Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Y Tŷ Gwyrdd

Siopa yng Ngogledd Ddwyrain Cymru y Nadolig hwn

Gwyddem fod y Gaeaf wedi wirioneddol cyrraedd gyda thywydd garw a distyllau Storm Arwen a Barra. Fodd bynnag, gyda’r Nadolig yn prysur agosáu, mae gennym amser o hyd i #carubusneslleol a chefnogi ein busnesau lleol. Rydym wedi bod yn cyfweld â rhai o’r busnesau lleol yn Sir Ddinbych, dyma beth oedd gan ddau ohonynt i’w ddweud.

Bu i Jacqui Bell sefydlu The Little Flowermonger yn Rhuddlan yn Hydref 2019, ac mae hi’n canolbwyntio ar ddarparu profiad cwsmer gwych yn ogystal â bod yn gynaliadwy, yn gwerthu blodau Prydeinig yn bennaf a defnyddio deunydd pecynnu bioddiraddiadwy.

Mae The Little Flowermonger hefyd yn gwerthu torchau drws Nadolig pwrpasol a wnaed â llaw ac addurniadau blodau i’r cartref a all roi teimlad Nadoligaidd cyfoes a naturiol.

Little Flowermonger Rhuddlan

Dywedodd Jacqui, cyn ddisgybl yn Ysgol Howell’s, Dinbych: “Rwy’n gwerthu blodau ffres a sych ac rwy’n ceisio prynu blodau a deiliach a dyfwyd ym Mhrydain ble’n bosib a defnyddio’r siop fel llwyfan i ddangos y stoc wych a dyfir yn y wlad. Mae ein stoc yn cael ei dorri a’i anfon i mi yn uniongyrchol gan y tyfwyr o fewn 24 awr.

“Rydym hefyd yn gwerthu amrywiaeth eang o fasau gwydr a ailgylchwyd, canhwyllau a wnaed â llaw ac anrhegion eraill gan gyflenwyr sy’n cyd-fynd ag ethos cynaliadwy Little Flowermonger.”

The Little Flowermonger in Rhuddlan

Symudodd Jacqui i Lundain i hyfforddi i fod yn werthwr blodau ac yna gweithiodd gyda gwerthwyr blodau i enwogion yn dylunio digwyddiadau ar raddfa fawr cyn agor ei siop ei hun yn darparu blodau i nifer o gynyrchiadau ffilm gan gynnwys Spiderman a Batman yn nechrau’r 2000au, Yn ogystal â llu o ddramâu BBC a digwyddiadau ar gyfer lansio llyfrau, cyngherddau cefn llwyfan, cylchgrawn Hello a Radio Capital.

Defnyddiwyd ei thorchau drws Nadolig gan nifer o westai yn Llundain fel rhan o’u haddurniadau Nadoligaidd.

Little Flowermonger rhuddlan

Ar ôl symud i Ogledd Cymru, agorodd Jacqui The Little Flowermonger a bellach yn cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, sydd â’r nod o annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y gaeaf hwn.

Meddai: “Rwy’n meddwl fod nifer o fusnesau gwych ar garreg ein drws. Credaf y dylem ddefnyddio ein siopau lleol, mae’n llawer mwy personol o gymharu â hwylustod clicio ar ddolen.

“Mae Rhuddlan yn bentref gwych ac mae nifer o fasnachwyr annibynnol yma sy’n darparu cynnyrch ardderchog a gwasanaeth cwsmeriaid gwych. Fel cwsmer, teimlaf ein bod eisiau teimlo’n dda am wario arian. Dylai siopa fod yn brofiad pleserus na all unrhyw gyfrifiadur ei ailgynhyrchu, nid yn aml mae cyfrifiadur yn gofyn sut ddiwrnod rydych yn ei gael neu’n cynnig paned o de a sgwrs i chi.”

Mae Jacqui yn mynychu marchnadoedd blodau ei hun i brynu stoc, gan ddileu’r angen ar gyfer faniau a lorïau danfon.

Meddai: “Mae fy musnes cyfan yn ymwneud â cheisio bod mor gynaliadwy â phosib, fel arall nid oedd pwrpas agor fel siop flodau arall yn gwerthu’r un fath, pan gall y cwsmer fynd ar-lein ac archebu a chael tusw ‘paentio yn ôl rhif’ gyda llawer o ategolion plastig.

“Mae fy neunydd pecynnu yn syml iawn, mae’n bioddiraddiadwy i gyd, mae hyd yn oed fy mwydydd blodau mewn bagiau compostadwy. Rwy’n ailddefnyddio cymaint â phosib ac yn ymchwilio yn ddyddiol i syniadau newydd i wella yn gyson.”

Mae’r Tŷ Gwyrdd, a sefydlwyd ym mis Mehefin 2021 ac a agorodd ar Lôn Cefn, Dinbych yn ystod mis Mehefin 2021, yn ysbrydoli lefel newydd o gyfrifoldeb ecolegol ymhlith y gymuned leol.

Mae’r Canolbwynt Cymunedol yn cynnwys siop ail-lenwi ecogyfeillgar ar y llawr cyntaf, gyda gofod stiwdio ychwanegol ar y llawr cyntaf a’r ail lawr.

