Taith Drwy Amser: Llwybr Tref Rhuthun
Yn swatio ymysg bryniau eang Dyffryn Clwyd, mae Rhuthun yn drysor Cymreig â chyfoeth o hanes a phensaernïaeth syfrdanol. Mae Simon Jenkins yn disgrifio Rhuthun fel “y dref fach fwyaf dymunol yng Nghymru”, ac wrth gerdded drwy’r dref hyfryd hon, cewch eich arwain ar daith drwy’r canrifoedd.

Trosolwg o’r Daith
- Pellter: 1.5 milltir (2.4 km)
- Amser: 90 munud
- Taith: Cylch
- Man Cychwyn: Maes parcio Cae Ddôl (LL15 1HN)
- Tirwedd: Rhai adrannau serth – argymhellir esgidiau cyffyrddus
1. Cae Ddôl – Porth y Dolydd
Mae’r daith yn dechrau yng Nghae Ddôl, llifddol hardd ger afon Clwyd. Cewch eich croesawu gan hwyaid, elyrch, cae chwarae a pharc sglefrio cyn camu’n ôl i orffennol Rhuthun.
2. Carchar Rhuthun – Adleisiau’r Gorffennol

Ar waelod Stryd Clwyd, safai’r carchar ysblennydd yn arwydd o orffennol tywyll. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol ym 1654, a’r adain dull Pentonville a adeiladwyd ym 1868 yw’r unig un o’i math sydd ar agor i ymwelwyr ym Mhrydain. Crwydrwch drwy’r celloedd ac ymgollwch yn yr hanesion arswydus, ac os ydych chi’n teimlo’n ddewr, beth am fentro i gell y dyn condemniedig.
3. Yr Hen Lys – Pren sy’n Adrodd Cyfrolau
Cerddwch i fyny’r allt tua’r Hen Lys a safai ar ben uchaf Stryd Clwyd, codwyd yr adeilad presennol ym 1421 yn dilyn dinistriad y llys blaenorol yn ystod gwrthryfeloedd Owain Glyndŵr. Mae crocbren brawychus yn hongian ar dalcen yr adeilad, yn dystiolaeth o greulondeb yr oes a fu. Gerllaw, mae carreg enfawr, Maen Huail, yn adrodd chwedl enwog Brenin Arthur, sef y man lle honnir iddo dorri pen gelyn.
4. Nantclwyd y Dre – Trysor Pren Cymru Safai Nantclwyd y Dre ar Stryd y Castell, tŷ tref pren hynaf Cymru, sy’n dyddio’n ôl i 1435. Mae elfennau mewnol yr adeilad wedi’u cynnal yn ofalus dros y canrifoedd er mwyn i chi fedru camu drwy saith oes o fywyd Cymreig, ac mae Gardd yr Arglwydd ar y llaw arall, yn ddihangfa heddychlon

5. Castell Rhuthun – Rhyfeddod Gothig
Mae’r porthdy tywodfaen dramatig y byddwch yn mynd heibio’n deillio’n ôl i’r Oes Fictoria, fe’i crëwyd gan Henry Clutton ym 1826. Ond, y tu draw i’r adeilad diddorol hwn, safai castell trawiadol o’r 13eg ganrif. Crwydrwch drwy’r adfeilion llawn chwedlau a hanes, neu beth am aros y noson er mwyn manteisio ar y gwesty a’r sba moethus a mwynhau te prynhawn blasus.

6. Llyfrgell Rhuthun – O Lysoedd i Lecynnau Astudio Tawel
Adeiladwyd Llyfrgell Rhuthun ym 1785 fel stordy ar gyfer cofnodion swyddogol a chosbedigaethau’r Brawdlys Mawr a Llys Ynadon tan 1986. Llyfrgell yw’r adeilad hwn bellach – a’r unig gosb yw dirwy fechan am ddychwelyd llyfrau’n hwyr.
7. Canolfan Grefft Rhuthun – Hanes a Chreadigrwydd
Ewch draw at y ganolfan grefft drwy ddilyn Well Street, ac fe gyrhaeddwch chi un o gadarnleoedd mwyaf Cymru ar gyfer celfyddydau cymhwysol. Agorwyd y Ganolfan yn 2008, mae’n cynnwys orielau, gweithdai, preswyliadau, caffi, a chanolfan wybodaeth i dwristiaid – i gyd mewn un adeilad trawiadol sy’n cyfuno elfennau modern â’i amgylchiadau hanesyddol.

8. Neuadd y Dref a’r Farchnad – Balchder Bro Gothig
Ewch draw i Stryd y Farchnad a arferai fod yn farchnad da byw llawn bwrlwm. Mae Neuadd y Farchnad wedi’i drawsnewid i fod yn farchnad boutique ar gyfer gwneuthurwyr a masnachwyr moesegol, ac mae Neuadd y Dref gerllaw’n dirnod Fictoraidd Gothig mawreddog.
9. Eglwys Sant Pedr – Calon Ysbrydol Rhuthun
Adeiladwyd yr eglwys ysblennydd hon sydd â dau gorff ym 1310, ac fe’i hail-siapiwyd yn ystod gwaith adfer yn yr Oes Fictoria. Mae iddi nenfydau pren bwaog, giatiau metel â cherfiadau manwl o 1727, yn ogystal â chofebion ambell i seren leol, fel Gabriel Goodman a sefydlodd yr elusendai.
10. Cofeb Tom Pryce – Ysbryd y Byd Rasio Ewch draw i dalu teyrnged i Thomas Maldwyn Pryce, gyrrwr F1 poblogaidd Rhuthun, a fu farw’n 27 oed mewn damwain yn y Grand Prix yn Ne Affrica ym 1977. Mae Cofeb efydd drawiadol gan y cerfluniwr lleol Neil Dalrymple yn cadw ei etifeddiaeth a’i falchder

Tyllau Ysbïo a Helfa Gelf – Antur yn y Strydoedd
Yn ogystal â phensaernïaeth drawiadol, mae gan Ruthun ochr chwareus – yr Helfa Gelf a lansiwyd yn 2014. Mae’n cynnwys deg o dyllau ysbïo yn y waliau a 22 o ffigurau cudd ar draws y dref. Crëwyd y rhain i ysbrydoli pobl i archwilio, mae pob twll ysbïo’n adrodd hanes a chwedlau lleol. Mae’r arwyddion coch, meinciau, coed newydd a chanllawiau sain yn dod â’r profiad yn fyw, felly cadwch lygad allan amdanynt wrth i chi gerdded drwy Ruthun.
Mae Taith Tref Rhuthun yn gyfle i deithio’n ôl drwy amser, gan gyfuno natur hamddenol, hanes tywyll, celf, pensaernïaeth ac urddas lleol i gyd mewn un daith lai na dwy filltir o hyd. Mae’n berffaith ar gyfer teuluoedd, unrhyw un sy’n hoff o hanes neu gelf, neu’n chwilio am ficrocosm o dreftadaeth Gymreig.
Gallwch lawrlwytho llwybr yma.
