Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Hofrennydd yn helpu gyda adfer Dinas Brân yn Llangollen

Tynnwyd y llun hyfryd hwn o Ddinas Brân uwchben y cwmwl rhewllyd yn Llangollen gan Carl Edwards

Mae hofrennydd wedi bod wrth law i helpu Ceidwaid yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i ymgymryd â gwaith pwysig ar lethrau hyfryd Castell Dinas Brân.

Yn gynharach yn yr hydref –  dan arweiniad arbenigol archeolegwyr o Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys – cloddiodd Ceidwaid, gwirfoddolwyr a chontractwyr bron i 35 tunnell o ddeunyddiau o borthdy’r castell fel rhan o’r gwaith adfer cyffrous sy’n mynd rhagddo yn y castell.

Rhoddwyd y deunyddiau a gloddiwyd mewn bagiau, yn barod i gael eu hawyrgludo’n uniongyrchol i un

uniongyrchol i un o’r llwybrau allweddol sy’n ymdroelli tua’r copa.

Mae’r adran hon o’r llwybr wedi erydu a lledu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gan fygwth poblogaeth planhigion prin fel y beryn coesnoeth a’r cornwlyddyn syth sy’n tyfu yma yn Ninas Brân.

Bydd contractwyr medrus yn defnyddio’r deunyddiau hyn i atgyweirio’r adrannau sydd wedi’u difrodi ar y llwybr.

Meddai Rhun Jones, Uwch Geidwad yn Nyffryn Dyfrdwy, “Mae’r prosiect hwn yr ydym wedi bod yn gweithio arno mewn partneriaeth â Cadw ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys wedi bod yn hynod o gyffrous – ac nid wyf yn dweud hynny oherwydd bod gennym hofrennydd yma i symud yr holl ddeunyddiau!”

“Wrth gynllunio’r prosiect, roeddem yn gwybod y byddai llawer o wastraff ynghlwm â’r gwaith o adfer y castell a chlirio’r porthdy. Ond roedd yn gyfle gwych i ddefnyddio’r deunyddiau a gliriwyd i wella cyfleoedd mynediad yn ogystal â diogelu cynefinoedd glaswelltir bregus er mwyn i bawb fedru parhau i fwynhau treftadaeth gyfoethog naturiol a hanesyddol Dinas Brân.”

Darperir y gwaith o adfer y castell drwy’r prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, cynllun partneriaeth tirlun a gaiff ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda chefnogaeth a chyllid ychwanegol gan Cadw.