Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Siopa Nadolig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Gyda’r Nadolig yn prysur agosáu, mae gennym amser o hyd i #carubusneslleol a chefnogi ein busnesau lleol. Roeddem eisiau dynnu sylw at rai o’n masnachwyr annibynnol gwych niferus.

Bu i Jacqui Bell sefydlu The Little Flowermonger yn Rhuddlan yn Hydref 2019, ac mae hi’n canolbwyntio ar ddarparu profiad cwsmer gwych yn ogystal â bod yn gynaliadwy, yn gwerthu blodau Prydeinig yn bennaf a defnyddio deunydd pecynnu bioddiraddiadwy.

Mae The Little Flowermonger hefyd yn gwerthu torchau drws Nadolig pwrpasol a wnaed â llaw ac addurniadau blodau i’r cartref a all roi naws Nadoligaidd naturiol a chwaethus.

Little Flowermonger Rhuddlan

Dywedodd Jacqui, cyn ddisgybl yn Ysgol Howell’s, Dinbych: “Rwy’n gwerthu blodau ffres a sych ac rwy’n ceisio prynu blodau a deiliach a dyfwyd ym Mhrydain ble’n bosib a defnyddio’r siop fel llwyfan i ddangos y stoc wych a dyfir yn y wlad. Mae ein stoc yn cael ei dorri a’i anfon i mi yn uniongyrchol gan y tyfwyr o fewn 24 awr.

“Rydym hefyd yn gwerthu amrywiaeth eang o fasau gwydr a ailgylchwyd, canhwyllau a wnaed â llaw ac anrhegion eraill gan gyflenwyr sy’n cyd-fynd ag ethos cynaliadwy Little Flowermonger.”

The Little Flowermonger in Rhuddlan

Symudodd Jacqui i Lundain i hyfforddi i fod yn werthwr blodau ac yna gweithiodd gyda gwerthwyr blodau i enwogion yn dylunio digwyddiadau ar raddfa fawr cyn agor ei siop ei hun yn darparu blodau i nifer o gynyrchiadau ffilm gan gynnwys Spiderman a Batman yn nechrau’r 2000au, Yn ogystal â llu o ddramâu BBC a digwyddiadau ar gyfer lansio llyfrau, cyngherddau cefn llwyfan, cylchgrawn Hello a Radio Capital.

Defnyddiwyd ei thorchau drws Nadolig gan nifer o westai yn Llundain fel rhan o’u haddurniadau Nadoligaidd.

Little Flowermonger rhuddlan

Ar ôl symud i Ogledd Cymru, agorodd Jacqui The Little Flowermonger a bellach yn cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, sydd â’r nod o annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y gaeaf hwn.

Meddai: “Rwy’n meddwl fod nifer o fusnesau gwych ar garreg ein drws. Credaf y dylem ddefnyddio ein siopau lleol, mae’n llawer mwy personol o gymharu â hwylustod clicio ar ddolen.

“Mae Rhuddlan yn bentref gwych ac mae nifer o fasnachwyr annibynnol yma sy’n darparu cynnyrch ardderchog a gwasanaeth cwsmeriaid gwych. Fel cwsmer, teimlaf ein bod eisiau teimlo’n dda am wario arian. Dylai siopa fod yn brofiad pleserus na all unrhyw gyfrifiadur ei ailgynhyrchu, nid yn aml mae cyfrifiadur yn gofyn sut ddiwrnod rydych yn ei gael neu’n cynnig paned o de a sgwrs i chi.”

Mae Jacqui yn mynychu marchnadoedd blodau ei hun i brynu stoc, gan ddileu’r angen ar gyfer faniau a lorïau danfon.

Meddai: “Mae fy musnes cyfan yn ymwneud â cheisio bod mor gynaliadwy â phosib, fel arall nid oedd pwrpas agor fel siop flodau arall yn gwerthu’r un fath, pan gall y cwsmer fynd ar-lein ac archebu a chael tusw ‘paentio yn ôl rhif’ gyda llawer o ategolion plastig.

“Mae fy neunydd pecynnu yn syml iawn, mae’n bioddiraddiadwy i gyd, mae hyd yn oed fy mwydydd blodau mewn bagiau compostadwy. Rwy’n ailddefnyddio cymaint â phosib ac yn ymchwilio yn ddyddiol i syniadau newydd i wella yn gyson.”

