Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Moel Tŷ Uchaf, Llandrillo ar daith gerdded dywys ar fws gan y blogiwr gwadd Julie Brominicks

 

Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.

Rydym yn gobeithio chwistrellu rhywfaint o lawenydd i fis Ionawr drwy rannu syniadau cerdded gyda chi  gan ein blogiwr gwadd Julie Brominicks, awdur The Edge of Cymru.  Y rhan orau yw eich bod yn gallu cyrraedd gyda  drafnidiaeth gyhoeddus a bydd gan bob un fap syml i chi ei ddilyn. Mae gennym 8 wedi’u cynllunio ar eich cyfer y misoedd nesaf, felly cadwch lygad amdanynt ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Rydym am eich ysbrydoli i archwilio ein ardal brydferth dipyn yn ddyfnach gan defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy.

Ein un cyntaf yw Moel Tŷ Uchaf, sydd wedi’i leoli ar ffin ddeheuol Sir Ddinbych ychydig uwchben pentref hardd Llandrillo.

‘Cennog, llwynaidd a deiliog. Pinc, gwyrdd ac aur – mae pob carreg wedi’u gorchuddio â chen cywrain.

Mae’r gwynt wedi cusanu ac ymosod ar y cerrig hyn ers miloedd o flynyddoedd. Ac eto bedair mil o flynyddoedd yn ddiweddarach, maent yn dal i ffurfio cylch perffaith ar fryn rhwng mynyddoedd a dyffryn. Gwrandewch. Mae sŵn chwyrnu mecanyddol yn codi o fferm ac yna’n pylu. Gwrandewch rŵan. Dadl rhwng bwncath a brân. Gwrandewch eto – dim ond y gwynt. Hen sŵn.

Mae cylch Moel Tŷ Uchaf yn dyddio i’r Oes Efydd gynnar pan gyrhaeddodd pobloedd mewn cychod bach o’r cyfandir ac integreiddio gyda’r poblogaethau Neolithig presennol. Yn raddol bach, datblygodd dulliau newydd. Daeth bwyeill metel i gymryd lle’r rhai carreg. A disodlwyd yr hen arferiad o gladdu llawer o bobl mewn un beddrod gan yr arferiad o amlosgiadau – neu gladdedigaethau unigol i bobl bwysig. Fel yr un yma.

 

Dim ond 11 metr o ddiamedr, roedd gan y cylch hwn o 41 o gerrig wedi’u pacio’n agos fynedfa ac o bosibl yn cynnwys cist ar gyfer un corff yn y canol, lle mae yna gwag yn unig erbyn hyn.  Mwynhaodd y bobl a’i hadeiladodd hinsawdd fwyn. Yn eu plith oedd gweithwyr lledr, crochenwyr, a seiri coed a oedd yn byw mewn cytiau ac yn tyfu cnydau o wenith, rhyg, ceirch, a haidd, ac yn gofalu am geffylau, gwartheg a moch. Ni fyddent wedi rhyfeddu llawer at y bara ceirch a’r caws yn fy mhicnic. Efallai bod merch wedi ymweld â’r beddrod hwn yn yr un ffordd ag yr es i, dridiau yn ôl, at fedd fy nhad. Er bod milenia wedi mynd heibio nid ydym mor wahanol.

Mae ffermydd y dyffryn bellach wedi’u hamgylchynu gan gaeau da byw. Nid oes eirth na bleiddiaid yn byw yn y coed mwyach; mae’r dirwedd bellach wedi’i datgoedwigo i raddau helaeth, heblaw am y planhigfeydd sbriws ag ymylon syth. Mae’r ffensys a’r waliau yn syth hefyd. Nid felly’r cerrig cromliniol, sy’n gydnaws â’r copaon a’r llethrau. Cylch o fynyddoedd yw’r gorwel – Yr Arenigau, Yr Aran, Y Carneddau, Y Berwyn – lympiau a chopaon sy’n ailadrodd siapiau’r cerrig. Ac uwch eu pen mae cylch o gymylau.’

Gwasanaeth Bws Mae Llandrillo’n cael ei wasanaethu gan Fws T3c. Peidiwch â drysu rhyngddo a gwasanaeth y T3 sy’n rhedeg rhwng Y Bermo a Wrecsam, mae’r T3c yn amrywiad lleol rhwng Dolgellau a Chorwen.

Cerdded Mae’r daith gerdded gylchol 8.5km o Landrillo yn weddol galed dros fryniau corsiog. Mae angen sgiliau darllen map sylfaenol. Dewiswch ddiwrnod clir – gall cymylau ddisgyn. Ar ddiwrnod braf o hydref, mae’r rhostir, y coed a’r rhedyn yn darparu paled copr cochlyd a melyngoch, ac mae’r distawrwydd yn euraidd.

  1. Gyferbyn â’r safle bws dilynwch y cyfeirbwyntiau ar hyd y llwybr wrth ymyl y ganolfan gymunedol ac ar draws y cae i’r lôn. Trowch i’r dde ac ewch heibio i Llechwedd.
  2. Wrth y cyfeirbwynt ewch ar hyd y llwybr canolog gan fynd i fyny’r allt drwy’r goedwig gonwydd sydd â choed collddail ar yr ymylon. Daliwch i gerdded ar hyd y trac hwn, nes i chi ddod allan o’r coed.
  3. Ewch ymlaen drwy’r giât ar y dde, gan barhau ar hyd y trac sy’n ymylu ag ochr y bryn nes i chi ddod at giât arall sy’n mynd â chi i rostir Gwarchodfa Natur Genedlaethol Y Berwyn. O’ch blaen fe welwch fynyddoedd Cadair Bronwen, Cadair Berwyn a Moel Sych.
  4. Trowch yn syth i’r chwith, gan gadw at y ffens, ar hyd trac y fferm sy’n nodedig ond heb ei arwyddo. Dilynwch y llwybr wrth iddo wyro oddi wrth y ffens i gyfeiriad dwyreiniol yn gyffredinol gan anelu at y ddau fryn isaf ar ddiwedd y grib a rhyngddynt. Fe ddowch at ffens arall.
  5. Trowch i’r dde a dilynwch y trac yn syth i fyny’r allt ar hyd ymyl y ffens i ben Moel Pearce. Ewch drwy’r giât ac yna trowch yn syth ac ewch yn ôl i lawr y rhiw drwy’r giât ar ochr arall y wal.
  6. Dilynwch y llwybr i lawr yr allt wrth iddo wyro i gyfeiriad y gogledd-orllewin tuag at gornel y blanhigfa gonifferaidd. Cyn bo hir fe welwch gylch cerrig Moel Tŷ Uchaf ar lwyfandir o’ch blaen.
  7. Ewch oddi ar y llwybr i’w gyrraedd.
  8. Dychwelwch i’r llwybr a dilynwch gyfeirbwyntiau Taith Tegid yn ôl i Landrillo, ar hyd llwybr hardd o dan goed derw sy’n fframio golygfeydd o’r pentref.