Sir Ddinbych ym mis Rhagfyr
Mae Sir Ddinbych yn cynnig cymysgedd unigryw o swyn hen ffasiwn, naws Nadoligaidd a harddwch naturiol. P’un a ydych yn crwydro’r trefi hanesyddol, pori o amgylch y marchnadoedd Nadolig, mynychu cyngherddau lleol, neu’n syml yn mwynhau heddwch coedwigoedd a cherdded yng nghefn gwlad – mae’n fath o le y gallwch fwynhau popeth o fwrlwm llawen i fyfyrio tawel.
Rhuthun – Swyn a marchnadoedd Nadolig Hanesyddol

- Ewch draw i ganol y dref ar gyfer y farchnad Nadolig flynyddol a gynhelir ar draws lleoliadau hanesyddol – gan gynnwys yr hen garchar – lle y dowch o hyd i grefftau wedi’u gwneud â llaw, anrhegion, bwyd Nadoligaidd a llawenydd y tymor.
- Hoffech chi wneud rhywbeth hudolus ac addysgol? Bydd tŷ hanesyddol Nantclwyd y Dre yn cynnal ei ddigwyddiad “Nadolig Trwy’r Oesoedd” ar ddau benwythnos cyntaf mis Rhagfyr. Mae’r ystafelloedd yn cael eu haddurno yn arddull gwahanol gyfnodau, o’r Oesoedd Canol i Oes Fictoria i gyfnod y rhyfel – a chewch ymgolli’n hiraethus yn Nadolig y gorffennol.
- Am ychydig o naws Nadoligaidd draddodiadol, mae’r dref hanesyddol a’r ardal gyfagos yn lleoliad perffaith i fynd am daith gerdded aeafol – mae crwydro’r strydoedd hynafol sydd wedi’u haddurno ar gyfer y Nadolig yn ffordd berffaith o dreulio prynhawn bach hamddenol.
- Dinbych – Goleuadau, siopau ac awyrgylch Nadoligaidd

- Peidiwch â methu noson cynnau’r goleuadau Nadolig yn Ninbych – mae canol y dref yn cael gweddnewidiad gyda’r goleuadau’n pefrio, y farchnad Nadolig, siopa hwyr ac adloniant byw. Mae’n foment hudolus sy’n dod ag ysbryd yr ŵyl yn fyw.
- Ewch am dro o amgylch canol hanesyddol y dref a’i strydoedd hyfryd, ac efallai yr hoffech fynd am dro heddychlon a gaeafol drwy Ardd Goffa Evan Pierce.
Ardal Llanelwy a’r Rhyl – Digwyddiadau, cyngherddau a hwyl yr ŵyl
- I’r rheiny sy’n mwynhau cerddoriaeth gymunedol: cynhelir gwasanaeth carolau blynyddol y sir – Dathliad y Nadolig – yn Eglwys St Thomas, Y Rhyl. Bydd carolau’n cael eu canu gan gorau lleol a gallwch ddisgwyl ymdeimlad o gymuned gynnes.
- Os hoffech noson allan ychydig bach yn wahanol, mae noson dirgelwch llofruddiaeth Nadoligaidd yn cael ei chynnal yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy – syniad da am noson allan gyda ffrindiau neu gydweithwyr o’r swyddfa, a bydd swper, adloniant a digon o hwyl yr ŵyl ar gael.

Mae gweithdai galw heibio creadigol i blant yn cael eu cynnal ar draws sawl tref – er enghraifft Amgueddfa y Rhyl: disgwyliwch sesiynau celf Nadoligaidd, creu addurniadau a hyd yn oed gweithdy drama “Pantomeim Nadolig”. welshicons.org Mae’r rhain yn ddigwyddiadau delfrydol i deuluoedd ac yn ffordd greadigol a chlud o gael y plant i deimlo’n Nadoligaidd, ac mae’n gyfle i gefnogi lleoliadau treftadaeth lleol.
Awyr Iach a Chefn Gwlad – Teithiau cerdded a golygfeydd hardd
- Ewch i fwynhau ochr fwy dawel a naturiol Sir Ddinbych gyda thaith gerdded drwy Barc Gwledig Loggerheads – dyffryn coediog hardd sydd â llwybrau cerdded trwy goetiroedd a golygfeydd gaeafol hyfryd.
- Neu beth am ymweld â’n traethau? Mae’n ffordd dda o wrthbwyso prysurdeb y Nadolig, yn enwedig os ydych chi eisiau tawelwch ac awyr iach.
Cyngor ar sut i Fwynhau’r Nadolig yn Sir Ddinbych
- Cynlluniwch ymlaen llaw: Mae llawer o’r digwyddiadau Nadoligaidd – ymweliadau â thai hanesyddol, marchnadoedd, cyngherddau – yn cael eu cynnal ar ddyddiadau penodol. Gwiriwch restrau lleol neu gyhoeddiadau’r cyngor yn gynnar.
- Newidiwch Bethau Ychydig: Cyfunwch un digwyddiad Nadoligaidd prysur (fel marchnad neu gyngerdd carolau) â thaith gerdded dawel yng nghefn gwlad er mwyn cael cydbwysedd rhwng y cyffro ac ymlacio.
- Cefnogwch bethau lleol: Mae marchnadoedd Nadolig a digwyddiadau mewn safleoedd treftadaeth yn aml yn arddangos gwaith gwneuthurwyr nwyddau artisan, crefftwyr a busnesau lleol – ffordd hyfryd o brynu anrhegion a chefnogi’r gymuned.
- Gwisgo’n gynnes: Gall gaeafau gogledd Cymru fod yn oer – gall gwisgo dillad cynnes, esgidiau addas a mynd â fflasg o ddiod gynnes gyda chi wneud eich teithiau cerdded yn yr awyr agored yn llawer mwy pleserus.
- Mae mentrau fel parcio am ddim ar ôl 3pm yn dangos yr ymdrech a wneir i wneud digwyddiadau’n hygyrch ac yn annog pobl i gefnogi busnesau a threfi lleol yn ystod cyfnod yr ŵyl.
- Hwb i Siopau Lleol – Parcio Am Ddim ar ôl 3pm
O 24 Tachwedd tan 31 Rhagfyr 2025, mae llawer o feysydd parcio canol trefi a redir gan y Cyngor ledled Sir Ddinbych (mewn trefi megis y Rhyl, Dinbych, Prestatyn, Llangollen, Rhuthun ac eraill) yn cynnig parcio am ddim ar ôl 3pm. Mae’r cynllun hwn yn ei gwneud yn haws (ac yn rhatach) i deuluoedd a ffrindiau fynd i siopa, mwynhau pryd o fwyd, neu grwydro’r siopau lleol – gwych ar gyfer mwynhau bwrlwm y Nadolig ar y stryd fawr heb orfod poeni am ffioedd parcio.