Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

One Planet Adventure, Llandegla

One Planet Adventure

Oneplanet Adventure, Canolfan Ymwelwyr Coedwig Arweiniol y DU. Wedi’i leoli yng Nghoedwig Llandegla.

P’un a ydych ar ddwy droed neu ar ddwy olwyn, mae Oneplanet Adventure yn cynnig cyfle perffaith i fwynhau ac anturio yn yr awyr agored. P’un a ydych yn awyddus i fynd am dro hamddenol fel teulu ar hyd un o’r llwybrau cerdded, neu’n barod i fynd ar daith llawn adrenalin ar un o’r llwybrau beicio mynydd mwyaf yn y DU, gall Oneplanet Adventure gynnig diwrnod gwych gyda’r holl gyfleusterau y byddech chi’n ei ddisgwyl gan ganolfan ymwelwyr coedwig arweiniol. Mae yna rywbeth at ddant pawb yn Oneplanet Adventure.

SGILIAU BEICIO MYNYDD – CYRSIAU I BAWB

P’un a ydych yn ddechreuwr neu’n hen law arni, gall ein cyrsiau sgiliau beicio mynydd eich helpu i gyrraedd y lefel nesaf. Rydym yn defnyddio ein meysydd sgiliau a’n rhwydwaith o lwybrau MTB penodol i’ch helpu chi i gymryd y cam nesaf mewn perthynas â’ch sgiliau reidio beics.

LLOGI BEICIAU

A ydych chi’n awyddus i roi cynnig ar feicio mynydd, ond yn teimlo nad oes gennych y cyfarpar cywir? Dim problem o gwbl. Gallwn fodloni bob un o’ch anghenion yma yn Oneplanet Adventure. Rydym wedi arbenigo mewn llogi beiciau mynydd o ansawdd uchel ers dros ddeng mlynedd bellach, ac rydym yn gwybod faint o wahaniaeth mae beic mynydd o ansawdd uchel a gaiff ei gadw’n dda yn ei wneud i’ch profiad.

CAFFI

Mae’n rhaid neilltuo amser i gael tamaid i’w fwyta a myfyrio ar eich profiad pan mae’n dod i unrhyw antur.

Mae ein caffi yn darparu digonedd o fwyd blasus, coffi gwych ac awyrgylch croesawgar i roi cyfle i bob cwsmer adrodd eu hanesion.

Mae ein bwriad yn syml – Mae arnom ni eisiau gwneud bwyd a fydd yn apelio atoch ar ôl eich antur. Bwyd cartref a syml wedi’i goginio’n dda gan ddefnyddio cynnyrch lleol. Rydym yn osgoi defnyddio prydau parod a choginio bwyd yn y microdon, ein nod yw paratoi bwyd sy’n apelio at bobl ar ôl eu taith ar feic.

Cysylltwch

ONEPLANET ADVENTURE LTD. COED LLANDEGLA FOREST, RUTHIN RD, LLANDEGLA, DENBIGHSHIRE, LL11 3AA

Delweddau