Canllaw Digwyddiadau Haf 2026: Beth sy’n Digwydd yng Ngogledd‑Ddwyrain Cymru
Gwyliau bwyd, cerddoriaeth fyw, hwyl i’r teulu a thrafnidiaeth glasurol
Mae Haf 2026 yn llawn digwyddiadau cyffrous ar draws Gogledd‑Ddwyrain Cymru, gyda rhywbeth at ddant pawb — o gyngherddau cerddoriaeth enwog a gwyliau bwyd bywiog i ddiwrnodau hwyl teuluol, rheilffyrdd treftadaeth a dathliadau cymunedol. P’un a ydych yn cynllunio taith undydd neu wyliau hirach, mae digon o resymau i ymweld yr haf hwn.
Dyma ganllaw i rai o uchafbwyntiau’r tymor.
Gŵledd Fwyd a Ffair Grefftau Rhuddlan
Dydd Sadwrn 16 Mai | 10.00yb – 5.00yp
📍 Stryd y Senedd, Maes Parcio Stryd y Senedd a Chanolfan Gymunedol Rhuddlan
Gŵyl gyfeillgar sy’n dathlu bwyd, diod, cynhyrchwyr lleol a chrefftau, gyda stondinau amrywiol ac adloniant addas i’r teulu. Diwrnod hamddenol i bori, blasu a mwynhau gweithgareddau i blant.

Gŵyl Rheilffordd Ardd Llangollen a Ffair Llangollen
Dydd Sadwrn 6 Mehefin | 10.00yb – 4.30yp
📍 Pafiliwn Llangollen a’r tir o’i amgylch
Un o ddigwyddiadau rheilffordd gardd mwyaf newydd y DU, mae’r ŵyl hon sy’n tyfu’n gyflym yn dod â gosodiadau ar raddfa fawr, masnachwyr ac arbenigwyr at ei gilydd o bob cwr o’r wlad. Cynhelir hi ym Mhafiliwn Rhyngwladol Llangollen ac mae’n ddiwrnod gwych i deuluoedd a selogion, tra’n codi arian at elusennau.
Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a
Yn fyw ym Mhafiliwn Llangollen

📍 Pafiliwn Llangollen a’r tir o’i amgylch
Mae Llangollen yn croesawu rhaglen gerddorol a diwylliannol o safon fyd‑eang yr haf hwn, gan gyfuno cyngherddau mawr gyda’r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol enwog.
Live at Llangollen Pavilion – perfformiadau pennaf:
- 24 Mehefin – Rick Astley
- 25 Mehefin – Pete Tong
- 26 Mehefin – David Gray
- 27 Mehefin – Billy Ocean
- 28 Mehefin – Alex James
- 2 Gorffennaf – Super Furry Animals
- 3 Gorffennaf – Bowling for Soup
- 4 Gorffennaf – Deacon Blue
- 5 Gorffennaf – Tom Grennan
Cystadlaethau dyddiol yr Eisteddfod: 8–12 Gorffennaf
Cyngherddau gyda’r nos: 7–12 Gorffennaf, gyda pherfformwyr gan gynnwys Emeli Sandé, Michael Ball a Karl Jenkins.

Gŵyl Rhuthun
Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf 2026 | 12.00yp – 11.30yh
📍 Sgwâr Sant Pedr
Dathliad bywiog o gerddoriaeth a diwylliant yng nghanol hanesyddol Rhuthun. Mwynhewch berfformiadau byw ar y sgwâr drwy’r dydd, gyda cherddoriaeth gyda’r nos mewn tafarndai a lleoliadau lletygarwch lleol ar draws y dref.

