Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Syniadau Gwyliau’r Pasg

 

Os ydych chi’r un peth â ni, rydych chi’n edrych ymlaen at seibiant byr dros y Pasg, ac yr ydym ni eisiau rhannu rhai syniadau o ran gweithgareddau gyda chi. Mae mwyafrif ein hatyniadau ni’n agor ar gyfer gwyliau’r Pasg, felly bydd digon o bethau i chi eu gwneud. Os ydych chi eisiau gwneud mwy na bwyta wyau Pasg, yna Gogledd Ddwyrain Cymru yw’r lle delfrydol i chi dreulio’r gwyliau.  Fodd bynnag, os ydych chi’n dod â phlant neu os ydych chi fel plentyn eich hun, bydd digon o helfeydd wyau Pasg a digwyddiadau ar thema’r Pasg yn ein hatyniadau.

Cewch eich siomi ar yr ochr orau gan dywydd y gwanwyn yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r dyddiau’n oleuach ac yn hirach – felly cewch wneud y gorau o’ch cyfnod yma. Wrth i’r tywydd gynhesu, nid yw gweithgareddau awyr agored mor heriol, a chofiwch, os cewch chi ambell i gawod o law, ein hoff ddywediad ni yw ‘Nid oes y fath beth â thywydd gwael, dim ond y dillad anghywir!’

Dyma rywfaint o’n hoff atyniadau ni i deuluoedd.

SeaQuarium yn y Rhyl

Mae’r SeaQuarium yn cynnig taith archwilio tanddwr, lle gallwch chi archwilio bywyd dyfrol o sawl rhan o’r byd yn cynnwys yr Amazon, y Môr Tawel, Cefnfor yr India, y Môr Coch a’n moroedd ein hunain o amgylch Prydain.

Seaquarium Rhyl
Seaquarium  YRhyl

 

Pwll Brickfield , Y Rhyl

Mae Pwll Brickfield, yng Ngorllewin y Rhyl yn warchodfa natur leol sy’n boblogaidd am ei amrywiaeth o weithgareddau hamdden, yn cynnwys taith gerdded gylchol 1km o amgylch y pwll.  Mae’n lle perffaith i fwydo’r hwyaid a chael gweld amrywiaeth o adar y dŵr, yn cynnwys yr hwyaden wyllt, yr alarch mud a’r iâr ddŵr. Weithiau, gallwch chi hefyd weld glas y dorlan, y crëyr glas a gwennol y glennydd.

Brickfield Pond, Rhyl

Rhaeadr Dyserth

Mae rhaeadr Dyserth, lle mae Afon Ffyddion yn syrthio 70 troedfedd ar ei thaith i Afon Clwyd, mewn pentref bychan ar gyrion y Rhyl. Yn ôl y sôn, yr oedd olwyn ddŵr anferthol y tu mewn i’r waliau canoloesol, a oedd yn cael ei rhedeg gan Raeadr Dyserth, a chodwyd sawl melin ar hyd yr afon yn ystod y blynyddoedd wedi hynny.

Castell Dinbych

Adeiladwyd Castell Dinbych a waliau’r dref rhwng 1282 a 1311. Adeiladwyd y castell i Henry de Lacy, Iarll Lincoln a gafodd arglwyddiaeth Dinbych gan y brenin Edward y 1af yn ystod ei ymgyrch yn erbyn y Cymry.

Denbigh Castle
Castell Dinbych

Mae’r castell sydd bellach yng ngofal CADW ar agor drwy gydol y flwyddyn, ond mae’r amseroedd a’r dyddiau’n amrywio drwy’r flwyddyn. Mae canolfan i ymwelwyr ar y safle ac mae lleoedd parcio ar gael.  Gallwch chi hefyd fenthyg allwedd gan Lyfrgell Dinbych i grwydro waliau’r Castell ar eich pen eich hun.

Cwch Camlas wedi’i dynnu gan Geffyl

O Lanfa Llangollen, gallwch chi fynd ar daith mewn cwch wedi’i dynnu gan geffyl neu ar daith mewn cwch modur ar y draphont ddŵr. Mae’r ddau yn eich tywys chi ar hyd golygfeydd a synau hudolus Camlas hardd Llangollen.

Horse drawn boat rides, Llangollen Wharf
Teithiau ar gwch wedi’u tynnu gan geffyl, Glanfa Llangollen 

Llyn Brenig

Archwiliwch dros 2500 erw o goedwigoedd, rhostir a llynnoedd ymhlith golygfeydd godidog o’r ucheldir, ynghyd â Chanolfan Ymwelwyr, Caffi, Siop Anrhegion, Arddangosfa’r Gweilch, Maes Chwarae Antur, Llogi Beiciau, Beicio Mynydd, Llwybrau Cerdded, Hwylio a physgota o safon ryngwladol i daro arnynt. Mae ar agor drwy gydol y flwyddyn a gallwch chi barcio drwy’r dydd am £2.50 yn unig, felly dewiswch eich Antur Dŵr heddiw. Er bod modd llogi ceufadau a phadlfyrddau ar y llyn, ni chaniateir lansio’r rhain eich hun na nofio yn y dŵr agored yn Llyn Brenig ar hyn o bryd.

Tŷ Nantclwyd y Dre a Gerddi’r Arglwydd

Tŷ Pren o’r 15fed Ganrif a gerddi muriog wedi’u hadfer yn dyddio o’r oesoedd Canol.

Mae un o dai tref pren a gerddi muriog hynaf Cymru wedi’i adfer i adlewyrchu 7 cyfnod o’i hanes a’i ddatblygiad. Gall ymwelwyr fynd yn ôl mewn amser o’r 1940au i 1435.

Nantclwyd y Dre House and the Lord’s Gardens

Yn yr ardd mae pergola rhosod, coed cnau ac mae’r ‘dolydd blodau’ yn dangos defnydd hanesyddol y gerddi – ar gyfer meddyginiaeth, coginio a phleser synhwyraidd.  Mae’r berllan yn cynnwys mathau traddodiadol o afalau a gellyg ac eirin Dinbych. Ar hyd y llwybrau ceir llwyni ffrwythau, meryswydd, cwins a mwyar Mair, arddangosfa wych o babi gwyllt a ‘mynwent anifeiliaid anwes’ heb ei chyffwrdd. Gallwch chi fwynhau golygfeydd unigryw o’r dref hanesyddol, y castell a’r bryniau o’ch cwmpas o safle uwch a chudd y gerddi.

Plas Newydd, Llangollen

Roedd y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby wedi dal dychymyg y gymdeithas Raglywiaeth. Cawsant lu o ymwelwyr i’r bwthyn bach diymhongar, y gwnaethon nhw ei drawsnewid dros y blynyddoedd i ffantasi Gothig o wydr wedi’i staenio a derw wedi’i gerfio’n fanwl. Y tu mewn i Blas Newydd heddiw, ceir arddangosfa yn cynnwys rhai o’u heiddo nhw a thaith sain sy’n dod â’u stori nhw’n fyw. Gallwch grwydro drwy eu gerddi ac ar hyd eu llwybr ar lan yr afon. Gallwch chi hefyd gael paned o de yn eu hystafelloedd te hyfryd fel y gwnaeth Wordsworth, Syr Walter Scott a Dug Wellington o’ch blaen.

Plas Newydd House and Tearooms in Llangollen
Tŷ ac Ystafelloedd Te Plas Newydd yn Llangollen

Plas Newydd cafe

I gael rhagor o syniadau o ran gweithgareddau dros y Pasg, ewch i’n hadran ddigwyddiadau ar ein gwefan. Felly, peidiwch ag oedi!