Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Llewyrch  y Tymor yn Mhlas Newydd, Llangollen

 

Unwaith eto eleni bydd Tŷ a Gerddi Hanesyddol Plas Newydd yn cynnal y digwyddiad ‘Nadolig ym Mhlas Newydd’ blynyddol, 9fed o Rhagfyr. Bydd rhaglen o weithgareddau yn ystod y dydd yn dod â bwrlwm tymhorol i’r tiroedd a naws hudolus y Nadolig i deuluoedd ei fwynhau.

Ar y diwrnod:

Siopwch gyda rhai o’n gwneuthurwyr lleol ym Marchnad Artisan y Gaeaf, codwch law ar Siôn Corn ar ei ymweliad arbennig â Phlas Newydd, a mwynhewch ganeuon Nadoligaidd gan Fand Arian Llangollen.

Bydd teuluoedd sy’n ymweld â Phlas Newydd yn gallu mynd am dro ar hyd lwybr Nadoligaidd newydd ar y tiroedd, ysgrifennu llythyrau at Siôn Corn a’u postio ym mlwch post Pegwn y Gogledd a hyd y oed baratoi bwyd ceirw a gwneud crefftau papur. Wrth iddi hi dywyllu bydd y gerddi a’r tocwaith yn cael eu goleuo i bawb eu mwynhau.

Bydd Ystafell De y Stabl ar agor drwy’r dydd ac yn cynnig gwin poeth blasus, mins peis yn ogystal â bwyd i chi fynd ag o allan.

 

Gweithdai a Chrefftau:

10AM – 12AM – gwneud eich Torch Nadolig eich hun (dim lle ar ôl)

12PM – 2PM – sesiwn galw heibio i greu Crefftau Pren Nadoligaidd gyda’r tîm ceidwaid (£2).

2PM – 4PM – sesiwn galw heibio i wneud Addurniadau Clai Nadoligaidd gan ddefnyddio argraffnodau naturiol (Am ddim).

 

Cyngor defnyddiol:

  • Mae mynediad i’r tiroedd a’r digwyddiad am ddim; mae angen archebu lle neu dalu ar y diwrnod ar gyfer rhai gweithdai.
  • Ni fydd lle parcio ar y safle ar y diwrnod. Gofynnwn yn garedig i chi ddefnyddio’r lleoedd parcio yn y dref neu gerdded/seiclo i’n digwyddiad.
  • Cyfeiriad: Plas Newydd, Heol y Bryn, Llangollen, LL20 8AW