Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Marsh Tracks BMX, Road and MTB Bike Park in Rhyl

Marsh Tracks

Mae ganddynt syniadau mawr yn Marsh Tracks. Cafodd yr arena di-draffig gwych hon ar gyfer chwaraeon beicio ei hagor gan Dave Brailsford, y dyn y tu ôl i lwyddiant beicwyr trac Olympaidd Prydain a Thîm Sky ar y ffordd.

Mae yno drac beicio ffordd cylch caeedig 1.3 cilomedr a thrac rasio BMX o safon genedlaethol gyda’r union giât ddechrau Bensink a ddefnyddiwyd yng Ngemau Olympaidd 2012. Ac mae hyfforddwyr cymwys Beicio Prydain wrth law i’ch dysgu, gwella eich ffitrwydd a hogi eich awch cystadleuol.

Gallwch logi beiciau ffordd neu beiriannau BMX mewn amrywiaeth o feintiau i siwtio rhai pump oed i fyny – yn ogystal â helmedau a phadiau pen-glin a phenelin. Ac os ydych wir eisiau edrych y part, gallwch brynu offer brand o’r siop ddillad ac ategolion.

Cysylltwch

Marsh Tracks, Stad Ddiwydiannol Glan Y Morfa, Marsh Road, Y Rhyl LL18 2AD

Delweddau