Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

SC2 - Rhyl

Atyniadau’r haf yn y Rhyl

Mae llwybr sain newydd sbon newydd gael ei lansio sy’n mynd â chi ar daith dywysedig o’r Rhyl ac ar hyd y ffordd gallwch glywed gan rai o’r cymeriadau yn y Rhyl. Mae ar gael drwy’r ap izi.TRAVEL ac yn cael ei hyrwyddo ar fyrddau llwybrau’r dref ac felly roeddem yn meddwl y byddem yn tynnu sylw at rai o atyniadau’r Rhyl ar gyfer yr haf, rhywbeth i uchafbwynt pob diddordeb dan do neu yn yr awyr agored.

Yn gyntaf, parc dŵr anhygoel yn y Rhyl yw SC2, sy’n cynnig ardaloedd chwarae tu allan a thu mewn ar gyfer plant o bob oed a gallu.  Gyda reidiau dŵr sy’n mynd â’ch anadl, man padlo thema’r traeth, llithrenni ar gyfer pob oed a chaffis thematig, mae ardaloedd newydd i SC2 wir yn golygu fod rhywbeth i bawb.

Gall plant ifanc ddilyn ôl traed y dinosor drwy’r jwngl i’r man chwarae meddal newydd â’r thema Jwrasig , gyda chriw o gymeriadau lliwgar a hwylus, ac mae llithrenni, rhaffau a phosau yn rhoi’r cyfle i blant bach fynd ar antur, tra bo cyfle i rieni ymlacio yn ein caffi newydd estynedig, sydd nawr yn gweini Costa Coffee. Bydd bwydlen flasus newydd ar gael yn y Caffi Antur newydd yn ogystal â diodydd Costa Coffee er mwyn rhoi hwb i’r rhai sy’n awchu am yr her. Mae’r bwyty wedi’i ymestyn fel y gall rhieni a theuluoedd edrych i lawr ar yr arena Tag Ninja a’r lle chwarae antur meddal newydd.

Mae arena Tag Ninja hefyd wedi’i ymestyn hefyd ac mae nawr yn cynnwys y Cybertower,  yn ogystal â lefelau ychwanegol, gan ei wneud yn fwy ac yn well nag erioed, ond am yr un pris.

Dywedodd Hamdden Sir Ddinbych Cyf eu bod “wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y Rhyl ac rydym eisiau sicrhau bod eleni yn haf i’w gofio. Drwy uno ein harena Tag Ninja a’n man chwarae meddal thema dinosor newydd bydd yn rhoi cyfle i blant a theuluoedd o bob oed, o 1 i 71 mlwydd oed, i gael antur llawn heriau, gan wneud y Rhyl ac SC2 yn lleoliad poblogaidd ar gyfer ymwelwyr a theuluoedd.”

Bydd modd i chi archebu ticedi ar-lein o ddydd Llun, 12 Gorffennaf drwy sc2rhyl.co.uk/adventureplay ar gyfer y man chwarae meddal a https://ninjatag-rhyl.co.uk/cy/hafan/ ar gyfer Tag Ninja ar ei newydd wedd.  Mae cynigion ar brydau ar gael i’w harchebu ar-lein ymlaen llaw am bris gostyngol, a chofiwch pan y byddwch yn ymweld, cewch flasu’r hufen iâ yn ein Ffatri Hufen Iâ newydd.

I’r rhai sydd angen cyfleusterau hygyrch, mae SC2 â mynediad sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn ac ardal dderbynfa hygyrch. Mae dwy ystafell newid ar gyfer pobl anabl yn y Pentref Newid, pob un â chyfleusterau cawod a thoiled unigol. Yn yr ardaloedd newid arbennig, mae gwely ar gyfer newid, teclyn codi ar drac a sinciau hygyrch sy’n gallu cael eu codi a’u gostwng yn electronig, mae hefyd loceri hygyrch yn ogystal â dau gymhorthydd wrth law i helpu, er mwyn darparu cefnogaeth ychwanegol. Yn y Parc Dŵr, mae lefel y dŵr yn mynd ar raddiant o 0 i 0.9metr. Mae grisiau ar gyfer mynd i mewn ac allan o ran ddyfnaf y pwll, mae hefyd teclyn codi ar gael wrth y pwll i’w ddefnyddio yn y parc dŵr, gall aelod o’r tîm cyfeillgar eich helpu i’w ddefnyddio.

Nawr rydym wedi tynnu sylw at un o’r prif atyniadau yr oeddem yn meddwl y byddem yn rhannu rhai o ffefrynnau poblogaidd eraill y Rhyl.

Trac Beicio Marshtracks

Mae Trac Beicio Marshtracks yn cynnwys trac beicio ffordd gylchol gaeedig 1.3km sydd wedi ennill gwobrwyon, a thrac rasio BMX o safon cenedlaethol sy’n cynnwys gât gychwyn Bensink (yn union yr un fath â thrac BMX Gemau Olympaidd 2012) a neidiau a chanteli heriol. Yn ogystal â’r ddau drac yma mae trac beicio mynydd newydd wedi ei agor yn ddiweddar, yn galluogi pobl i brofi eu sgiliau.

