Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

WIld Bushcraft Company

The Forge / Wild Bushcraft Company

A ydych chi’n chwilio am brofiad glampio unigryw? Mae The Forge yng Nghorwen yn cynnig profiad gwyliau awyr agored unigryw sy’n cyfuno gwersylla moethus gyda chyfle i roi cynnig ar sgiliau goroesi a byw yn y gwyllt. Be well na dysgu sut i gynnal eich tân gwersyll eich hun (heb fatsys wrth gwrs!) a choginio swper i chi’ch hunan yn yr awyr agored a thostio malws melys cyn mynd i’r gwely!

Y syniad y tu ôl i The Forge yw annog pobl i greu eu hanturiaethau eu hunain yn yr awyr agored gan ddarparu’r holl adnoddau modern i sicrhau cyn lleied o straen â phosibl i chi ar eich gwyliau. Mae ein llety yn cynnwys pebyll cloch gyda charped a gwlâu go iawn, dillad gwely cotwm gwyn, nifer o garthenni a chlustogau cyfforddus a stôf goed i’ch cadw’n gynnes ac yn glud gyda’r nos. Gyda phedair ardal wahanol i ddewis o’u plith yn cysgu rhwng 4 ac 8 o bobl, mae cegin fach llawn offer gyda phopeth sydd ei angen arnoch ym mhob pabell, gan gynnwys tap dŵr, hob nwy, blwch oeri a digon o lestri, sosbenni, platiau a chytleri. Mae gennym ni hyd yn oed wydrau gwin go iawn a chrochenwaith lleol hyfryd. Mae lle tân ym mhob pabell ac rydym yn eich annog i’w defnyddio ar bob cyfrif! Mae toiledau compostio preifat a chawodydd cynnes ar gael, yn ogystal â chaban dan do mawr lle gallwch ymlacio a chwarae gemau.

Nodwedd unigryw o The Forge yw’r fryngaer Oes yr Haearn, ac mae croeso i bob un o’n gwesteion ei archwilio. Mae hefyd yn gefnlen berffaith i’n cyrsiau byw yn y gwyllt, mae’r rhain yn amrywio o sesiynau hanner diwrnod/diwrnod llawn i sesiynau pedwar diwrnod yn creu cyllyll a bwa a saeth.

Croesawir cŵn a phlant. Mae modd i grwpiau mawr logi’r safle cyfan yn ogystal – rydym yn hapus i ddarparu ar gyfer sefydliadau corfforaethol, partïon penblwydd, priodasau a phenwythnosau stag a phartïon plu.

Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â https://theforgecorwen.co.uk a https://wildbushcraft.co.uk neu ffoniwch 01490 412972.

Contact

The Forge, Cae Einion, Corwen, North Wales, UK

Gallery