Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Mae Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn ei ôl!

Mae gwasanaeth bws sy’n rhoi’r mynediad gorau i gyrchfannau allweddol yn ardal Llangollen yn ôl.

Mae trydydd tymor gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn dechrau ar ddydd Sadwrn 1 Ebrill, gan ddarparu mynediad i rai o gyrchfannau allweddol yr ardal hardd a hanesyddol hon.

Mae gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn mynd ar lwybr cylchol bob dydd Sadwrn tan 4 Tachwedd 2023. Mae’n cysylltu Llangollen a’r pentrefi cyfagos ag atyniadau poblogaidd lleol gan gynnwys Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Gwarchodfa Natur Wenffrwd, Rhaeadr y Bedol, Abaty Glyn y Groes, Tŷ Hanesyddol Plas Newydd a Bwlch yr Oernant.

Bydd y gwasanaeth yn galluogi ymwelwyr a thrigolion i ymweld a mwynhau’r lleoliadau hyn heb orfod mynd i’r drafferth o ganfod lle i barcio ym mhob safle.

Mae hefyd yn ei gwneud yn haws i’r rheiny sydd heb gerbyd i gael mynediad at y lleoedd hyn, sy’n help i leihau tagfeydd yn rhai o’r safleoedd prysuraf yn Nyffryn Dyfrdwy.

Mae’r bws yn cynnig cyfleuster camu ymlaen a chamu i ffwrdd gyda phris tocyn 1Bws yn caniatáu teithio diderfyn drwy’r dydd sy’n golygu ei bod yn ddelfrydol i gamu oddi ar y bws i ymweld â safle ac yna yn ôl ar y bws yn hwyrach.

Mae’r bws yn galw ym Mhafiliwn Llangollen lle mae digonedd o le i barcio cerbydau am y dydd i fwynhau’r gwasanaeth bws a ddarperir.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu teithiau am ddim i Ddeiliaid Cerdyn Bws Cymru drwy Drafnidiaeth Cymru!

Dywedodd y Cynghorydd Win-Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn gyfle perffaith i fwynhau Dyffryn Dyfrdwy yn gyfforddus heb orfod poeni am gynllunio ble i barcio yn y lleoliadau arbennig hyn o amgylch Llangollen.

Bydd Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy 199 ar gael ar ddyddiau Sadwrn yn unig, o ddydd Sadwrn 1 Ebrill tan ddydd Sadwrn 4 Tachwedd 2023.

Mae’r bws yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ac mae’n rhan o’r Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy.

I weld yr amserlen lawn a phrisiau’r tocynnau ar gyfer gwasanaeth y Bws Darluniadwy, ewch i dudalen we amserlenni bysiau Sir Ddinbych a 1Bws neu ewch i Ganolfan Groeso Llangollen i nôl taflen wybodaeth.