Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy 2022

Bydd Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn rhedeg eto eleni i ddarparu mynediad at rai o gyrchfannau allweddol y dirwedd hardd a hanesyddol hon.

v

Mae gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn mynd ar daith gylchdro bob dydd Sadwrn o fis Mai hyd at fis Hydref 2022 ac mae’n cysylltu Llangollen a’r pentrefi cyfagos ag atyniadau poblogaidd lleol fel Dyfrbont Pontcysyllte, Gwarchodfa Natur Wernffrwd, Rhaeadr y Bedol, Abaty Glyn y Groes, Tŷ Hanesyddol Plas Newydd a Bwlch yr Oernant.

Plas Newydd House and Tearooms in Llangollen
Plas Newydd House and Tearooms in Llangollen

Mae’r gwasanaeth hwn yn annog pobl i ymweld â’r atyniadau allweddol yma heb angen car a lleihau’r angen am fannau parcio, ei gwneud hi’n haws i’r rheiny heb gar deithio i’r llefydd yma a helpu i leihau tagfeydd yn rhai o ardaloedd prysuraf Dyffryn Dyfrdwy.   Ystyriwch barcio mewn rhai o’r meysydd parcio mwyaf fel yn Wenffrwd a mynd ar y bws am ymweliad i rai o’r lleoliadau mwyaf prysur neu ar gyfer taith hirach. Dewis gwych fyddai parcio yn y prif faes parcio Stryd y Frenhines Dyfrbont Pontcysyllte, Cefn Mawr, ewch ar y bws i Raeadr y Bedol a cherdded yn ôl ar hyd y gamlas.  Bydd y gwasanaeth hefyd yn rhoi cyfle i drigolion ac ymwelwyr archwilio’r ardal ehangach.  Mae’r bws yn cynnig cyfleuster camu ymlaen a chamu i ffwrdd gyda phris tocyn 1Bws yn caniatau teithio diderfyn drwy’r dydd yn ei gwneud yn ddelfrydol i gamu oddi ar y bws i ymweld â safle ac yna yn ôl ar y bws yn hwyrach.

Mae’r gwasanaeth wedi’i greu diolch i gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, ac mae’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a phrosiect Ein Tirlun Darluniadwy, cynllun partneriaeth tirlun sy’n ceisio gwarchod a gwella mynediad at dirweddau ysbrydoledig Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Camlas a Dyfrbont Pontcysyllte.

Bydd Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy 199 ar gael ddydd Sadwrn yn unig, o ddydd Sadwrn 7 Mai tan ddydd Sadwrn 29 Hydref 2022.  I weld yr amserlen lawn a phrisiau’r tocynnau ar gyfer y Gwasanaeth Bws Darluniadwy, ewch i dudalen we Amserlenni Bysiau Sir Ddinbych, gwefan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy neu ewch i Ganolfan Groeso Llangollen i nôl taflen wybodaeth.