Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Theatr Twm O’r Nant

Theatr Twm O’r Nant

Yn dyddio’n ôl i 1890, adeiladwyd Theatr Twm o’r Nant fel Neuadd Goffa gan Dr Evan Pierce, gellir gweld cofeb ohono yng Ngerddi Coffa Dr Evan Pierce 50 medr i ffwrdd. Mae Theatr Twm o’r Nant yn theatr weithredol gyda:

  • Lle i 118 o bobl i eistedd, yn ogystal â lle ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn
  • Llwyfan prosceniwm, ystafelloedd newid ac awditoriwm ar lefelau gwahanol sydd wedi’i ailwampio’n ddiweddar
  • Systemau sain a goleuo modern
  • Taflunydd ffilm a sgrin maint llawn a system sain amgylchynol dolby
  • Cyfleusterau cynhwysol ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys mynediad i’r llwyfan
  • Cyfleusterau arlwyo trwyddedig.

Mae’r theatr gymunedol yn cynnal cynyrchiadau drama proffesiynol ac amatur yn ogystal â sioeau sinema, sioeau cerdd a digwyddiadau dawns. Caiff ei ddefnyddio’n aml gan fandiau a grwpiau drama, yn ogystal â myfyrwyr unigol i gynnal ymarferion. Nid yw parcio’n broblem yma, ac mae dau le parcio i bobl anabl ar y safle. Mae’r theatr yn lleoliad perffaith i gynnal cynadleddau, digwyddiadau busnes ac mae ar gael i’w llogi.

Cysylltwch

Theatr Twm o’r Nant, Station Road, Denbigh LL16 3DA