Llyn Morol

Mae’r Llyn Morol yn cynnig cyfle i hwylio, canŵio, sgïo dŵr, tonfyrddio, glinfyrddio ac i’r rheiny ohonoch chi sy’n ddigon beiddgar, troednoethio, a’r llyn yma yw’r unig lyn dŵr heli yng Ngogledd Cymru. Mae’r gronfa ddŵr 12 hectar artiffisial wedi ei leoli ger aber Afon Clwyd. I’r rheiny ohonoch sydd ddim eisiau gwlychu, beth am fynd am dro o amgylch y llyn ar hyd y Llwybr Amgylcheddol, rhyfeddu ar holl fywyd gwyllt yr ardal, pysgota am grancod neu beth am daith ar Reilffordd Fach y Llyn (gweler isod).

Rheilffordd Fach y Llyn

Dechreuwch eich ymweliad drwy fwynhau Taith Drên, milltir o hyd, o amgylch Llyn Morol. Yn ystod tymhorau prysuraf y flwyddyn, yr hen drên stêm locomotif fydd yn tynnu’r cerbydau ar rheini bron yn gant oed. Edrychwch ar yr amserlenni, sy’n dangos yn glir pryd y bydd y trenau stêm locomotif yn cael eu defnyddio. Mae ganddynt y cyfleusterau i dywys teithwyr mewn cadeiriau olwyn ar y trenau.

Marine Lake

Sinema Vue ar Rhodfa’r Gorllewin

Mae pob un o’r ffilmiau diweddara yn cael eu dangos yn y sinema yma gyda chynigion arbennig i deuluoedd.

Ymweld â Phont y Ddraig yn yr Harbwr

Ychydig o gilometrau o’r orsaf drenau mae’r marina a Phont y Ddraig yn yr Harbwr.  Pont gerdded fach ydyw, ac mae’n agor pan mae cychod eisiau mynd i mewn ac allan o’r marina. Mae’n anarferol gan fod ganddi fast canolog tal, a system pwli sy’n tynnu pob ochr i lwyfan y pont i fyny iddi wrth agor, mae hefyd yn cysylltu’r rhan olaf o’r llwybr beicio 15 milltir ar draws Conwy a Sir Ddinbych.

Dysgwch sut i farcudfyrddio gyda Pro Kitesurfing

Mae Pro Kitesurfing yn cynnig hyfforddiant unigol neu 2-1 yn ymwneud â phob agwedd o weithgareddau â phadl a gweithgareddau wedi eu pweru gan farcud. O sgiliau sylfaenol sut i rheoli bwrdd, sut i hedfan barcud bŵer, i wersi barcudfyrddio ar gyfer dechreuwyr a sut i wneud triciau wrth farcudfyrddio. Mae chwaraeon ar y tir ac yn y dŵr wedi eu pweru gan farcud yn hawdd i’w dysgu, ond gallent fod yn heriol i’r rhai mwyaf uchelgeisiol. Mae’r ganolfan hyfforddi anhygoel sydd ar lan y môr, yn leoliad perffaith i ddysgu sut i farcudfyrddio. Gyda lagwnau dŵr fflat yn ei gwneud yn hawdd i sefyll a pharhau yn ddiogel drwy’r camau dysgu, mae’n berffaith ar gyfer cychwyn i’r dŵr.

Llogwch feic yn yr Hwb Beiciau

Siop Menter Gymdeithasol leol Gwerthu Beiciau yw’r Hwb Beiciau. Mae’r Hwb wedi ei leoli o fewn harbwr brydferth y Rhyl, ger Pont y Ddraig. Wedi ei leoli drws nesaf i’r Siop Feics y mae Caffi Hwb yr Harbwr sydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos, ac yn gweini ystod eang o fyrbrydau poeth ac oer, cacennau ffres, brechdanau wedi eu grilio, rholiau a choffi barista. Yn Yr Hwb, maent yn llogi beiciau yn ddyddiol drwy’r flwyddyn. Pan fyddwch yn llogi beic, gallwch feicio ar hyd llwybr rhif 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol am filltiroedd heb draffig, perffaith ar gyfer y teulu i gyd.

Fel y gwelwch, mae’r Rhyl wedi datblygu o’i hanterth yn oes Fictoria, gyda chyfleusterau i ddenu’r twristiaid mwyaf modern, ond bydd rhai pethau bob tro yn aros yr un fath. Y môr, y tywod a hinsawdd sydd, yn swyddogol, yn fwy heulog na’r cyfartaledd cenedlaethol, felly peidiwch ac anghofio am y milltiroedd o draethau godidog a chofiwch eich bwced a’ch rhaw!

 

Blog a ysgrifennwyd gan Adran Dwristiaeth Cyngor Sir Ddinbych.