Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

5 Taith Darganfod Sir Ddinbych

Mae digon o syniadau am beth gallwch ei wneud yn Sir Ddinbych. Efallai ein bod yn wirioneddol ddigyffwrdd ond mae digon gennym i’w gynnig. Trefi marchnad prysur wedi’u hamgylchynu gan un o’r tirweddau mwyaf prydferth a ddiogelir yng Nghymru. Morlin trawiadol. Atyniadau treftadaeth byd-enwog a byd celfyddydol cyffrous. Bwyd a diod bendigedig.

Mae cymaint yn digwydd, mewn gwirionedd, fel ei bod yn anodd gwybod lle i ddechrau. A dyma lle mae’r set hwn o bum taith yn Sir Ddinbych yn dod i mewn. Beth bynnag yw eich hwyliau neu eich angerdd personol, gallwn ddangos i chi sut i wneud diwrnod ohoni. Cynlluniwch eich taith gyda’r map tu mewn.

 

Lawrlwythwch y llwybr

Denbighshire map

Cefn gwlad

Denbighshire countryside

1

Llangollen

Mae prif gyrchfan dŵr gwyn Cymru yn Nyffryn Dyfrdwy yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.

2

Parc Gwledig Moel Famau

Dyma’r copa uchaf ym Mryniau Clwyd, a Thŵr y Jiwbili yn goron arno, ac mae’n codi uwchben rhostir grug ysblennydd.

3

Parc Gwledig Loggerheads

Canolfan cefn gwlad annwyl gan lawer wedi’i hamgylchynu gan glogwyni calchfaen esgynnol a llwybrau glan afon atmosfferaidd.

Arfordir

Denbighshire coast

1

SC2

Parc dŵr anhygoel y Rhyl sydd werth miliynau ac arena chwarae dan do cyffrous sy’n denu 350,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

2

Y Rhyl

Crwydrwch weddill y Rhyl: harbwr 700 oed, llyn morol unigryw gyda rheilffordd fach a theatr boblogaidd gyda 1,000 o seddi.

3

Prestatyn

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cwrdd â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa ger Canolfan y Nova ar lan y môr, gyda thwyni Gronant heb eu difetha i gyfeiriad y dwyrain.

Treftadaeth

Denbighshire heritage

1

Llangollen

Ewch ar gwch a gaiff ei dynnu gan geffyl, ewch ar daith ar drên stêm, ewch i weld Merched Llangollen.

2

Carchar Rhuthun

Mae “Cyweirdy” Fictoraidd yn arswydus ac atmosfferaidd.

3

Castell Dinbych

Caer uchel gyda hanner milltir o waliau’r dref a golygfeydd anhygoel.

4

Castell Rhuddlan

Ewch i weld y castell symudodd Brenin Edward I afon ar ei gyfer.

Diwylliant

Denbighshire culture

1

Sinema’r Scala, Prestatyn

Yr holl ffilmiau poblogaidd diweddaraf a dangosiadau opera a theatr byw.

2

Theatr y Pafiliwn, y Rhyl

Lleoliad cyffrous sydd newydd ei adnewyddu ar gyfer drama, comedi a chyngherddau.

3

Canolfan Grefft Rhuthun

Canolfan arweiniol Cymru ar gyfer y celfyddydau cymhwysol – gyda chaffi gwych

4

Y Capel, Llangollen

Oriel gelf gyfoes wych tu mewn i Ganolfan Groeso.

Bwyd a diod

Denbighshire food and drink

1

Bwyty 1891

Bwyty theatr uchelgeisiol a gellid dadlau mai dyma’r golygfeydd gorau o’r môr sydd i’w
cael yn y Rhyl.

2

Bwyd a Diod Bryniau Clwyd

Mae Caffi Florence ym Mharc Gwledig Loggerheads yn lle gwych i ddechrau.

3

Ystâd Rhug

Ystâd organig gyda’i siop fferm, bwyty a siop bwyd parod ei hun ar ochr y ffordd.

4

Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy
Bwyd a Diod

Mae Llangollen wrth ganol y fenter bwyd lleol hon – edrychwch am y logo.