 

Mae’r Tŷ Gwyrdd, a sefydlwyd ym mis Mehefin 2021 ac a agorodd ar Lôn Cefn, Dinbych yn ystod mis Mehefin 2021, yn ysbrydoli lefel newydd o gyfrifoldeb ecolegol ymhlith y gymuned leol.

Mae’r Canolbwynt Cymunedol yn cynnwys siop ail-lenwi ecogyfeillgar ar y llawr cyntaf, gyda gofod stiwdio ychwanegol ar y llawr cyntaf a’r ail lawr.

Meddai Marguerite Pearce, Cyfarwyddwr Y Tŷ Gwyrdd: “Rydym yn gwerthu cynnyrch ail-lenwi ar gyfer y tŷ, cynnyrch garddio a bwyd, rydym hefyd yn ceisio sicrhau eu bod yn cael eu cynhyrchu’n lleol lle bo modd. Rydym yn cefnogi ac yn darparu prosiectau gwyrdd sy’n cefnogi iechyd meddwl a lles, gan gydweithio gydag artistiaid lleol, mentrau cymunedol a sefydliadau cyhoeddus a phreifat.

Y Tŷ Gwyrdd Denbigh

“Rydym yn gwneud siopa ecogyfeillgar yn haws i bawb. Rydym yn cynnig ystod eang o eitemau sylfaenol a fforddiadwy ar gyfer y tŷ sy’n helpu i leihau’r defnydd o becynnau a gwastraff bwyd a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd. Rydym yn gwrando ar gwsmeriaid ac yn ymateb i’w gofynion er mwyn darparu’r cynnyrch y mae arnynt eu heisiau, gan ddefnyddio cyflenwyr a chynhyrchwyr lleol ac ecogyfeillgar sy’n cynnig system dolen gaeedig (ailddefnyddio yn hytrach nag ailgylchu).”

Mae’r Tŷ Gwyrdd yn falch iawn o’u harwyddair, ‘ysbrydoli newid i greu dyfodol cynaliadwy’.

Ychwanegodd Marguerite: “Mae gennym ethos o ‘addasu nid taflu’ ac rydym yn gwerthfawrogi popeth. Rydym yn ceisio bod yn greadigol, dychmygol a dyfeisgar ym mhopeth a wnawn, y rheol allweddol yw lleihau gwastraff a phrynu diangen (prynwch yr hyn sydd ei angen arnoch), ailddefnyddio (ail-lenwi cynwysyddion, prynu pethau ail law, rhoi eitemau nad oes arnoch chi eu heisiau i elusen, atgyweirio eitemau sydd wedi torri), ac ailgylchu pan fetho popeth arall.

Eglurodd Marguerite: “Mae ein cyflenwyr ail-lenwi hylif yn cynnig system dolen gaeedig sy’n golygu eu bod y cymryd y cynhwysydd yn ôl, yn ei olchi a’i ail-lenwi. Rydym yn ceisio cynnig cynnyrch lleol ac o’r DU er mwyn lleihau ein hôl troed carbon. Mae gennym gyflenwr ynni adnewyddadwy.

Mae mewnbwn y gymuned leol yn hanfodol i sicrhau bod y fenter yn gallu parhau nawr ac i’r dyfodol.”

Meddai Marguerite: “Rydym yn ymgysylltu â’r gymuned i ddeall a chefnogi’r mentrau a’r gweithgareddau sy’n digwydd yn lleol, i wrando ar syniadau a phryderon, a nodi beth hoffai pobl ei weld yn digwydd yn y dyfodol.

“Fel cymdeithas mantais gymunedol, y gymuned sy’n ein cynnal ac yn berchen arnom. Rydym yn gwahodd y gymuned leol i gymryd rhan yn Y Tŷ Gwyrdd. Er mwyn sicrhau bod y canolbwynt a’r gweithgareddau’n gynaliadwy, rydym yn credu y dylai’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma helpu i’w harwain a’u siapio.

