Beicio Trwy Baradwys: Beicio yn Sir Ddinbych
Cymru i groesawu cymal Tour de France yn 2027
Yr wythnos hon cyhoeddwyd y llwybr amlinellol a lleoliadau dechrau a gorffen Tour de France 2027, pan fydd Cymru yn croesawu ras seiclo fwyaf y byd am y tro cyntaf. Bydd cymal Cymru yn dechrau yn y Trallwng ac yn gorffen yng Nghaerdydd, ar 4 Gorffennaf 2027, gan nodi’r trydydd cymal a diweddglo Grand Depart y DU. Dyma’r digwyddiad chwaraeon am ddim mwyaf erioed i gael ei gynnal yn y DU.
I gyd-fynd â chadarnhau’r llwybr, cyhoeddwyd heddiw hefyd y bydd Geraint Thomas OBE yn dechrau ei swydd newydd fel Llysgennad Beicio Cymru yn y cyfnod sy’n arwain at y Tour.
Wrth ystyried hyn, roeddem eisiau edrych ar beth all ein cornel ni o Gymru ei gynnig i feicwyr.
Os ydych yn lleol ac yn edrych am ffyrdd newydd o grwydro o amgylch eich milltir sgwâr neu’n ymwelydd sy’n trefnu gwyliau anturus, mae Sir Ddinbych yng Ngogledd Cymru yn cynnig profiad beicio i bawb. O lwybrau arfordirol heb draffig sy’n berffaith ar gyfer diwrnodau allan i’r teulu i lwybrau coedwig garw, mae’r gornel hon o Gymru wedi dod yn gyrchfan sy’n rhaid ymweld â hi i feicwyr o bob oed a gallu.

Llwybrau Arfordirol a Beicio sy’n Addas i Deuluoedd
Dechreuwch eich antur ar Arfordir Gogledd Cymru — darn di-draffig, gwastad ar y cyfan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy’n rhedeg trwy drefi glan môr Sir Ddinbych. Gall beicwyr fynd ar hyd y promenâd mewn lleoedd megis Prestatyn a’r Rhyl, gan fwynhau golygfeydd eang ar draws Môr Iwerddon a beicio esmwyth sy’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd neu ymwelwyr.
Yn y Rhyl, mae’r Ganolfan Feicio yn cynnig llogi beics trwy gydol y flwyddyn, felly nid oes rhaid i chi hyd yn oed ddod â’ch olwynion eich hun. Gallwch feicio o’r harbwr a dilyn Llwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar hyd yr arfordir — perffaith ar gyfer cael picnic, ymlacio ar y traeth, a chaffis glan môr.
Mae hefyd canolfan feicio sydd wedi ennill gwobrau o’r enw Marsh Tracks yn y Rhyl mae ganddi drac beicio ffordd, trac BMX a thrac beicio mynydd ac maent yn cynnig hyfforddiant.

Beicio Mynydd a Heriau Oddi ar y Ffordd
Os ydych eisiau mwy o adrenalin, mae Sir Ddinbych yn cynnig beicio mynydd o’r radd flaenaf.
- Coed Llandegla — canolfan beicio mynydd a gydnabyddir yn genedlaethol gyda llwybrau pwrpasol ar gyfer bob lefel sgil, o draciau sengl i dirwedd dechnegol. Mae’r safle hefyd yn cynnig llogi beics, hyfforddiant, caffi sydd wedi ennill gwobrau a siop feiciau.
- Bryniau Clwyd a Hiraethog — mae gan yr ardaloedd ucheldir hyn filltiroedd o rwydweithiau llwybrau ceffylau trwy fryniau, coedwigoedd a rhostiroedd gyda llwybrau’n amrywio o rhai hawdd i rai anodd. Mae hi’n ardal drawiadol i ddechreuwyr a beicwyr profiadol.
- Llyn Brenig — mae gan yr ardal gronfa ddŵr hon rwydwaith o lwybrau wedi eu harwyddo sy’n addas i deuluoedd, sy’n cyfuno beicio gyda golygfeydd anhygoel a mannau i gael picnic. Gellir llogi beiciau yn y ganolfan ymwelwyr, gan ei wneud yn ddewis gwych ar gyfer amserlenni hyblyg.
Nid dim ond ar gyfer beicwyr profiadol y mae’r llwybrau mynydd a choedwig hyn – mae digon o amrywiaeth felly gallwch ddewis eich her wrth fynd.

Llwybrau Cylch Golygfaol a Chylchdeithiau Cefn Gwlad
Y tu hwnt i lwybrau pwrpasol, mae gan Sir Ddinbych gyfoeth o gylchdeithiau golygfaol sy’n ddelfrydol ar gyfer teithiau beicio dydd:
- Mae Taith Feicio Gymunedol y Rhyl a Gogledd Sir Ddinbych yn gylch o tua 20 milltir sy’n cysylltu’r Rhyl, Prestatyn, Dyserth, Llanelwy, a Rhuddlan — gyda digon o gymeriad, golygfeydd cefn gwlad, a chaffis.
- Mae lonydd cefn gwlad tawel trwy dir amaeth a Dyffryn Clwyd yn berffaith ar gyfer teithiau beicio heddychlon ble gallwch hefyd ymweld â threfi marchnad hanesyddol a thafarndai lleol.
Teithio Lleol a Beicio Bob Dydd
Mae beicio yn Sir Ddinbych yn fwy na dim ond gweithgaredd hamdden — mae hefyd symudiad Teithio Llesol cryf sy’n annog pobl leol i feicio ar gyfer siwrneiau pob dydd megis siopa, danfon a nôl o’r ysgol, neu gymudo. Mae’r Cyngor Sir yn gweithio o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) i gynllunio a mapio llwybrau sy’n gwneud beicio yn ddewis gwirioneddol ar gyfer bywyd bob dydd.
I drigolion, mae cyfleoedd megis hyfforddiant Bikeability am ddim (i blant ac oedolion) yn ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i feicio ar ffyrdd a llwybrau lleol.
Cyngor i Ymwelwyr a Phobl Leol
Amseroedd gorau i feicio Mae’r gwanwyn a’r haf yn cynnig mwy o olau dydd a gwell tywydd, perffaith ar gyfer crwydro llwybrau’r arfordir neu goedwigoedd. Mae’r hydref yn dod â lliwiau hardd ar draws y bryniau a’r rhostir.
Paciwch yn ddoeth
Gall tywydd Sir Ddinbych newid yn gyflym — mae haenau, dillad glaw ac esgidiau addas wneud gwahaniaeth, yn arbennig ar lwybrau coedwig neu rostir.
Parchwch y tir
Os ydych yn beicio ar lwybrau ceffylau, llwybrau a rennir, neu lonydd tawel, dilynwch y codau cefn gwlad a byddwch yn ystyriol o gerddwyr, da byw, a rhai eraill sy’n defnyddio’r llwybr.
Map
Dyma fap i’w lawrlwytho sy’n cynnwys mannau llogi gan gynnwys e-feiciau, llwybrau, a chanolfannau rhagoriaeth.
#seiclo #beicio #sirddinbych #mapbeicio #brenig #hiraethog #teithiollesol #coedwigcoedllandegla #sustrans #e-feiciau

#cycling #biking #denbighshire #bikingmap #brenig #hiraethog #activetravel #coedllandeglaforest #sustrans #ebikes