Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Eira a rhew yn creu awyrgylch hudolus yn Ogledd Ddwyrain Cymru

Credwn fod ein tamaid ni o Gymru yn hyfryd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond mae ychydig o eira a rhew yn ei wneud hyd yn oed yn fwy hudolus. Rydym am rannu rhai o’ch lluniau bendigedig chi i bawb gael eu gweld.

Tynnwyd y llun hyfryd hwn o Ddinas Brân uwchben y cwmwl rhewllyd yn Llangollen gan Carl Edwards

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Coedwig Wernog yn Rhuthun

Plas Newydd, Llangollen yn edrych yn Nadoligaidd gyda rhubanau wedi’u clymu ym mhob man.

Castell y Waun, wedi’i addurno gan wyrddni Nadolig hardd

Toriad gwawr ar Fynydd Sleddog.

Llun o ddiwrnod rhewllyd wedi’i dynnu gan Alastair John Sharp

 

 

Llun hyfryd o fynyddoedd y Berwyn uwchben Corwen a dynnwyd gan Chelsea Handforth

 

Ac yn olaf, roedd yn rhaid i ni gynnwys y llun arbennig yma gan Rosie’s Triple D cider  

yn olaf, roedd yn rhaid i ni gynnwys y llun arbennig yma gan Rosie’s Triple D cider  

 

Cymerwch ofal ar bob ymweliad. Edrychwch ar ragolygon y tywydd – mae’r Swyddfa Dywydd yn lle da i ddechrau.  Cofiwch wirio’r amodau ar wahanol rannau o’ch llwybr, er enghraifft, os ydych am ddringo’r bryniau dylech ddarganfod pa mor oer a gwyntog fydd hi ar y copa, a hefyd beth fydd lefel y sylfaen cwmwl. Peidiwch â diystyru ffactor oerfel y gwynt.

Mae gan Ogledd Ddwyrain Cymru weithgareddau ar gyfer pob gallu, ond cyn i chi gychwyn mae’n bwysig;

bod yn onest â chi’ch hun ynglŷn â’ch gwybodaeth, eich ffitrwydd a’ch gallu chi a’ch cymdeithion, a
gwirio amodau diweddaraf y tywydd a’r tir.

Gwrandewch ar y cyngor a dim ond os yw’r amodau o fewn eich gallu chi a’ch cymdeithion y dylech roi cynnig ar y gweithgaredd.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma.