Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Statue of Owain Glyndwr in Corwen

Gŵyl Gerdded Corwen 2022

Bydd Gŵyl Gerdded Corwen yn cael ei chynnal rhwng yr 2il a’r 4ydd o Fedi 2022.

Cynhwysir ein hoff deithiau cerdded i gyd megis  y Berwyn, ffordd gogledd ,  Ffordd glannau dyfrdwy, Moel Fferna ac wrth gwrs Caer Drewyn.  Mae Corwen gyda anrhydedd i ‘groesawu cerddwyr’ ac  yn ardal  ac yn ganolfan wych gan ei fod yn cynnig teithiau cerdded o’r dref sy’n gweddu i bob lefel o gerdded. Gallwch ddarganfod hanes Corwen os byddai’n well gennych aros yn lleol neu gall y mwyaf anturus archwilio’r daith gerdded grib lefel uchel ar hyd y Berwyn gan gyrraedd dros 800 metr o uchder. Mae teithiau cerdded tywys ar y ddau ddiwrnod ac mae gennych y dewis o gerdded llawn diwrnod neu, gyda rhai o’r teithiau cerdded byrrach, gwneud un yn y bore ac un arall yn y prynhawn.

Corwen

Maent hefyd yn cynnig teithiau cerdded gyda’r nos a gweithdy llywio, ynghyd ag adloniant gyda’r nos yn y dref.

Mae Corwen wedi lleoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a bydd y teithiau cerdded yn gadael i chi fwynhau’r  tirwedd a golygfeydd godidog.

Mae’r holl deithiau cerdded yn RHAD AC AM DDIM gyda lluniaeth ar werth cyn ac ar ôl y teithiau cerdded.  Fodd bynnag, gallwch ddangos eich gwerthfawrogiad a sicrhau dyfodol  y gwyl drwy roddion ar y diwrnod.  Byddai rhodd wirfoddol o £3 y person y daith gerdded yn cael ei werthfawrogi os o fewn eich cyllideb. Mae’r digwyddiad yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl gan gyfraniadau gan y gymuned fusnes yng Nghorwen sy’n gweld budd pobl yn profi hyfrydwch Corwen drwy’r ŵyl gerdded.

Bydd pob taith yn cychwyn ac yn gorffen ym Mhafiliwn Chwaraeon Corwen yn Green Lane ac mae ei derbyniad yn agor am 8.30yb ar y ddau ddiwrnod.

Caer Drewyn, Clwydian Range and Dee Valley AONB
Caer Drewyn, Clwydian Range and Dee Valley AONB

Am ragor o wybodaeth, ewch i Ŵyl Gerdded Corwen.