Antur Awyr Agored yn Sir Ddinbych: Eich Canllaw i Weithgareddau Gorau Gogledd Cymru

Os ydych chi’n chwilio am weithgareddau awyr agored yng ngogledd Cymru, Sir Ddinbych yw’r lleoliad perffaith i chi. Wedi’i nythu rhwng y mynyddoedd a’r môr, mae ein cornel fach ni o Gymru yn Sir Ddinbych yn cynnig cyfleoedd i gerdded, seiclo, caiacio, ac amrywiaeth o ffyrdd i archwilio’r tirweddau godidog. O fryniau eang i lwybrau arfordirol, Sir Ddinbych yw’r lleoliad perffaith i unrhyw un sy’n chwilio am antur yn yr awyr agored.

🥾Cerdded yn Sir Ddinbych: Llwybrau a Golygfeydd
Mae rhai o’r llwybrau cerdded gorau yng Nghymru yn Sir Ddinbych, sy’n ei gwneud yn gyrchfan delfrydol ar gyfer cerddwyr. Mae Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn drysor ar gyfer unrhyw un sydd wrth eu boddau â’r awyr agored. Mae ei bryniau grugog yn darparu golygfeydd hyfryd, yn arbennig o gopa Moel Famau, y bryn uchaf o’u plith.

Mae llwybr enwog Clawdd Offa hefyd yn rhedeg drwy Sir Ddinbych, sy’n cynnwys llwybrau hir ar hyd cloddwaith hynafol. Os ydych chi’n chwilio am lwybrau mwy hamddenol, mae cyfuniad o lwybrau glan afon, clogwyni calchfaen, a choedwigoedd heddychlon ym Mharc Gwledig Loggerheads – sy’n wych ar gyfer teuluoedd neu unrhyw un sy’n chwilio am ddihangfa natur heddychlon.

🚴Beicio Mynydd a Beicio
Os ydych chi’n mwynhau beicio, ceir llwybrau cyffrous ar gyfer pob lefel yn Sir Ddinbych. Gall beicwyr mynydd fwynhau tirweddau garw yn ardal Rhuthun, a gall beicwyr ffordd grwydro’r elltydd godidog ar Fwlch yr Oernant neu lwybrau cylchol Llangollen a Chorwen.

Mae Sir Ddinbych hefyd yn rhan o Lwybr Seiclo Gogledd Cymru, sy’n cysylltu’r trefi arfordirol gyda llwybrau gwledig. P’un a ydych yn defnyddio eich beic yn achlysurol neu’n feiciwr profiadol, mae’r ardal hon yn nefoedd i anturwyr beicio. Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â <https://www.ridenorthwales.co.uk/>.

🛶 Caiacio, Canŵio a Chwaraeon Dŵr
Afon Dyfrdwy yw un o’r llefydd gorau ar gyfer caiacio yng ngogledd Cymru. P’un a hoffech chi badlo’n hamddenol drwy ddyfroedd tawel neu fentro i ddyfroedd mwy byrlymus ger Llangollen, rydych yn siŵr o gael modd i fyw ar y dŵr. Neu, os ydych yn chwilio am brofiad mwy hamddenol, gallwch hwylio, pysgota neu grwydro ar hyd llwybrau Llyn Brenig sydd ag ystod eang o fywyd gwyllt, gan gynnwys barcud coch a chrëyr glas.

⛺ Campio, Glampio a Llety Awyr Agored
Bydd anturiaethwyr awyr agored wrth eu boddau â’r ystod eang o lety sydd ar gael yn Sir Ddinbych. O bodiau glampio gyda golygfeydd godidog i wersylloedd clyd yn y goedwig ger Moel Famau, mae digon o gyfleoedd i ddeffro yng nghanol byd natur. Cewch fwynhau gwynt y môr a chrwydro’r traethau tywodlyd hyfryd o’r gwersylloedd arfordirol ym Mhrestatyn. Lle bynnag y byddwch yn aros, nid oes rhaid teithio ymhell i ddod o hyd i antur a thirwedd hardd.

🌄Pam mai Sir Ddinbych yw’r Lleoliad Perffaith i Selogion Awyr Agored?
P’un a ydych yn mwynhau cerdded, seiclo, caiacio neu grwydro’r awyr agored, Sir Ddinbych yw’r lleoliad delfrydol i anturiaethwyr. Gyda chymysgedd o fynyddoedd, dyffrynnoedd, coedwigoedd, afonydd ac arfordir, bydd cyfle newydd bob dydd i gysylltu â natur a herio eich hunan. Nid cyrchfan yn unig yw Sir Ddinbych – mae’n wahoddiad i brofi’r gweithgareddau awyr agored gorau yng ngogledd Cymru. Estynnwch eich esgidiau, eich beic, neu eich padl, a dewch i fwynhau’r harddwch gwyllt sy’n gwneud y sir hon yn un o drysorau mwyaf Cymru
