Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

2024 – Blwyddyn o Llwybrau

 

Mae Llwybrau Wales, by Trails yn codi o lwyddiant y pum blwyddyn thema y mae Croeso Cymru wedi’u cynnal hyd yma – sef antur, chwedlau, môr, darganfod ac awyr agored. Mae’r blynyddoedd thema yn tynnu sylw at Gymru fel cyrchfan groesawgar, gynhwysol sydd ar agor drwy’r flwyddyn, boed hynny ar gyfer yr anturiaethwyr dewraf neu’r ymwelwyr hamddenol hynny sy’n ceisio ymlacio.

Rydym ni yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn credu bod y thema Llwybrau yn berffaith ar gyfer ein rhan ni o Gymru. Mewn byd ôl-bandemig, mae ymchwil yn dangos bod pobl yn chwilio am brofiadau sy’n eu hailgysylltu, boed hynny â threftadaeth, diwylliant, natur neu gymuned.

Moel Famau Country Park
Parc Gwledig Moel Famau

Pwrpas y flwyddyn yw darganfod trysorau anghofiedig, mwynhau symbylu’r synhwyrau a chreu atgofion ar hyd llwybrau o amgylch bwyd, atyniadau, gweithgareddau, tirweddau ac arfordiroedd lleol.

Dark Skies in Denbighshire

Rydym yn gobeithio ysbrydoli ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn i greu eu llwybrau eu hunain yn ein cornel fach ni o Gymru a rhoi hwb i’r economi drwy gefnogi busnesau lleol. Rydym wedi creu llyfryn ysbrydoledig a fydd yn cael ei ddosbarthu’n eang i demtio ymwelwyr yn ogystal â bod ar gael yn ddigidol, ynghyd â ffilmiau newydd, syniadau llwybrau ysbrydoledig gan bobl leol a digon o flogiau ac ysbrydoliaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i wneud y #flwyddyn lwybrau yn un i’w cofio. Rydem yn gwahodd ymwelwyr a phobl Cymru i greu eu llwybrau epig eu hunain yng Nghymru yn ystod 2024.