Gwyliau gartref yng Ngogledd Ddwyrain Cymru gyda char trydan
Oes gennych chi gar trydan? Mae’n hawdd mwynhau penwythnos i ffwrdd yn eich car trydan, gyda phwyntiau gwefru ar draws yr ardal a llefydd bendigedig i ymweld â nhw.
Dechreuom ein harhosiad deuddydd yn Y Rhyl. Ychydig ganrifoedd yn ôl roedd Y Rhyl yn bentref pysgota ar arfordir Gogledd Cymru ond erbyn y 1800au, diolch i ddyfodiad y rheilffordd, roedd yn un o’r cyrchfannau gwyliau mwyaf ffasiynol ym Mhrydain. Mae gan ei harbwr 700 oed nawr Bont y Ddraig yr 21ain yn ogystal â pharc dŵr sy’n werth sawl miliwn o bunnoedd yn denu 350,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae hefyd yn cynnwys y Llyn Morol gyda’i reilffordd bach hanesyddol.

Ar ôl i ni fwynhau awyr iach glan môr, gwnaethom yrru drwy Ruddlan gyda chefnlen anhygoel ei gastell godidog cyn anelu am Lanelwy, o bosibl y ddinas leiaf yn y DU. Ei brif atyniad oedd y gadeirlan drawiadol gydag enghreifftiau gwych o ffenestri lliw. Adeiladwyd yn wreiddiol yn y drydedd ganrif ar ddeg a dyma’r gadeirlan hynafol leiaf ym Mhrydain Fawr. Mae’n gartref i Feibl William Morgan ac mae’n darparu cyswllt hanfodol i ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru. Beth am fynd am ginio ar draws y ffordd yn Jacobs Ladder sy’n gaffi gyda ‘bwyd cartref blasus, ffres, gwasanaeth ardderchog yn ôl adolygiad diweddar a byddem yn cytuno’n llwyr.
Yn ôl yn y cerbyd trydan, aethom tuag at Ddinbych, yna Rhuthun. Os ydych yn mwynhau crefftau gan grefftwyr lleol, mae yna dri lleoliad braf ond gwahanol iawn o fewn ychydig filltiroedd i’w gilydd. Yn gyntaf mae Oriel Crochendy a Bragdy Brwcws ac yna yn nes ymlaen mae Crochendy Anvil yn Llanrhaeadr gyferbyn ag eglwys fendigedig Sant Dyfnog a’r ffynnon sanctaidd.
Am brofiad siopa mwy modern, ewch i Ganolfan Grefft Rhuthun gyda 3 gofod arddangos, artistiaid preswyl a stiwdios artistiaid. Mae hefyd yn cynnig gwaith cyfoes ar werth gan rai o brif wneuthurwyr y sir. Gallwch bori a phrynu o gasgliad eang o dlysau, ceramig, gwydr, gwaith metel, tecstilau, llyfrau a phapur ysgrifennu. Yna, gwnaethom alw am goffi yn Café R cyn mynd ymlaen i’r lle roeddem yn aros yn Brenig Cottage Escapes oedd yn 8 milltir i ffwrdd. Mae’n fwthyn moethus gyda lle bwyta awyr agored a thwba twym gyda lle tân. Mae hefyd yn croesawu cŵn gyda gerddi preifat caeedig a golygfeydd godidog o gefn gwlad.
Y bore wedyn, aethom draw i Langollen a mynd ar y trên stêm treftadaeth sy’n rhedeg 7.5 milltir i Garrog ar hyn o bryd. Mae’r holl orsafoedd ar hyd y trac o ddyluniad nodweddiadol Fictoraidd ac mae pob gorsaf wedi’i hailgreu yn lliwiau Great Western y 1950au.
Ar ôl dychwelyd i Langollen gwnaethom fwynhau brechdan flasus yn y Riverbanc café. Gyda chymysgedd o awyrgylch cyfeillgar, cerddoriaeth hamddenol, planhigion yn bla a byrddau pren a seddi wedi eu hadnewyddu i gynnig hafan ymlaciol. Mae yna hefyd siop grefftau fach yn gwerthu a hybu artistiaid lleol. Arogl coffi blasus gyda dewis o ffa coffi cymysg neu wreiddiol. Neu efallai eich bod yn mwynhau te rhydd? Mae yna dros 10 i ddewis ohonynt, gan gynnwys rhai ffrwythau tymhorol.
Gwnaethom orffen ein harhosiad deuddydd gydag ymweliad â Thraphont Ddŵr Pontcysyllte, rhan o safle treftadaeth y byd UNESCO i fwynhau peirianwaith anhygoel Thomas Telford o’r Chwyldro Diwydiannol. Mae Pontcysyllte, sy’n golygu ‘y bont sy’n cysylltu’ yn cludo’r gamlas yn ogoneddus dros afon Dyfrdwy islaw. Cafodd y draphont ei chwblhau yn 1805, ac mae’n ganlyniad datrysiadau peirianyddol sifil anhygoel. Cafn haearn bwrw 126 troedfedd uwchben yr afon, bwâu cynnal haearn ac 18 o golofnau carreg gwag.
Pwyntiau gwefru
Os ydych yn meddwl aros am ychydig. Gallwch ddod o hyd i lety yma.
Gallwch gael golwg ar ein rhestr gynhwysfawr o bwyntiau gwefru ceir trydan.