 

Y Tŷ Gwyrdd

Mae’r cynlluniau ar gyfer y canolbwynt i’r dyfodol yn cynnwys datblygu gweithdy atgyweirio yn Ninbych, darparu calendr o ddigwyddiadau gan weithio mewn partneriaeth ag unigolion a sefydliadau lleol, a pharhau i chwilio am safle sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau, gyda lleoedd newid a chyfleusterau newid babanod neillryw.

Y Tŷ Gwyrdd

 

Ychwanegodd Marguerite: “Cefnogwch eich siopau lleol, helpwch y stryd fawr i ffynnu, a chadwch ein hysbryd creadigol, cyfeillgar a chymunedol yn fyw.”

 

Drosodd yn Nghorwen mae Carole Derbyshire-Styles yn berchen ar y Vintage Home Styles Emporium yng ac mae’n cynnig amrywiaeth fendigedig o hen greiriau, hen ddodrefn crand a phethau i’r cartref.

Arferai Carole fod yn nyrs yn Ysbyty Glan Clwyd, ac mae’n dweud: “Dwi wastad wedi bod efo diddordeb mewn prynu a gwerthu dodrefn, mi ddechreuais i fynd i ocsiynau efo fy nhad pan oeddwn i’n byw yn Lerpwl.

Corwen vintage home emporium

“Mi symudais i Gorwen dri deg un o flynyddoedd yn ôl efo babi deg diwrnod oed a phlentyn arall oedd yn bedair. Roedden ni’n adeiladu tŷ ein hunain ac roedd pres yn brin, ond mi ddechreuais i fynd i ocsiynau i brynu dodrefn i’r tŷ a wnes i byth roi’r gorau iddi.

“Ar ôl i’r genod adael cartref mi ddaeth hi’n amser imi drio gwireddu fy mreuddwyd ac agor siop fy hun, a dyna lle ddechreuodd y Vintage Home Styles Emporium.

“Rydyn ni’n cynnig lle braf i bobl ddod i chwilota drwy hen greiriau, hen ddodrefn crand, pethau i’r cartref a chrefftau, i gyd o ansawdd da, ac mae’n lle cysurus i gwrdd efo ffrindiau, cael paned neu damaid o ginio a sgwrs.”

Mae Carole yn dweud y gall prynu hen greiriau a hen ddodrefn ac anrhegion crand gael effaith gadarnhaol ar newid hinsawdd.

Meddai: “Mae ailgylchu’n rhan fawr o fy musnes i, mae uwchgylchu ac ailddefnyddio dodrefn yn hytrach na’i fod yn cael ei gladdu o dan ddaear yn rhan fawr o fy ethos gwaith.

“Mae prynu hen greiriau a hen ddodrefn crand yn rhoi steil unigryw i’r cartref, ond mae hefyd yn golygu nad ydi’r eitemau’n mynd i safleoedd tirlenwi a bod dim angen gwneud dodrefn newydd, ac felly mae’n osgoi’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n digwydd wrth gynhyrchu pethau newydd, eu pecynnu, eu cludo a chael gwared arnyn nhw.”

Mae Vintage Home Styles Emporium yn un o blith nifer o fusnesau annibynnol lleol ledled Sir Ddinbych ac mae Carole yn annog siopwyr i ymweld â threfi’r Sir y Nadolig hwn.

Meddai: “Dwi wrth fy modd yn sôn wrth bobl am Gorwen, y llefydd braf i fynd am dro a phethau fel yr amgueddfa, y trên stêm a holl hanes difyr y dref. Mae yma lwyth o siopau, caffis, bwytai a thafarndai gwerth chweil, ac ar ôl y deunaw mis diwethaf mae’n bwysig fod pobl leol yn ein cefnogi ni’r gaeaf yma. Dysgwch fwy am Gorwen. Neu lawrlwythwch ein llwybr tref yma.

Corwen

“Mae siopa’n lleol yn rhoi hwb aruthrol i fusnesau lleol ac mae’n helpu i gynnal ein economi a chreu swyddi yma yn Sir Ddinbych. Dwi’n annog pawb yn y sir i ymweld â’u trefi lleol i weld beth sydd ar gael.”

Gall siopwyr helpu drwy rannu profiadau a chynnyrch da ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn rhoi gwybod i bobl eich bod wedi siopa’n lleol y gaeaf hwn ac yn argymell fod pobl eraill hefyd yn #CaruBusnesauLleol.