Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Celtic Tours Wales logo

Celtic Tours Wales

Rydw i’n Dywysydd Bathodyn Glas proffesiynol ar y lefel uchaf i Gymru gyfan ac rydw i hefyd yn cynnig teithiau cerdded yn ninas Rufeinig Caer ac ar lannau hanesyddol Afon Merswy yn Lerpwl a byddwn wrth fy modd yn rhannu straeon gyda chi am y lle hyfryd hwn – lle’r ydw i’n falch o fyw ynddo.

Rydw i wedi gweithio ym maes twristiaeth ar hyd fy oes ac fel tywysydd am 10 mlynedd.  Yn ddiweddar, cefais fy ngwneud yn Llysgennad Lefel Aur ar gyfer Sir Ddinbych – rhan o Ogledd-ddwyrain Cymru sy’n dal yn eithaf dieithr i dwristiaid.

Yn ogystal â bod yn dywysydd, rydw i’n rheolwr ac yn gynlluniwr teithiau profiadol, felly os nad ydych chi’n adnabod y rhan hon o Gymru neu’r hyn y gallwch chi ei wneud yma, cysylltwch ac fe fyddwn i’n falch o helpu.

Mae Cymru’n llawn pethau gwych i’w gweld a’u gwneud ac mae fy nheithiau i’n ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth. Rydw i’n dweud hanesion pobl o’r oes a fu hyd at heddiw, felly p’un a ydych chi’n hoffi cestyll, gerddi arbennig, teithiau trenau a chychod camlas, smyglwyr a llongddrylliadau, rhyfeddodau peirianyddol neu’n mwynhau ymlacio a gweld golygfeydd anhygoel, cysylltwch.

Ynglŷn â’r teithiau yng Nghymru

Mae pob taith yn bersonol ac yn breifat felly ar eich cyfer chi neu’ch grŵp yn unig ac maent ar gael drwy’r flwyddyn, yn ddibynnol ar y tywydd ac isafswm niferoedd.

Cysylltwch â mi ar celtictourswales@hotmail.com neu ffoniwch Carole ar 07582 093582 i drafod eich anghenion.

Contact

Gallery