Penwythnos Trafnidiaeth Glasurol Rheilffordd Llangollen a Chorwen
Dydd Sadwrn 4 – Dydd Sul 5 Gorffennaf
📍 Rheilffordd Llangollen – Corwen
Digwyddiad poblogaidd sy’n arddangos trafnidiaeth glasurol gan gynnwys ceir, beiciau modur, bysiau, tractorau a threnau. Bydd Gorsaf Glyndyfrdwy’n ganolbwynt y digwyddiad, gyda gwasanaeth dwys o drenau stêm, diesel a threftadaeth ar hyd y lein.
Carnifal Prestatyn a Ffair Flynyddol
Dydd Gwener 17 – Dydd Mawrth 21 Gorffennaf 2026
📍 Maes Bastion Road
Diwrnod y Carnifal: Dydd Sadwrn 18 Gorffennaf
Traddodiad lliwgar yr haf sy’n denu tua 3,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’r carnifal yn cynnwys sawl arena, cystadlaethau ac amrywiaeth o atyniadau modern a thraddodiadol dros bum diwrnod.

Gŵyl Camp VC, ger Llangollen
Dydd Gwener 24 – Dydd Sul 26 Gorffennaf 2026
📍 One Giant Leap
Gŵyl antur i fenywod yn unig, gyda gweithgareddau fel beicio mynydd, treialon moduro, sglefrio, ioga, chwilota a gweithdai creadigol. Gyda’r nos ceir adloniant hamddenol gan gynnwys cerddoriaeth acwstig, DJs a bingo disgo.
Gŵyl Gwirfoddolwyr Rhuddlan a Phicnic yn y Parc
Dydd Sadwrn 1 Awst 2026 | O 11.00yb
📍 Admiral’s Field, Rhuddlan
Digwyddiad cymunedol sy’n dathlu gwirfoddolwyr lleol a’r sefydliadau sy’n cefnogi’r ardal. Dewch â phicnic, mwynhewch yr awyr agored a dysgwch sut i gymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli lleol.
Penwythnos y 1960au Rheilffordd Llangollen a Chorwen
Dydd Sadwrn 1 – Dydd Sul 2 Awst
📍 Rheilffordd Llangollen – Corwen
Teithiau, gorsafoedd a digwyddiadau wedi’u trawsnewid i adlewyrchu awyrgylch y 1960au, gyda gwisgoedd cyfnod, cerddoriaeth fyw, ail‑berfformiadau, cerbydau vintage a phrofiadau thema ar y trên ac yn y gorsafoedd.
Diwrnod Hwyl i’r Teulu, Parc Cymunedol Ffrith, Prestatyn
Dydd Sadwrn 1 Awst 2026 | 11.00yb – 3.00yp
Diwrnod cymunedol hamddenol i bob oed, gyda sioe ymlusgiaid a phryfed, cerddoriaeth fyw, stondinau elusennol ac amgylcheddol, gweithgareddau i blant a sioe gŵn hwyliog.
Gŵyl Chwedlonol y Tylwyth Teg, Llangollen
Dydd Sadwrn 8 – Dydd Sul 9 Awst
📍 Pafiliwn Llangollen a’r tir o’i amgylch
Gan ddathlu ei phen-blwydd yn 15 oed, mae’r ŵyl boblogaidd hon yn cynnig penwythnos hudolus o gerddoriaeth fyw, gweithgareddau plant (llawer ohonynt am ddim) a chrefftwaith llaw trawiadol gan wneuthurwyr talentog.

Sioe Ceir Clasurol Prestatyn
Dydd Llun 31 Awst 2026 | 10.00yb – 4.30yp
📍 Canol tref Prestatyn
Digwyddiad rhad ac am ddim poblogaidd dros Wyliau Banc mis Awst, gyda strydoedd y dref yn llawn cerbydau clasurol a vintage, ynghyd â stondinau lleol, masnachwyr, bwyd a diod.
Edrych Ymlaen at Hydref 2026
- Gŵyl Fringe Llangollen – 4–12 Medi
- Cogwarts Steampunk Spectacular – 18–20 Medi
- Gŵyl Fwyd Llangollen – 10–11 Hydref
