Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Dinas Bran Castle, Clwydian Range and Dee Valley AONB

Mae Mehefin yn fis ‘Awyr Agored’

 

Gan fod mis Mehefin yn Fis Awyr Agored ac am ei bod yn amser dechrau gwneud cynlluniau eto, hoffem rannu ein deg syniad gwych ar gyfer gweithgareddau hwyliog yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Ewch am dro ar eich beic, os ydych eisiau mynd ar feic mynydd yn One Planet Adventure neu os oes well gennych chi ddod o hyd i’ch llwybrau eich hunain gan ddefnyddio’r rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, mae Sir Ddinbych yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer pob math o feicio.  Beth am logi beic o harbwr y Rhyl a mynd i lawr at y prom tuag at Brestatyn ar Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 neu brofi eich sgiliau BMX yn Marsh Tracks.

Marsh Tracks BMX, Ffordd a MTB parc beicio ynRhyl

Ymwelwch â rhai o dai hanesyddol a’u gerddi.  Er enghraifft, mae Nantclwyd y Dre a Gerddi’r Arglwydd yn Rhuthun yn dŷ tref pren hynaf yng Nghymru ac mae’r ardd furiog wedi’i adfer i adlewyrchu 7 cyfnod ei hanes a’i ddatblygiad. Gall ymwelwyr gerdded yn ôl mewn amser o’r 1940au i 1435. Mae’r ardd yn cynnwys pergola rhosod, coed cnau, a dolydd blodeuog, gan ddangos defnydd hanesyddol y gerddi – ar gyfer meddyginiaeth, coginio a phleser synhwyraidd. Mae’r berllan yn lletya amrywiaeth traddodiadol o afalau, gellyg ac Eirin Dinbych.  Ar hyd y llwybrau mae gwrychoedd ffrwythau, merysbren, cwins a mwyar, arddangosfa wych o babi gwyllt a ‘mynwent anifeiliaid anwes’ tawel.  Gellir mwynhau golygfeydd unigryw o’r dref hanesyddol, y castell a’r bryniau amgylchynol o safle uwch y gerddi.

Nantclwyd y Dre House and the Lord’s Gardens

Beth am fynd i’r traeth, mae gennym nifer i ddewis ohonynt.  Ymwelwch â’n cyrchfannau enwog y Rhyl a Phrestatyn sy’n cynnig hwyl draddodiadol ar lan y môr ac atyniadau gwych gan gynnwys parc dŵr SC2 gyda Tag Active.

Beaches in North East Wales

Ewch i Ŵyl Gerddoriaeth, rydym newydd gynnal Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych ac yn fuan byddwn yn cynnal Eisteddfod Ryngwladol Llangollen gyda’i holl liwiau a synau i’w mwynhau.

Urdd Eisteddfod

Ewch ar un o’n milltiroedd cymunedol gan orffen gydag ymweliad i ardd gwrw mewn tafarn gyda lluniaeth.

Am gyn lleied â £7 gallwch archebu taith yn ôl mewn amser ar reilffordd stêm Llangollen i Gorwen.

Steam railway

Llogwch gwch am ddiwrnod ar gamlas Llangollen a mwynhewch Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte neu gallwch fwynhau taith ar gwch o Lanfa Llangollen lle gallwch fynd ar gwch wedi’i dynnu gan geffyl neu daith ar gwch dyfrbont modur, sy’n eich tywys i weld golygfeydd a synau hudolus Camlas Llangollen.

Chirk canal boat and viaduct

Ymwelwch â marchnad artisan, mae un yng Ngharchar Rhuthun ar 26 Mehefin 10-4pm.

Ewch i ddigwyddiadau cymunedol lleol am ddim, mae cymaint o rai gwahanol ar hyn o bryd, gyda phobl yn teimlo’r angen i ddod ynghyd ar ôl blynyddoedd anodd, gwelwch ein cyfryngau cymdeithasol am fanylion.

Ymwelwch â Chastell, mae gennym ddigon i ddewis ohonynt, o Ddinbych a Rhuddlan rhan o gylch haearn Edward 1 yn erbyn y Cymry, i Gastell Cymreig Dinas Brân, Llangollen.

Dinas Bran Castle, Clwydian Range and Dee Valley AONB

Castell Dinas Bran 

Beth bynnag fyddwch chi’n penderfynu ei wneud – gwnewch y mwyaf o’r dyddiau braf ac ewch allan i fwynhau eich hunain.

Bydd ymweld a chrwydro yn yr awyr agored yn helpu i wella eich lles, yn feddyliol ac yn gorfforol, felly beth bynnag rydych chi’n penderfynu ei wneud – gwnewch y mwyaf o’r dyddiad braf ac ewch allan i fwynhau eich hunain. Beth am wneud penwythnos ohoni ac aros yn un o’n llety hardd sydd ar gael.

#AwyrAgored #Haf #DyddiauAllan #DyddiauGyda’rPlant #Gwyliau #Twristiaeth #GogleddDdwyrainCymru #DewchiGymru #PenwythnosiFfwrdd