Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Pyllau yn Nhwyni Gronant wedi’u paratoi i gefnogi amffibiad mwyaf prin yng Nghymru

Mae gwaith wedi cael ei wneud eleni i lanhau cartref anifail prin yn y DU.

Mae Tîm Bioamrywiaeth a Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych wedi dod ynghyd i weithio gyda phartneriaid prosiect i wneud gwaith pwysig i amddiffyn rhywogaethau prin yn Nhwyni Gronant.

Yn ddiweddar fe ymunodd cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, Eni UK Ltd, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Gaer a Bourne Leisure Ltd  ym Mhyllau Gronant i lanhau’r ardal i gefnogi llyffantod cefnfelyn lleol.

Fe arferai poblogaethau o lyffantod cefnfelyn fod yn gyffredin ar draws gogledd Cymru, ond yn sgil newidiadau i ddefnydd tir a datblygiadau, bu gostyngiad yn rhywogaethau’r rhanbarth a bu iddynt farw allan yng Nghymru yn 1950au cyn cael eu hailgyflwyno yng ngogledd ddwyrain Cymru ar hyd system twyni Gronant a Thalacre.

Fe grëwyd pyllau yn Nhwyni Gronant dros ddau ddegawd yn ôl ac fe drosglwyddwyd penbyliaid o Sefton i boblogi’r ardal.

Roedd y gwaith rheoli cynefin a wnaed gan y partneriaid yn cynnwys dadorchuddio a chribinio’r pyllau presennol a thorri’r deiliach yn ei ôl er mwyn rhoi cyfle i’r llyffantod cefnfelyn fridio a goroesi ar y safle.

Meddai Liam Blazey, Swyddog Bioamrywiaeth: “Mae’n well gan lyffantod cefnfelyn byllau bas ar dwyni felly mae’n bwysig iawn ein bod yn cynnal a chadw’r pyllau yma er mwyn gwneud ein gorau i amddiffyn rhywogaeth mor brin yn y DU.

“Mae cael cefnogaeth yr holl grwpiau yma ar y safle i wneud y gwaith wedi bod yn wych, ac fe fydd yn mynd yn bell i wneud yr ardal yma yn ardal sydd yn wirioneddol o bwysig i amddiffyn y rhywogaeth yma.