Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Taith Drwy Hanes: Crwydro Llwybr Tref Corwen

Wedi’i leoli yng nghanol Dyffryn Dyfrdwy, wedi’i amgylchynu gan fryniau a thirweddau garw, yn aml cyfeirir at Gorwen fel “Croesffordd Gogledd Cymru”. Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos fel tref farchnad dawel, ond wrth gerdded ar hyd Llwybr Tref Corwen, fe ddarganfyddwch chi’n fuan mai yma y mae rhai o straeon mwyaf rhyfeddol Cymru.

Mae un enw’n sefyll allan yn fwy na’r lleill yma, sef: Owain Glyndŵr. Mae yna gyswllt bythol rhwng Corwen a’r ffigur chwedlonol yma, a llwybr y dref yw un o’r ffyrdd gorau o gysylltu â’r stori yma.

Llwybr Drwy Amser

Mae Llwybr Tref Corwen yn llwybr cerdded hamddenol sy’n eich tywys o amgylch tirnodau hanesyddol y dref. Mae’n ffordd ddelfrydol o dreulio bore neu brynhawn, ac ar hyd y ffordd, byddwch yn canfod canrifoedd o hanes – popeth o wrthryfel canoloesol i ddiwydiant yr Oes Victoria.

Dyma rai o’r uchafbwyntiau:

✨ Cerflun o Owain Glyndŵr

Yng nghanol Corwen mae’r cerflun efydd hynod o Owain Glyndŵr, Tywysog cynhenid olaf Cymru.  Fe arweiniodd wrthryfel ffyrnig yn erbyn rheolaeth Lloegr yn fuan yn y 15f Ganrif, ac yn ôl y sôn yn 1400, fe gododd ei faner ger Corwen, gan nodi dechrau ei wrthryfel. Wrth sefyll o flaen y cerflun, fe allwch chi bron a theimlo egni’r foment hanesyddol yna.

✨ Eglwys Corwen (Sant Mael a Sant Sulien)

Mae’r eglwys hanesyddol yn gysylltiedig â seintiau Celtaidd a’r cyfnod canoloesol. Cerddwch o gwmpas y fynwent ac fe ddarganfyddwch chi gerrig bedd sydd yn ganrifoedd oed ac adleisiau o hir hanes ysbrydol y dref.

Corwen

✨ Treftadaeth Victoraidd a’r Rheilffordd

Mae’r llwybr hefyd yn eich tywys at hanes mwy diweddar Corwen, o’i gyfnod fel arhosfan brysur i’r Goetsh Fawr, i’w rôl yng nghyfnod y rheilffordd. Mae Rheilffordd Corwen-Llangollen yn ffordd hyfryd o gysylltu gorffennol a phresennol y dref.

Llangollen Railway

✨ Afon Dyfrdwy a’r Golygfeydd o Amgylch

Nid oes yna’r un ymweliad â Chorwen yn gyflawn heb fwynhau Afon Dyfrdwy. Mae ei dyfroedd wedi siapio’r dref ers cenedlaethau.  Mae’r bryniau cyfagos yn gefndir hyfryd i gerdded – yn berffaith i gael ysbaid a thynnu ychydig o luniau.  Gallwch hyd yn oed grwydro ar hyd y bryniau o amgylch bryngaer Caer Drewyn a Phen y Pigyn.

Cysylltu’r Llwybr i Ddiwrnod Owain Glyndŵr

Ar 16eg bob mis Medi, mae Cymru yn dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr, gan nodi’r foment yn 1400 pan ddatganodd Glyndŵr ei hun yn Dywysog Cymru. Mae Corwen yn chwarae rhan arbennig yn y dathliadau yma, gan fod yna gysylltiad bythol gyda dechrau ei wrthryfel.

Mae cerdded o amgylch Llwybr Tref Corwen yr adeg yma o’r flwyddyn yn teimlo’n arbennig o bwerus – nid crwydro rownd y dref yn unig ydych chi, rydych chi’n olrhain hanes.  Mae digwyddiadau a dathliadau yn aml yn cael eu cynnal o amgylch y dref, gan ddod â stori Glyndŵr yn fyw i drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Fe fydd Gŵyl Glyndŵr eleni, 13-19 Medi, yn cael ei chynnal mewn nifer o leoliadau yng Nghymru ac fe fydd rhai digwyddiadau’n cael eu cynnal yng Nghorwen. I gael mwy o wybodaeth ewch i’w gwefan.

Pam ymweld â Chorwen?

Mae Llwybr y Dref yn ddigon byr i’w grwydro’n hamddenol, ond mae’n llawn hanes sydd yn ymestyn ymhell tu hwnt i’r dref ei hun. 

I’r rhai sy’n caru hanes, mae’n rhaid i chi ymweld â Chonwy; i deuluoedd, mae’n antur hamddenol; ac i unrhyw un sy’n mwynhau diwylliant, treftadaeth a golygfeydd hardd o Gymru, mae’n lle perffaith i stopio. Mae gan hefyd amgueddfa ei hun yn ogystal â’r tafarndy Owain Glyndŵr a fabwysiadwyd gan y gymuned yn ddiweddar, sydd yn dominyddu’r sgwâr.

Pa unai ydych chi’n galw heibio ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr neu unrhyw adeg arall o’r flwyddyn, mae Corwen yn eich gwahodd i gamu yn ôl mewn amser, dathlu treftadaeth Cymru a mwynhau tref sydd yn falch o’i hanes.

Corwen Museum