Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Erddig Hall

Cam wrth gam

Ffordd y Gogledd

Mae Ffordd y Gogledd, sy’n cychwyn wrth y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac yn ymlwybro tua’r gorllewin am 75 milltir / 120km i ben draw Ynys Môn, yn un o dri llwybr Ffordd Cymru sy’n arwain ac yn ysbrydoli ymwelwyr. Cafodd pob ‘Ffordd’ ei dylunio fel profiad hyblyg, ac nid fel rhywbeth i’ch cyfyngu, gyda llu o gyfleoedd i chi adael y prif lwybr, dilyn eich trwyn a darganfod mwy.

Boed yn heiciwr heini neu’n rhodiwr hamddenol, mae’r rhaglen bedwar diwrnod hon yn cyflwyno’r llefydd gorau i fynd i gerdded ar Ffordd y Gogledd ac o’i chwmpas. Ewch am dro trwy fylchau mynyddig dramatig, parciau gwledig, fforestydd a gwarchodfeydd natur.

Diwrnod 1

Dechreuwch eich taith trwy fynd am dro o amgylch Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas ger Treffynnon, lle mae rhwydwaith o lwybrau yn datgelu nentydd, llynnoedd a choetiroedd brith, ynghyd â chofebion hanesyddol a maes chwarae awyr agored enfawr i ymwelwyr iau.

Mae Parc Gwledig Gwepra yn ymestyn dros 160 erw o goetir hynafol. Mae ganddo byllau, rhaeadrau a dolydd blodeuog. Ym 1257, cododd Llywelyn ein Llyw Olaf gastell yng nghornel y coetir hwn. Mae Castell Ewlo yno hyd heddiw, yng nghanol y coed, ac wedi ei leoli lai na milltir o faes parcio Parc Gwepra.

Ewloe Castle, Wepre Country Park
Ewloe Castle, Wepre Country Park

Ymlaen â chi wedyn i Barc Gwledig Loggerheads, sydd wedi ei wasgu rhwng Rhuthun a’r Wyddgrug yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, i gymryd tro ar hyd y llwybrau wedi’u harwyddo sy’n datgelu tirwedd o ddyffrynnoedd coediog, creigleoedd garw, a chlogwyni blaenllym.

Loggerheads Country Park
Loggerheads Country Park

Mae Coed Plas Power a Choed Melin y Nant ger Wrecsam yn cynnwys 104 erw / 42 hectar o goetir, cors a glaswelltir hynafol, sy’n gartref i ystod liwgar o anifeiliaid a phlanhigion gwyllt yn cynnwys glas y dorlan, boneddiges y wig (orange tip butterfly) a gwyddfid peraroglus. Os yw amser yn caniatáu, dilynwch arwyddion Llwybr Clywedog i lawr yr afon i Erddig, sydd yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’n esiampl o blasty sy’n dangos y gwahaniad rhwng y teulu ar un llawr a’r gweision ar lawr arall, ac yn cynnwys gerddi ysblennydd a gŵyl afalau bob hydref.

Erddig Hall
Erddig Hall

Awgrym i aros dros nos: Wrecsam.

Diwrnod 2

Dilynwch yr A5 i Fetws-y-Coed, cyn cymryd y B5106 trwy Ddyffryn Conwy i Drefriw a dringo’r ffordd gefn at unigedd Llyn Crafnant. Cewch dri llwybr wedi eu harwyddo ar lannau’r llyn uchel hwn, yn amrywio o dro byr a hygyrch trwy goetiroedd i drywydd hirach sy’n dringo i gynnig golygfeydd pell dros Eryri, ei mynyddoedd a’i choedwigoedd.

Dychwelwch at y B5106 a throi am Gonwy i ddarganfod y rhwydwaith o lwybrau sy’n igam-ogamu dros gopa Mynydd Conwy, gan chwilio am olion bryngeiri o Oes yr Haearn wrth i chi fynd. Ewch yn eich blaen i Landudno i gerdded i gopa’r Gogarth, mynydd bychan a garw sy’n ferw o fywyd gwyllt, ac sy’n dominyddu’r wybren uwchlaw’r gyrchfan glan môr ddeniadol hon.

Awgrym i aros dros nos: Llandudno.

Diwrnod 3

Gyrrwch ar hyd yr arfordir i Abergwyngregyn i fynd ar gylchdaith Rhaeadr Fawr, llwybr 4.5 milltir / 7.5km i’r teulu cyfan trwy ddyffryn hardd at y rhaeadr trawiadol.

Croesi’r Fenai i Langefni sydd nesaf, gydag ymweliad â Gwarchodfa Natur Nant y Pandy. Dyma ddyffryn coediog serth sy’n gartref i was y neidr symudliw, glas y dorlan asur, a’r wiwer goch chwareus. Rhowch gynnig ar y ras wythnosol yn y parc, sy’n her hyd yn oed i’r rhedwyr mwyaf brwd. Parc Gwledig y Morglawdd ar yr arfordir gogledd-orllewinol yw eich cyrchfan olaf ar Ynys Môn. Hen chwarel yw’r parc, sy’n cynnwys llwybrau cerdded heibio i arfordir creigiog, llynnoedd, clogwyni a choetiroedd – a hyn oll dafliad carreg yn unig o borthladd prysur Caergybi.

Awgrym i aros dros nos: Caergybi neu Fae Trearddur.

Diwrnod 4

Ewch yn ôl am y tir mawr a gyrrwch i Lanberis trwy Gaernarfon. Oddi yma, dim ond un ffordd sydd i chi fynd, sef i Gopa’r Wyddfa ar Lwybr Llanberis. Dyma’r llwybr hiraf a’r mwyaf graddol o’r chwe llwybr i’r copa (mae’n 9 milltir / 14.5km i gerdded yno ac yn ôl).

Os yw hynny’n codi awydd am fwy, gyrrwch trwy Fwlch Llanberis (lle bu’r tîm cyntaf i goncro Mynydd Everest yn ymarfer) i gerdded cylchdaith Aberglaslyn, Llyn Dinas a Chwm Bychan, gan gychwyn o Nantmor ger Beddgelert. Byddwch yn mynd heibio i rai o olygfeydd hyfrytaf Eryri, gan ymgolli yn harddwch Bwlch Aberglaslyn, pentref Beddgelert a dyfroedd tawel Llyn Dinas.

Awgrym i aros dros nos: Beddgelert.

Teithlenni

Bydd awgrymiadau o deithlenni i’ch helpu i fanteisio ar Ffordd Gogledd Cymru, gyda’r themâu canlynol.