Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Diwrnod Santes Dwynwen

santes dwynwen

Santes Dwynwen ydi nawddsant cariadon Cymru, ac rydym ni’n dathlu Diwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr.

Ond pwy oedd Santes Dwynwen?

Yn ôl y chwedl, ganwyd Dwynwen yn y pumed ganrif yn nheyrnas Brycheiniog yn ferch i’r brenin Brychan Brycheiniog. Roedd ganddo 24 o ferched a Dwynwen oedd yr harddaf yn eu plith.

Blodeuodd Dwynwen yn ferch hardd a disgynnodd Maelon Dafodrill, brenin o’r gogledd, mewn cariad â hi. Ac roedd hithau’n ei garu yntau hefyd. Fodd bynnag, roedd gan ei thad ŵr arall mewn golwg iddi ac felly roedd yn llwyr yn erbyn iddi briodi Maelon. Rhedodd Dwynwen i ffwrdd ac arni ofn anufuddhau i’w thad, ond aeth Maelon ar ei hôl a digiodd pan wrthododd ei briodi. Gweddïodd Dwynwen ar Dduw am gael ei rhyddhau o’i chariad ac ar ôl syrthio i gysgu’r noson honno ymddangosodd angel gyda diod hud iddi. Ar ôl yfed y ddiod hud anghofiodd Dwynwen bopeth am ei chariad a throdd Maelon yn lwmp o rew. Yna rhoddodd Duw dri dymuniad iddi.

St Dwynwen

Ei dymuniad cyntaf oedd dadmer Maelon; ei hail ddymuniad oedd gweld Duw yn cyflawni gobeithion a breuddwydion gwir gariadon; a’i thrydydd dymuniad oedd peidio â phriodi. Cafodd ei dymuniadau eu hateb, ac i ddiolch am hynny cysegrodd Dwynwen weddill ei hoes i Dduw. Roedd arni eisiau treulio ei hamser yn helpu’r rheiny oedd mewn poen cariad.

Felly gyda’i chwaer Cain a’i brawd Dyfnan teithiodd o gwmpas Cymru yn pregethu ac yn sefydlu aneddiadau Cristnogol.

Sefydlodd hefyd leiandy ar Ynys Llanddwyn ar Ynys Môn, a daeth ffynnon ar yr ynys a enwyd ar ei hôl yn fan poblogaidd i bererinion ar ôl ei marwolaeth yn 465AD. Credodd yr ymwelwyr bod pysgod y ffynnon sanctaidd yn gallu darogan tynged cariadon. Mae cwlt Dwynwen wedi goroesi’r canrifoedd gyda phobl yn mynd ar bererin i Ynys Llanddwyn, yn enwedig os oedd ganddyn nhw broblemau gyda’u bywyd carwriaethol, i weddïo ar Santes Dwynwen ac i ymweld â’i ffynnon sanctaidd.

Mae olion yr hen eglwys yno hyd heddiw, ac fe gynhelir gwasanaeth ynddi pob blwyddyn. Beth am wylio’r fideo yma o Ynys Llanddwyn. Mae Llanddwyn yn rhan o Lwybr Arfordir Ynys Môn ac yn fan poblogaidd iawn i fynd am dro.

Llanddwyn Church

Felly pam aros tan Ddydd Sant Ffolant i ddatgan eich cariad pan fedrwch chi ddweud ‘dwi’n dy garu di’ dair wythnos yn gynt?

Mae gan lawer o fusnesau lleol gardiau ac anrhegion arbennig i ddathlu’r diwrnod arbennig hwn felly beth am drin eich anwyliaid ym mis Ionawr eleni? Archebwch fwrdd yn eich hoff le a churo rhuthr dydd Sant Ffolant . Mae gennym syniadau eraill  yn fan hyn  sut i  ddathlu’n rhamantus yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.