Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Dinas Brân Castle, Llangollen

Castell Dinas Brân

Nid y castell sydd bellach yn adfail ar ben y bryn oedd yr adeilad cyntaf i gael ei godi yn Ninas Brân, ond bryngaer o’r Oes Haearn a adeiladwyd tua 600 CC. Adeiladwyd rhagfur o bridd a orchuddiwyd yn ôl pob tebyg gan balis pren a diogelwyd hwn ymhellach gan ffos ddofn ar y llethr ddeheuol llai serth.

Roedd waliau’r fryngaer yn amgylchynu pentref o dai crwn. Mae Dinas Brân yn un o nifer o fryngaerau yn y rhan hon o Gymru; mae Moel y Gaer ond ychydig filltiroedd i’r gogledd-orllewin ger Bwlch yr Oernant, ac mae un arall gerllaw yn Y Gardden yn Rhiwabon tua’r dwyrain. Mae llawer o rai eraill ar Fryniau Clwyd ymhellach i’r gogledd ac yn y Gororau i’r de. Mae Dinas Brân yn yr hyn a oedd unwaith yn y Deyrnas hynafol Powys. Bu farw Tywysog olaf Powys Gruffydd Maelor ym 1191 a rhannwyd y deyrnas i greu Powys Fadog yn y gogledd a Phowys Wenwynwyn yn y de. Ei fab, Madog ap Gruffydd Maelor oedd arglwydd Powys Fadog a sefydlodd Abaty Glyn y Groes gerllaw. Er na ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth archeolegol, mae rhai cofnodion yn awgrymu ei fod yn rheoli o Ddinas Brân. Os oedd adeiledd yn bodoli, byddai wedi bod yn amddiffynfa bren yn ôl pob tebyg yn cynnwys palis pren o amgylch neuadd ac adeiladau eraill.

Mae’r cofnodion cynnar hefyd yn dweud iddo gael ei ddinistrio gan dân, ac yna adeiladwyd y castell newydd ar yr un safle, felly does fawr o obaith i ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth archeolegol o weddillion yr adeilad cynnar. Mae awgrym bod yna adeiledd cynharach, yn perthyn i Elisedd ap Gwylog o’r 8fed ganrif.  Yr Elisedd hwn sy’n rhoi ei enw i Golofn Eliseg ac roedd yn un o sylfaenwyr teyrnas Powys, ond unwaith eto does dim tystiolaeth ffisegol o unrhyw adeiledd i’w gael yn Ninas Brân. Mae’n debyg fod y castell sydd i’w weld heddiw wedi’i adeiladu gan Gruffydd II ap Madog, mab Madog ap Gruffydd Maelor rywbryd yn y 1260au. Ar y pryd roedd Gruffydd II ap Madog yn gynghreiriad i Dywysog Cymru, Llywelyn ap Gruffudd, gyda Phowys yn gweithredu fel gwladwriaeth byffer rhwng perfeddwlad Llywelyn yng Ngwynedd a Lloegr. Roedd Dinas Brân yn un o nifer o gestyll a gafodd eu hadeiladu ar ôl llofnodi Cytundeb Trefaldwyn a oedd wedi sicrhau Cymru ar gyfer Llywelyn, yn rhydd rhag ymyrraeth Saesnig. Yn wir, mae Castell Dolforwyn ger Y Drenewydd a orchmynnwyd i gael ei adeiladu gan Llywelyn tua’r un adeg yn cynnwys rhai nodweddion tebyg i Ddinas Brân a allai fod wedi bod yn waith gan yr un prif saer maen.

Cysylltwch

Castell Dinas Brân, Llangollen, Sir Ddinbych

Delweddau