Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Thri digwyddiad gwych i’r teulu i gyd.

Mae Hamdden Sir Ddinbych yn rhoi’r ‘trît’ yn Tric neu Trît y Calan Gaeaf hwn gyda thri digwyddiad gwych i’r teulu i gyd.

 

Mae SC2 Rhyl yn brysur gyda gweithgareddau arswydus i rhai ifanc (a rhai hyn!) yn ein arena Chwarae Antur a Ninja TAG! Rhaid taro gymaint o TAGs â phosib i gadw’r lefelau ymbelydredd i lawr. Rhaid osgoi’r sombiaid yn arena Ninja TAG a rasio eich ffordd allan o’r parth sombi halogedig. Gyda gwisgoedd dychrynllyd, danteithion melys a swper i gyd wedi’w gynnwys, SC2 yw’r lle perffaith i’r plant losgi rhai o’r fferins Calan Gaeaf! Mae dydd Gwener 28, dydd Sadwrn 29 a dydd Llun 31 i gyd i’r plant gyda’n nosweithiau dychrynllyd yn Ninja TAG, a gyda’r rhai bach yn ein ardal chwarae antur hefyd yn mwynhau, ond gyda llai o ofn!

SC2 / Ninja Tag in Rhyl

Mae bwyty 1891 ym Mhafiliwn y Rhyl hefyd gyda noson o fwyd ac adloniant ar y gweill. Fedrwch fwynhau swper yn y bwyty ac yna i’r bar am noson arswydus o gemau, gyda DJ byw, a dawnsio trwy’r nos gyda llawr dawnsio myglyd arbennig, Limbo, cystadleuaeth gwisg ffansi a mwy! Pwy ddywedodd fod Calan Gaeaf ar gyfer plant yn unig? Mae dydd Sadwrn 29 Hydref yn ymwneud â’r ‘oedolion’ ym 1891.

Bydd dosbarth ffitrwydd arbennig Clubber-ffit arswydus yn cael ei gynnal yn Nova Prestatyn ar ddydd Gwener 28ain Hydref, dosbarth arswydus sy’n cyfuno Clubbercise a Bocsio, Llosgwch y fferins Calan Gaeaf yn ein dosbarth ffitrwydd, ac yna cewch fwynhau y gemau arswydus, DJ a mwy ym Mar Nova.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym yn cynnal rhai digwyddiadau Calan Gaeaf hwyliog i’r teulu cyfan mis yma, ar draws SC2, Pafiliwn y Rhyl a Nova Prestatyn. Fel yr arfer, mae ein hatyniadau wedi ymrwymo i ddarparu adloniant fforddiadwy i’r teulu oll, ac fe welwch fod rhywbeth at ddant pawb yr hydref hwn. Gwnewch eich Calan Gaeaf yn un i’w gofio gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf!”

Archebwch eich bwrdd yn 1891 cyn y parti Calan Gaeaf i gychwyn eich noson gyda phryd o fwyd bendigedig yn ein bwyty, www.1891rhyl.com/reservations Mae tocynnau dal ar gael ar gyfer Nosweithiau Dychrynllyd Sc2 – archebwch eich tocynnau ar-lein i osgoi cael eich siomi: SC2rhyl.co.uk ac archebwch eich lle yn nosbarth Clubber-ffit yng Nghlwb Nova trwy’r ap HSDD wythnos ynghynt i gael eich lle yn brydlon!