Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Gwyliau Gartref dros y Gaeaf yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Mae Gogledd Cymru ymhlith y 10 cyrchfan mwyaf poblogaidd yn y byd yn ôl Lonely Planet, felly mae’n berffaith fel cyrchfan wyliau.

Mae gan ein cornel o Ogledd Cymru forlin hyfryd, treftadaeth gyfoethog ac antur i’r teulu. Gydag ardal o harddwch naturiol eithriadol, trefi gwledig rhyfeddol, morlin hyfryd a Safle Treftadaeth y Byd 11 milltir o hyd.

Rydym yn gwybod pa mor anodd yw hi i gynllunio gwyliau yn ystod y cyfnod costus hwn. Mae’n anodd dianc y bwletinau newyddion a’r ansicrwydd o gostau cynyddol. Fodd bynnag, weithiau gwyliau gartref funud olaf yw’r peth delfrydol sydd ei angen i gael persbectif, heb dorri’r banc.  Mae Gogledd Ddwyrain Cymru yn llawer nes nac yr ydych yn feddwl, ac mae’n hawdd cyrraedd gan gadw eich costau teithio yn isel.  Rydym wedi ein lleoli ar wibffordd yr A55 i’r gorllewin, yr M62 wrth deithio i’r dwyrain, yr M53 a’r M56 i’r gogledd a’r A5 a’r M54 tuag at y de. Mae Lerpwl, Manceinion a Birmingham llai na 2 awr i ffwrdd, ac mae teithio i Lundain a Glasgow yn eithaf cyfleus hefyd.

Mae gennym ystod o lety fforddiadwy a gwahanol gyda rhywbeth tuag at ddant a chyllidebau pawb. Dyma rai syniadau yr hoffem eu rhannu gyda chi.

  1. Cornel Clychau’r Gog yn The Forge, Corwen, sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn. Pan fyddwch yn archebu arhosiad y gaeaf hwn gallwch ychwanegu Profiad Antur y Gaeaf am £60 yn unig fesul cwpwl. Gallwch ddewis o nofio gwyllt, fforio am fwyd, coginio ar dân agored a thaflu bwyell!

  1. Gyda chabanau o’r enw Dog House ac Owl Lodge  yn Faraway  Follies yn Llandegla, maent mor unigryw a gwahanol yn eu nodweddion a dyluniad ag y mae’r enwau yn ei awgrymu. Maent yn cynnig llety cyfforddus a soffistigedig, ac mae gan bob un dwba poeth am arhosiad hynod o ymlaciol.

 

    1. Mae pawb y dyddiau hyn yn gwybod beth yw glampio, ond mae Safari Lodges ym Mhentre Mawr  yn mynd â’r profiad i lefel uwch. Dychmygwch gyrraedd eich ystafell eich hun mewn gwesty cynfas, ynghyd â thwba poeth.

Gallwch ymlacio yn eich ystafell fyw eich hun gyda soffa fawr, tra bo peiriant coffi Nespresso yn gwneud y baned berffaith o goffi i chi. Mwynhewch eich ardal lletygarwch gyda’r holl bethau bach yr ydych yn eu disgwyl.

Yna ewch allan i’ch teras tawel a neidiwch i mewn i’ch twba poeth preifat. Peidiwch â phoeni, bydd y dŵr yn boeth yn barod ar eich cyfer! Bydd sŵn ein ceffylau bach Shetland yn crwydro o amgylch y cabanau yn gwneud i chi ddychmygu bod llewod yn yr ardal a gall galwad cynnar gan lwynog fod yn hiena yn y pellter.

 

    1. Mae The Laundry Retreat yn llety gwyliau cwbl unigryw wedi’i leoli rhwng Dinbych a Rhuthun, ger pentref Llanrhaeadr.  Mae’n cynnig moethusrwydd diymdrech wedi’i ddylunio ar gyfer oedolion yn unig, sydd eisiau ymlacio gyda golygfeydd godidog bryniau Clwyd, ardal o harddwch naturiol eithriadol, archebwch rŵan. Mae’r gerddi yn arbennig iawn hefyd, ac anogir y gwesteion i deimlo’n gartrefol o fewn y gerddi a mwynhau’r hyn y mae’r tymhorau yn ei gynnig, o eirlysiau ym mis Chwefror i forderi’r haf a dail yr hydref.

 

Ond y peth gorau oll yw bod ein hawyr iach yn rhad ac am ddim. Mae ein holl lwybrau cerdded a’n llwybrau cenedlaethol, ein tirlun AHNE a’n safle Treftadaeth y Byd i gyd am ddim i’w gwerthfawrogi, gyda ffioedd parcio bychain yn y safleoedd mwyaf poblogaidd. Cymerwch olwg arall, cewch eich synnu gyda’r hyn sydd i’w gynnig mewn ardal mor fach yng Nghymru.