Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Rhug Estate, Farm Shop

Ar drywydd bwyd a diod

Ffordd y Gogledd

Mae Ffordd y Gogledd, sy’n cychwyn wrth y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac yn ymlwybro tua’r gorllewin am 75 milltir / 120km i ben draw Ynys Môn, yn un o dri llwybr Ffordd Cymru sy’n arwain ac yn ysbrydoli ymwelwyr. Cafodd pob ‘Ffordd’ ei dylunio fel profiad hyblyg, ac nid fel rhywbeth i’ch cyfyngu, gyda llu o gyfleoedd i chi adael y prif lwybr, dilyn eich trwyn a darganfod mwy.

Yn y rhaglen bedwar diwrnod hon, byddwch yn cael blas ar beth o’r bwyd a’r diod gorau ar Ffordd y Gogledd ac o’i chwmpas, o bysgod ffres o’r môr a chig eidion a chig oen Cymreig sydd gyda’r gorau yn y byd i winoedd, cyrfau a gwirodydd sy’n ffrwydrad o flas lleol.

Diwrnod 1

Cychwynnwch eich taith yn Siop Fferm Ystâd Penarlâg. Chwiliwch y silffoedd am gynnyrch Cymreig anhygoel, cymerwch frechdan o fara wedi’i bobi’n ffres, a chasglwch eich ffrwythau a’ch llysiau eich hun yn ystod misoedd yr haf. Unwaith y byddwch chi’n teimlo’n sychedig, ewch draw i Fragdy Magic Dragon ym Mharc Hamdden y Plasau ger Wrecsam am frag sydd wedi ennill gwobrau cwrw annibynnol.

Wedi hynny, dilynwch yr A539/A5 trwy Ddyffryn Llangollen i Ystâd Rhug yng Nghorwen, lle mae modd i chi brynu popeth o gig oen Cymreig brau i gaws cyfandirol llawn blas yn y siop fferm (neu gadewch i rywun arall wneud y gwaith coginio drosoch chi trwy fynd am bryd i’r Bison Grill Bistro).

Rhug Estate, Farm Shop
Rhug Estate, Farm Shop

Awgrym i aros dros nos: Corwen.

Diwrnod 2

Gyrrwch ar hyd yr A5/A470 heibio bryniau, gweunydd a dyffrynnoedd i Fae Colwyn, lle mae bwyty Bryn Williams ym Mhorth Eirias dafliad carreg o’r môr ar ymyl adfywiedig y bae. Cafodd ei enwi yn Fwyty’r Flwyddyn Cymru yn 2019 gan yr AA, ac mae ei fwydlen, sy’n cynnwys bwyd môr lleol (rhowch gynnig ar y cregyn gleision), cig ffres o’r fferm a chynnyrch tymhorol, yn cynnwys rhywbeth fydd at ddant pawb.

Ewch yn eich blaen wedyn am daith o amgylch Gwinllan Conwy, lle cewch ddysgu sut y caiff eu gwinoedd gwobrwyedig eu creu (yn ogystal â’r cyfle i flasu ambell un). Ewch wedyn at Siocledyddion Artisan Baravelli’s yng Nghonwy. Dyma’r unig fan yng Nghymru lle caiff siocled ei greu ‘o’r ffeuen goco i’r bar’, ac mae’n llawn dop o ddanteithion blasus wedi eu crefftio’n gywrain.

Awgrym i aros dros nos: Conwy neu Landudno.

Diwrnod 3

Ewch ymlaen ar eich taith i Abergwyngregyn ger Bangor i ymweld â Distyllfa Aber Falls. Ewch ar daith o amgylch y ddistyllfa arloesol hon, un o bedair yn unig a leolir yng Nghymru, sydd hefyd yn cynhyrchu jin a gwirodydd â llaw. Anelwch am Fangor a Chaffi Blue Sky, lle mae’r fwydlen dymhorol ac amrywiol yn seiliedig, lle bynnag y bo modd, ar gyflenwyr lleol a chynnyrch organig. Dim ond hop, cam a naid o’r caffi yw’r daith i Winllan Pant Du ger Penygroes, sy’n cynhyrchu seidr a sudd afal blasus yn ogystal â gwin coch, pefriog a rosé.

Awgrym i aros dros nos: Caernarfon.

Diwrnod 4

Gan groesi Pont Britannia i Ynys Môn, ewch i Frynsiencyn am daith o amgylch Tŷ Halen a Chanolfan Ymwelwyr Halen Môn. O’i darddiad syml ar lannau’r Fenai, mae’r halen môr gwobrwyedig hwn bellach i’w weld ar fyrddau rhai o fwytai gorau’r byd.

Yn Llanddeusant, cewch hyd i Felin Llynon. Hon yw’r unig felin wynt weithredol yng Nghymru, a dyma’r lle i fynd am rai o gacennau gorau’r wlad, diolch i’r pobydd crwst o Fôn, Richard Holt. I orffen eich taith, ewch yn eich blaen i Fae Cemaes, lle mae Bwyty Bay View yng Ngwesty’r Gadlys yn gweini cynnyrch lleol megis cregyn gleision o’r Fenai, a hynny mewn ystafell fwyta ffasiynol gyda golygfeydd gwych dros y môr.

Awgrym i aros dros nos: Bae Cemaes.

Teithlenni

Bydd awgrymiadau o deithlenni i’ch helpu i fanteisio ar Ffordd Gogledd Cymru, gyda’r themâu canlynol.