Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

St Winefride’s Well, Holywell

Taith Ddiwylliannol

Ffordd y Gogledd

Mae Ffordd y Gogledd, sy’n cychwyn wrth y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac yn ymlwybro tua’r gorllewin am 75 milltir / 120km i ben draw Ynys Môn, yn un o dri llwybr Ffordd Cymru sy’n arwain ac yn ysbrydoli ymwelwyr. Cafodd pob ‘Ffordd’ ei dylunio fel profiad hyblyg, ac nid fel rhywbeth i’ch cyfyngu, gyda llu o gyfleoedd i chi adael y prif lwybr, dilyn eich trwyn a darganfod mwy.

Bydd y rhaglen hon o bedwar diwrnod yn eich cyflwyno i’r cyfoeth o dreftadaeth a bywyd diwylliannol sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig. Ar hyd y ffordd, byddwch yn profi popeth o gelf gyfoes a henebion hynafol i gestyll trawiadol a chyfleoedd i fynd dan groen y gorffennol diwydiannol.

Diwrnod 1

Rydym yn ceisio gwasgu cymaint â phosib i’r daith hon, felly’r noson cyn i chi gychwyn, ewch i wylio ffilm neu sioe yn Theatr Clwyd, nid nepell o’r ffin yn yr Wyddgrug. Mae Diwrnod 1 yn cychwyn o ddifri gydag ymweliad â Thŷ Pawb yn Wrecsam, gofod cymunedol unigryw sy’n cyfuno arddangosfeydd celf, perfformiadau theatrig a stondinau marchnad lleol (ac os cewch chi amser, galwch heibio i Eglwys gyfagos Plwyf San Silyn, eglwys ganoloesol fwyaf Cymru).

Mae Ffynnon Santes Gwenffrewi, sy’n rhoi i Dreffynnon ei enw, yn gwbl unigryw trwy’r byd. Dyma un o saith rhyfeddod Cymru.

Sefydlwyd Llyfrgell Gladstone gan William Ewart Gladstone, a fu’n Brif Weinidog bedair gwaith. Mae’n cynnwys 32,000 o’i lyfrau ac erbyn hyn, dyma’r gofeb genedlaethol i’w fywyd a’i waith.

Greenfield Valley Heritage Park
Greenfield Valley Heritage Park

Lawrlwythwch ap Llwybrau Digidol Gogledd Ddwyrain Cymru trwy fynd i www.northeastwales.wales

St Winefride’s Well, Holywell
St Winefride’s Well, Holywell

Ymlaen â chi wedyn i Ganolfan Grefftau Rhuthun, y Ganolfan Genedlaethol i’r Celfyddydau Cymhwysol, i gasglu cofroddion unigryw, cyn gyrru ar hyd y ffordd odidog trwy Fwlch y Bedol ac ymlaen i Langollen am daith drên ar hyd Ddyffryn Dyfrdwy am Reilffordd Treftadaeth hanesyddol Llangollen.

Llangollen Railway
Llangollen Railway

Awgrym i aros dros nos: Llangollen.

Diwrnod 2

Dilynwch yr A5 i Fetws-y-Coed, ac yna’r A470 trwy lesni Dyffryn Conwy i dreulio’r dydd yn darganfod tref ganoloesol Conwy. Mae llawer i’w weld yma. Castell urddasol Conwy yw un o geiri gwychaf Ewrop, ac mae’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO (dringwch i ben y muriau uchel, cyn cerdded ar hyd waliau’r dref – sydd mewn cyflwr gwych – am olygfa i gipio’ch gwynt).

Mae Canolfan Ddiwylliant newydd Conwy yn datgelu mwy am hanes grymus y dref, tra bod cyfle i gael cipolwg ar gryfderau creadigol Conwy trwy fynd i weld rhaglen newidiol o arddangosfeydd celf yn yr Academi Frenhinol Gymreig.

Awgrym i aros dros nos: Conwy.

Diwrnod 3

Gyrrwch ar hyd yr A55 i Gastell Penrhyn ger Bangor. Dyma blasty crand o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a adeiladwyd ar sail y cyfoeth aruthrol a gynhyrchwyd gan ddiwydiant llechi Gogledd Cymru. Ewch draw i Ynys Môn wedyn trwy groesi Pont Grog hanesyddol Menai (a ddyluniwyd gan y peiriannydd enwog Thomas Telford, ac a agorodd ym 1826).

Ar yr ynys, ewch i ymweld â Bryn Celli Ddu ger Brynsiencyn, un o’r mwyaf trawiadol ymhlith nifer o henebion Neolithig ar Ynys Môn, cyn troi am y Deyrnas Gopr yn Amlwch i ddysgu mwy am y metel sydd wedi cael ei fwyngloddio yn yr ardal ers cyn yr Oes Efydd. Yn olaf, galwch heibio i Oriel Ynys Môn yn Llangefni, lle mae cyfle i chi weld rhaglen newidiol o waith gan artistiaid Cymreig, yn ogystal ag arddangosfa estynedig barhaol o baentiadau a darluniau gan un o gewri’r ynys, Syr Kyffin Williams.

Awgrym i aros dros nos: Biwmares.

Diwrnod 4

Ewch yn ôl i’r tir mawr dros bont Britannia (cymydog ifanc Pont Menai) a throi am Gaernarfon. Mae’r dref yn adnabyddus am ei chastell canoloesol anferth (Safle Treftadaeth y Byd arall), ond mae’r strydoedd culion atmosfferig, waliau’r dref, datblygiadau modern ar y cei a’r sîn fwyd gyfoes werth yr ymweliad ynddynt eu hunain.

I orffen eich taith, dilynwch yr A4086 i Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, sydd wedi ei hymgysegru i ddiwydiant a ail-siapiodd y rhan hon o Ogledd Cymru yn gyfan gwbl. Mae’n brofiad dilys sy’n hoelio’r sylw, a hynny am y rheswm mai’r hyn ydyw’r ‘amgueddfa’, mewn gwirionedd, yw’r hen weithfeydd llechi wedi eu gadael yn union fel pe bai’r gweithwyr newydd adael eu hoffer a ‘chlocio allan’ am y tro olaf.

Awgrym i aros dros nos: Llanberis.

Teithlenni

Bydd awgrymiadau o deithlenni i’ch helpu i fanteisio ar Ffordd Gogledd Cymru, gyda’r themâu canlynol.