Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Dark Skies in Denbighshire

Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2022

Fel rhan o’r Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2022 cyntaf, bydd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cynnal wythnos lawn o weithgareddau a digwyddiadau awyr dywyll i ddathlu ein hawyr dywyll warchodedig. Cynhelir yr ŵyl rhwng 19 a 27 Chwefror ledled y wlad.

Dark Skies

Mae awyr y nos yn un o bleserau gaeaf yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae llygredd golau’n yn DU ac Ewrop, ond yma yng Nghymru mae cannoedd o leoedd i brofi harddwch ein awyr tywyll. Erbyn hyn mae gan Gymru rwydwaith o Warchodfeydd Awyr Tywyll Rhyngwladol a Pharciau Awyr Tywyll y mae seryddwyr wedi’u nodi’n lleoedd gorau yn y byd i weld sêr. Mae ein AHNE gyda thelesgopau, siartiau, camerâu ac offer arall, a fydd yn cefnogi digwyddiadau Awyr Tywyll trwy’e blwyddyn.

Dark Skies in the Clwydian Range

Mae pwysigrwydd tywyllwch o ansawdd da yn ddeublyg. I ddechrau, mae tua 60% o’n bywyd gwyllt yn dod yn fyw yn y nos ac mae astudiaethau wedi dangos bod golau artiffisial yn y nos yn cael effeithiau negyddol – weithiau’n farwol – ar lawer o greaduriaid (gan gynnwys bodau dynol) sy’n effeithio ar ymddygiadau fel maeth, patrymau cysgu, atgenhedlu a diogelwch rhag ysglyfaethwyr. Hoffem sicrhau bod awyr y nos yn yr AHNE yn cael ei gadw fel y gall ein bywyd gwyllt ffynnu yn eu cynefinoedd naturiol, gan fyw yng nghylchoedd naturiol nos a dydd.

Yn ail, ychydig o leoedd sydd ar ôl lle gall pobl gael gwir ganfyddiad o’r nos a’i awyr syfrdanol yn llawn sêr. Mewn gwirionedd dim ond 2% o bobl sy’n byw yn y DU fydd yn profi awyr wirioneddol dywyll. Rydym yn ffodus ein bod mewn sefyllfa lle gall ymwelwyr fynd yn hawdd i lefydd sydd ag ychydig iawn o lygredd golau o’r ardaloedd poblog o’u cwmpas, sy’n golygu y gall seryddwyr, selogion, beirdd ac ysgolheigion fel ei gilydd fwynhau un o’r sioeau mwyaf ysblennydd ar y Ddaear.

I ddechrau’r wythnos gyffrous hon o ddigwyddiadau nefol, rydym yn annog selogion sêr o bob oed i fynd i’r gerddi cefn neu i Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll AHNE i gael synnu ar awyr y nos!

Ar noson glir, mae nifer o ryfeddodau yn aros amdanoch yn yr awyr. Gallwch weld galaeth 2½ miliwn o flynyddoedd goleuni i ffwrdd gyda’ch llygaid eich hunain, ac wrth ddefnyddio binocwlars, gallwch weld craterau ar y lleuad! Mae nifer o ffyrdd o fod yn rhan, beth am gasglu blancedi y tu allan a chreu man cyfforddus i edrych ar y sêr, gwyliwch yr awyr yn newid fel mae’r haul yn nosi, neu osodwch babell yn eich gardd i chwilio am sêr wib!

Gallwch gofrestru fel gwyliwr sêr AHNE neu gefnogwr busnes a chael canllaw poced am ddim a phecyn gwybodaeth awyr dywyll wedi’u hanfon at eich drws.

Ymunwch ag un o’n sgyrsiau ar-lein.

Ydych chi wedi bod eisiau gwybod mwy am ein hawyr godidog? Ehangwch eich dealltwriaeth o bwysigrwydd awyr dywyll drwy ymuno â ni mewn un o’n sgyrsiau ar-lein gyda’r nos:

Ar ddydd Sadwrn, 19 Chwefror byddwn yn cynnal ‘Ein Hawyr Dywyll’ – ymunwch â Dani Robertson, Swyddog Awyr Dywyll Gogledd Cymru, a dysgwch pam bod ein hawyr dywyll yn bwysig a beth rydym yn ei wneud ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i’w gwarchod.

Ar ddydd Sul, 20 Chwefror gallwch fynychu ‘Pryfaid Nosol ac Awyr y Nos’ – ymunwch â Rochelle Meah i ganfod effaith llygredd golau ar ymddygiad, cyfeiriad a gweithgarwch nosol pryfaid cop a gwyfynod.

Dewch i ddigwyddiad rhad ac am ddim

Gall ein hamserlen gyffrous o ddigwyddiadau eich helpu i archwilio’r awyr nos! Mae’n digwyddiadau am ddim, ond mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw. Ewch ar ein tudalen Eventbrite i weld ein amserlen lawn a rhagor o fanylion ar sut i fynychu. Yn ystod yr wythnos gallwch:

Canfod Moel Famau yn y tywyllwch gyda noson gyffrous yn gwylio’r sêr! Ymunwch â Rob Jones, seryddwr lleol am noson o wylio’r sêr yn y parc gwledig hyfryd hwn. Archwilio cyfrinachau a gwyddoniaeth awyr y nos, dysgu sut i adnabod cytserau a chael eich cyfareddu gan harddwch a dirgelwch ein bydysawd anhygoel.

Ymgasglwch o amgylch y tân gyda Fiona Collins, storïwr lleol am daith fer a noson o adrodd straeon o dan y sêr.

Ymweld â’r Planeteriwm yn Neuadd Bentref Cilcain am sesiwn rhyngweithiol i archwilio cyfrinachau a gwyddoniaeth awyr nos. Tra fyddwch yno, ymunwch â phrynhawn cyffrous o grefftau seryddiaeth!

Helpu gosod trap gwyfynod symudol ym Mhlas Newydd yn Llangollen, i weld pa wyfynod nosol sy’n bresennol yn Nyffryn Dyfrdwy. Yn ystod y nos gallwch roi cynnig ar adeiladu eich blwch ystlumod eich hun, er mwyn helpu i gadw ein bywyd gwyllt nosol! Ymunwch â ni y bore drannoeth i ganfod unrhyw rywogaethau a gafodd eu dal dros nos.

Dark Skies in Denbighshire