Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Urdd Gobaith Cymru National Eisteddfod

Urdd Eisteddfod

Urdd Gobaith Cymru

Mae Urdd Gobaith Cymru yn Gorff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol â dros 55,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed. Ers 1922, rydyn ni’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg a fydd yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymunedau.

Mae gan yr Urdd 55,000 o aelodau dan 25 oed bob blwyddyn, ac mae 60% o holl ysgolion Cymru yn ymwneud â’r sefydliad. Mae gennym 170 o aelodau staff, 10,000 o wirfoddolwyr, 900 o ganghennau, gyda 200 o ganghennau yn y gymuned.

Urdd logo

Mae’r Urdd yn cynnal Eisteddfod flynyddol, a gynhelir yn ystod hanner tymor y Sulgwyn, a’i lleoliad bob yn ail rhwng lleoliadau’r Gogledd a’r De. Mae’r Eisteddfod yn rhoi cyfle i arddangos talent Gymreig mewn canu, llefaru, perfformio drama, dawns, cystadlaethau offerynnol, canu gwerin, yn ogystal â chystadlaethau mewn coginio, trin gwallt, newyddiaduraeth a llawer mwy.

Urdd Eisteddfod
Urdd Eisteddfod

2022 yw tro Sir Ddinbych i gynnal y digwyddiad. Wedi’i drefnu’n wreiddiol ar gyfer 2019 ond wedi’i ohirio oherwydd Covid-19, mae trefniadau bellach ar eu hanterth i groesawu gweddill Cymru i’n sir ddiwedd mis Mai. Lleoliad yr Eisteddfod yw Fferm Kilford ar Ffordd yr Eglwys Newydd ar gyrion Sir Ddinbych, safle’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2013.

Mae’r Cyngor yn falch iawn o fod yn un o brif bartneriaid yr Eisteddfod ac rydym yn gweithio’n agos gyda threfnwyr digwyddiadau i’w wneud yn ddigwyddiad i’w gofio.
Mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng Mai 30 a Mehefin 4 ac mae’r cyfan sydd angen i chi ei wybod am gystadlu, y maes llafur, ymuno â’r Urdd, cofrestru i gystadlu, gwybodaeth i ddysgwyr, gwybodaeth am rowndiau’r Eisteddfodau lleol a llawer mwy i’w gael ar wefan yr Urdd (gwefan allanol).

Canmlwyddiant yr Urdd

Eleni mae’r Urdd yn dathlu ei chanmlwyddiant, 100 mlynedd ers i’r Urdd gael ei ffurfio gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922. Ei nod oedd gwarchod y Gymraeg mewn byd lle’r oedd y Saesneg yn dominyddu pob agwedd o fywyd y tu allan i’r cartref.

Moel Famau

Sefydlwyd cangen gyntaf yr Urdd yn Nhreuddyn yn Sir y Fflint a thyfodd y mudiad yn ystod y 1920au, gyda mwy o ganghennau’n cael eu sefydlu ledled Cymru. Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gyntaf erioed ym 1929 yng Nghorwen, Sir Ddinbych.
Mae dathliadau’n cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn i nodi’r canmlwyddiant.

Denbigh Castle
Castell Ddinbych

Gweithgareddau ac atyniadau yn Sir Ddinbych

Mae Sir Ddinbych yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn darparu nifer anhygoel o brofiadau ar gyfer ardal mor gryno a hygyrch. Cefn gwlad syfrdanol gyda rhan helaeth yn Ardal o Harddwch Cenedlaethol Eithriadol wych ar gyfer cerdded gyda dau lwybr cenedlaethol.

Loggerheads Denbighshire
Loggerheads Sir Ddinbych

Trefi marchnad prysur gan gynnwys dwy o gyrchfannau glan môr mwyaf adnabyddus Prydain, y Rhyl a Phrestatyn. Heb anghofio canrifoedd o dreftadaeth gyfoethog gyda’i gestyll ei hun, rheilffordd stêm, tai hanesyddol, carchar Fictoraidd a Safle Treftadaeth y Byd Traphont ddŵr a chamlas Pontcysyllte a chyrchfan fwyd diddorol yn cyfuno i wneud Sir Ddinbych yn gyrchfan gyda gwahaniaeth.

Dinas Bran Castle

Chwilio am rywle i aros?

Mae gwybodaeth am leoedd i aros ar gael ar wefan Croeso Cymru (gwefan allanol).

Owain Glyndwr
Owain Glyndŵr

Gwefannau cysylltiedig

Urdd Eisteddfod
Croeso Cymru

Event location