Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Sioe Awyr Y Rhyl -cyhoeddi rhestr Swyddogol

Mae’r arddangosiadau yn barod, mae’r awyrennau yn tanio ac mae’r torfeydd yn barod am benwythnos o hedfan ysblennydd yn y Rhyl y penwythnos hwn.

 

Mae Sioe Awyr arobryn y Rhyl yn ôl ac mae Hamdden Sir Ddinbych wedi cyhoeddi’r rhestr swyddogol ar gyfer y penwythnos, gan gynnwys y Saethau Cochion a’r Typhoon sydd wedi’u cadarnhau am y ddau ddiwrnod.

Y Sêr Arian (RLC) Y Tîm Arddangos Parasiwt y Fyddin Sêr Arian Brenhinol fydd yn dechrau’r diwrnod llawn bwrlwm, ac yna bydd Tîm Typhoon yr Awyrlu Brenhinol yn dilyn. Bydd Tîm Raven, y tîm Arddangos Erobatig, yn swyno’r torfeydd ddydd Sadwrn, cyn Hediad Goffa Brwydr Prydain yr Awyrlu Brenhinol, Calidus Autogyro, Arddangosfa Erobatig Steve Carver a diweddglo mawreddog gan Dîm Erobatig yr Awyrlu Brenhinol, y Saethau Cochion.

Bydd Hediad Coffa Brwydr Prydain yr Awyrlu Brenhinol yn cychwyn ddydd Sul, ac yna Arddangosfa Erobatig Steve Carver a Thîm Arddangos Parasiwt y Diafoliaid Coch. Bydd Tîm Typhoon yr Awyrlu Brenhinol yn rhuo i weithredu, ac yna’r Calidus Autogyro, L-39 Aviation a bydd y diwrnod yn dod i ben gan y Saethau Cochion.

Ar Ddydd Sadwrn o 5pm ymlaen, fydd bwyty 1891 a’r Teras yn cynnal parti dilynol yn theatr Pafiliwn y Rhyl, gyda cherddoriaeth fyw i ddawnsio gyda’r nos, bwyd blasus, coctels a golygfeydd godidog o Arfordir Gogledd Cymru.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Ni allwn aros i groesawu ymwelwyr a phobl leol i’r Rhyl ac arfordir Sir Ddinbych i fwynhau’r sioe arobryn hon.”

 

 

Gall cefnogwyr hedfan archebu seddi unigryw ar Deras 1891 hefyd i wylio’r sioe ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, gyda’r pecynnau arian ac aur ar gael. Mae lleoedd yn gyfyngedig felly cynghorir pobl i archebu ymlaen llaw i osgoi cael eu siomi. Gallwch ddarganfod mwy ar wefan  neu ffoniwch Bafiliwn y Rhyl ar 01745 330000.