Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2026

Mae Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn falch o rannu rhaglen ddigwyddiadau Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2026 gyda chi.

Mae’r rhaglen eang yn amrywio o Badl-fyrddio yn y tywyllwch i adrodd chwedlau’r sêr yn y coed i weld llwch sêr o dan ficrosgopau! Mae rhywbeth i bawb ond, mae tocynnau’n gyfyngedig felly archebwch eich lleoedd yn gyflym!

Eleni rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag amryw o fusnesau a sefydliadau fel a ganlyn:

  • Mae Adverse Camber Productions a’u prosiect Cysur y Sêr yn cynnal pum gweithdy gyda ffocws ar y sêr a’u mythau a’u chwedlau Cymreig yn ogystal â rhai dehongliadau mwy modern.
  • Bydd SUPLass Adventures yn cynnal nosweithiau bythgofiadwy o badl-fyrddio o dan y sêr, rhywbeth na ddylid ei golli.
  • Bydd y seryddwr lleol Rob Jones a Menter Iaith yn cynnal “Cawl a Chytser”, digwyddiad iaith Gymraeg ar Foel Famau. Mae’n siwr o fod yn ddigwyddiad blasus gan fyddwn yn gweini cawl a siocled poeth o Gwt y Bugail. 

Rydym hefyd yn falch o groesawu ein cydweithiwr Dani Robertson, Swyddog Awyr Dywyll Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Ochr yn ochr â ni, bydd Dani yn cyflwyno am waith diweddar Bartneriaeth NOS y Gogledd, yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau yn y frwydr i amddiffyn ein hawyr dywyll.

Fyddan yn rhannu’r gwahanol ddulliau archebu ar draws eincyfryngau cymdeithasol dros yr wythnos nesaf.

Am ragor o wybodaeth am ein gwaith Awyr Dywyll, ewch i: https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/article/dark-skies-project/