Meddai Marguerite Pearce, Cyfarwyddwr Y Tŷ Gwyrdd: “Rydym yn gwerthu cynnyrch ail-lenwi ar gyfer y tŷ, cynnyrch garddio a bwyd, rydym hefyd yn ceisio sicrhau eu bod yn cael eu cynhyrchu’n lleol lle bo modd. Rydym yn cefnogi ac yn darparu prosiectau gwyrdd sy’n cefnogi iechyd meddwl a lles, gan gydweithio gydag artistiaid lleol, mentrau cymunedol a sefydliadau cyhoeddus a phreifat.

Y Tŷ Gwyrdd Denbigh

“Rydym yn gwneud siopa ecogyfeillgar yn haws i bawb. Rydym yn cynnig ystod eang o eitemau sylfaenol a fforddiadwy ar gyfer y tŷ sy’n helpu i leihau’r defnydd o becynnau a gwastraff bwyd a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd. Rydym yn gwrando ar gwsmeriaid ac yn ymateb i’w gofynion er mwyn darparu’r cynnyrch y mae arnynt eu heisiau, gan ddefnyddio cyflenwyr a chynhyrchwyr lleol ac ecogyfeillgar sy’n cynnig system dolen gaeedig (ailddefnyddio yn hytrach nag ailgylchu).”

Mae’r sefydliad yn Ninbych yn cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, sydd â’r nod o annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y gaeaf hwn.

Mae’r Tŷ Gwyrdd yn falch iawn o’u harwyddair, ‘ysbrydoli newid i greu dyfodol cynaliadwy’.

Ychwanegodd Marguerite: “Mae gennym ethos o ‘addasu nid taflu’ ac rydym yn gwerthfawrogi popeth. Rydym yn ceisio bod yn greadigol, dychmygol a dyfeisgar ym mhopeth a wnawn, y rheol allweddol yw lleihau gwastraff a phrynu diangen (prynwch yr hyn sydd ei angen arnoch), ailddefnyddio (ail-lenwi cynwysyddion, prynu pethau ail law, rhoi eitemau nad oes arnoch chi eu heisiau i elusen, atgyweirio eitemau sydd wedi torri), ac ailgylchu pan fetho popeth arall.

Y Tŷ Gwyrdd

Mae’r canolbwynt wedi cofrestru ar gyfer rhai cynlluniau TerraCycle, ac yn cyfeirio cwsmeriaid at leoliadau eraill sy’n dilyn cynlluniau TerraCycle.

Eglurodd Marguerite: “Mae ein cyflenwyr ail-lenwi hylif yn cynnig system dolen gaeedig sy’n golygu eu bod y cymryd y cynhwysydd yn ôl, yn ei olchi a’i ail-lenwi. Rydym yn ceisio cynnig cynnyrch lleol ac o’r DU er mwyn lleihau ein hôl troed carbon. Mae gennym gyflenwr ynni adnewyddadwy.

Mae mewnbwn y gymuned leol yn hanfodol i sicrhau bod y fenter yn gallu parhau nawr ac i’r dyfodol.”

Meddai Marguerite: “Rydym yn ymgysylltu â’r gymuned i ddeall a chefnogi’r mentrau a’r gweithgareddau sy’n digwydd yn lleol, i wrando ar syniadau a phryderon, a nodi beth hoffai pobl ei weld yn digwydd yn y dyfodol.

Y Tŷ Gwyrdd

“Fel cymdeithas mantais gymunedol, y gymuned sy’n ein cynnal ac yn berchen arnom. Rydym yn gwahodd y gymuned leol i gymryd rhan yn Y Tŷ Gwyrdd. Er mwyn sicrhau bod y canolbwynt a’r gweithgareddau’n gynaliadwy, rydym yn credu y dylai’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma helpu i’w harwain a’u siapio.

Cynhaliodd Y Tŷ Gwyrdd eu cynnig cyfranddaliadau cyntaf ym mis Mehefin a chroesawyd 50 o fudd-ddeiliaid. Mae’r canolbwynt hefyd yn gweithio gyda chwmnïau buddiannau cymunedol reSource a Drosi Bikes ar brosiect cydweithredol i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd uchel.

Mae’r cynlluniau ar gyfer y canolbwynt i’r dyfodol yn cynnwys datblygu gweithdy atgyweirio yn Ninbych, darparu calendr o ddigwyddiadau gan weithio mewn partneriaeth ag unigolion a sefydliadau lleol, a pharhau i chwilio am safle sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau, gyda lleoedd newid a chyfleusterau newid babanod neillryw.

Beth oedd eu neges i’r rheiny sy’n ystyried siopa’n lleol yn eu cymunedau?

Ychwanegodd Marguerite: “Cefnogwch eich siopau lleol, helpwch y stryd fawr i ffynnu, a chadwch ein hysbryd creadigol, cyfeillgar a chymunedol yn fyw.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, dilynwch gyfrifon Cyngor Sir Ddinbych ar Facebook a Twitter, yn ogystal â chyfrif cyfryngau cymdeithasol #CaruBusnesauLleol / #LoveLiveLocal.