Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 30 Mai i 4 Mehefin

Yn ddiweddarach y mis hwn, mae disgwyl i ddegau o filoedd o bobl ymweld â Sir Ddinbych wrth i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal am y tro cyntaf ers yr achosion o Covid.

 

Trefnir yr Eisteddfod gan yr Urdd, mudiad mwyaf pobl ifanc Ewrop a chynhelir y digwyddiad yn flynyddol bob yn ail rhwng Gogledd a De Cymru.

Eleni, tro Sir Ddinbych yw cynnal yr Eisteddfod ac mae’r digwyddiad (30 Mai i 4 Mehefin) yn rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc hyd at 30 oed gystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau, gan gynnwys canu, dawnsio, llefaru, drama, cystadlaethau corawl, celfyddydau, crefftau a dylunio.

Yn cynnws ieuenctid dawnus o bob rhan o Sir Ddinbych yn arddangos eu sgiliau diwylliannol yn Eisteddfod yr Urdd pan fydd yn ymweld â’r sir yn ddiweddarach y mis hwn.

Bydd ysgolion o bob rhan o’r sir yn cystadlu mewn ystod eang o gystadlaethau llwyfan, gyda Sir Ddinbych wedi torri’r record am y nifer fwyaf o geisiadau o unrhyw sir yng Nghymru.

 

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar Fferm Kilford ar gyrion Dinbych. Bydd arwyddion ffyrdd melyn yn cael eu gosod ar ffyrdd dynesu i mewn i dref Sir Ddinbych a bydd digon o lefydd parcio ar gael.

 

Fel arall, gallwch barcio yn y dref a gwasanaethau bws gwennol y Cyngor fydd yn rhedeg pob hanner awr. Gweld a allwch chi weld logo’r Urdd ar y mynydd uwchben y safle.

 

Mae’r digwyddiad hefyd yn rhad ac am ddim, ond gofynnir i ymwelwyr archebu ar-lein drwy fynd i: www.urdd.cymru/tocynnau. Bydd y tocyn rhad ac am ddim yn caniatáu mynediad i chi i’r maes, yn ogystal ag unrhyw sioe neu berfformiad a gynhelir yn ystod y diwrnod hwnnw.

Bydd gan y Cyngor babell arddangos yn yr Eisteddfod. Fe’i lleolir wrth ymyl y brif fynedfa a’r thema yw hyrwyddo Sir Ddinbych fel cyrchfan ac annog pobl i ddarganfod y sir.

Bydd amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael, gan gynnwys adrodd straeon, perfformiadau gan bobl ifanc, traeth tywod chwarae bach ar gyfer ein hymwelwyr iau, trac BMX ar gyfer plant ysgol gynradd ac adran celf a chrefft i blant a phobl ifanc gael eu hysbrydoli i greu eu gweithiau eu hunain.