Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

ProKitesurfing in Denbighshire

Pro Kitesurfing

Mae Pro Kitesurfing yn cynnig gwersi unigol neu 2-1 ar draws y byd ar bob agwedd o weithgareddau padlo a gweithgareddau gyda barcud. O sgiliau rheoli bwrdd sylfaenol, hedfan barcud pŵer i wersi barcudfyrddio a thriciau barcud i ddechreuwyr. Mae dysgu sut i hedfan barcud ar y dŵr ac ar y tir yn ddigon hawdd, ond fe allai hefyd fod yn heriol, hyd yn oed i’r bobl fwyaf uchelgeisiol.

Mae ein canolfan hyfforddi ar y traeth sydd wedi’i lleoli yn y Rhyl, Gogledd Cymru, yn lleoliad perffaith i ddysgu sut i farcudfyrddio.

Mae ein lagwnau dŵr fflat yn ei gwneud yn hawdd i bobl sefyll a datblygu eu sgiliau yn ddiogel, sy’n berffaith ar gyfer dechreuwyr yn y dŵr. Yn ddibynnol ar gyfeiriad y gwynt, byddwn yn cynnal ein gwersi naill ai yn ein canolfan hyfforddi yn y Rhyl, Porthmadog (Morfa Bychan), Sir Fôn (traeth Niwbwrch) neu Pen Morfa (Llandudno), dyma’r lleoliadau gorau ar gyfer dysgu sut i hedfan barcud yng Ngogledd Cymru. Pro Kitesurfing yw Y LLE i’ch helpu chi i gyflawni eich nodau barcudfyrddio!​

Cysylltwch

E Parade, Rhyl, Sir Ddinbych LL18 3AF