Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Prestatyn Beach

Syniadau Hanner Tymor

Mae gennym ni gymaint i’w gynnig dros hanner tymor. Beth am fynd allan beth bynnag fo’r tywydd i fwynhau rhyw anturiaethau bach?

O gyn lleied â £7, gallwch archebu taith yn ôl mewn amser ar reilffordd stêm Llangollen i Gorwen.

Llangollen Railway

Llogwch feic o harbwr y Rhyl ac ewch draw i lawr y promenâd tuag at Brestatyn ar Lwybr Beicio Cenedlaethol 5.

National Cycle Route 5

Dringwch i ben bryngaer. Mae gweddillion cadwyn o gaerau o Oes yr Haearn yn ymestyn ar hyd Bryniau Clwyd.

CLwydian Range and Dee Valley AONB

Beth am ymweld â threfi gwyliau enwog y Rhyl a Phrestatyn, sy’n cynnig hwyl traddodiadol glan y môr ac atyniadau gwych, gan gynnwys parc dŵr SC2 a TAG Active. (Wedi cau ar hyn o bryd oherwydd difrodd stormydd dros y penwythnos.)

Tag Active, SC2, Rhyl

Gwlychu neu faeddu amdani, neu’r ddau! Rhowch gynnig ar syrffio barcud yn y môr, padl-fyrddio ar hyd Camlas Llangollen neu feicio mynydd yn Oneplanet Adventure yn Llandegla.

Prestatyn Beach