifo’n osgeiddig drwy’r dyffryn

A sôn am yr afon, i gyrraedd ati – a’m hoff le yng Nghorwen, ewch i lawr Lon Werdd a dilynwch yr arwyddion am Ro Isa. Rhwng y sycamorwydd, yn haul yr hwyr, saif yr hen derfyn o gerrig llechi unionsyth.  Maen nhw’n eich arwain at gae hynafol ar droad yn yr afon. Daw enw’r lle o’r gro ar wely’r afon lle mae pysgod yn silio. Mae pryfed taranau’n dawnsio’n  y machlud a’r afon chwyddedig wedi boddi’r glaswellt. Yn y gwern mae’r Titw Tomos Las yn gwichian. Mae bwrdd picnic wedi’i orchuddio â llanast o wreiddiau a choed. Dyma le bendigedig i wylio dyfroedd y Ddyfrdwy’n dawnsio.

Llangollen

Does dim angen cyflwyno Llangollen, sy’n swatio’n ei dyffryn gwyrdd yng nghysgod Creigiau Eglwyseg; cartref Castell Dinas Brân, Plas Newydd a’r Eisteddfod Ryngwladol a’i strydoedd yn ferw o ymwelwyr drwy gydol yr haf. Ond peidiwch ag anghofio mynd i Oriel Dory, oriel gelf gyhoeddus glodwiw.

Yn y fan hon mae’r Ddyfrdwy’n drawiadol. Ddwy filltir y tu allan i’r dref yn Rhaeadr y Bedol cewch brofi’r wefr fyrhoedlog o gerdded rhwng yr afon a’r gamlas.

 

Ond fy hoff le i wylio’r afon yw Caffi a Bistro Deeside neu y tu allan i’r Corn Mill. Yn y fan hon mae’r afon yn eich trochi mewn sŵn ac ewyn wrth iddi lamu dros y creigiau, o amgylch yr ynysoedd bach gweunwelltog ac o dan hen bont y dref, i gyd yn ferw o fywlysiau, gweiriau a mwsogl. Mae crëyr i’w gweld yma.  Ac yn yr hydref, os ydych yn ddigon ffodus, fe welwch eogiaid yn  troelli a llamu’n rymus yn erbyn y llif i’w hardal fagu.

Gallwch lawrlwytho Llwybr Tref Corwen a Llwybr Tref Llangollen os hoffech gael rhagor o wybodaeth yma. Mae gennym hefyd flog blaenorol am yr emporiwm yng Nghorwen.