Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Lleoedd Llonydd; Bws 51 a 51B. Dinbych, Llanelwy, Bodelwyddan, Y Rhyl.

 

Bydd bws 51 a 51B ill dau’n mynd â chi i’r holl leoedd a restrir yma. Maen nhw’n gadael stand D yng ngorsaf fysiau’r Rhyl. Arriva Cymru sy’n darparu’r gwasanaeth.

Dw i’n derbyn nad yw gwibio ar hyd yr A525 ar fws deulawr wir yn brofiad heddychlon, er bod sedd ar y llawr uchaf yn rhoi argraff o leiaf i chi o deithio drwy gefn gwlad gwyrdd digynnwrf. Ond mae yna safleoedd tawel braf a mannau cysegredig i’w gweld ar y ffordd. A gyda’r bysiau’n rhedeg ddwywaith yr awr rhwng 6 y bore a hanner nos, mae hwn yn wasanaeth gwych i chi deithio fel y mynnwch chi.

Dinbych

Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl o dref wledig, mae Dinbych yn hyfryd iawn, gyda gerddi deiliog, strydoedd chwaethus ac adfeilion hynafol. Sefydlwyd ei chyfoeth yn oes Elisabeth fel canolfan ddiwylliant y dadeni, a bu iddi ddatblygu wedi hynny yn dref farchnad a oedd yn enwog am wneud menig – cyfoeth a ymgododd o garpiau a gwrthdaro.

Preswylfa Dafydd ap Gruffydd oedd y castell yn wreiddiol, ond fe’i cipiwyd ar gyfer y Saeson gan Edward I ac ymosodwyd arno sawl gwaith wedyn gan y Cymry. Parhawyd i ymladd drosto yn ystod Rhyfel y Rhosynnau a’r Rhyfel Cartref, pan gafodd ei feddiannu gan luoedd y Brenhinwyr rhwng 1642 a 1648. Wedi i’r Brenhinwyr ildio yn dilyn gwarchae eithaf cwrtais, cafodd y castell ei ddinistrio’n fwriadol (fel nifer fawr o gestyll eraill).

Mae Dinbych bellach yn fan tawel i ymweld ag o.

Eglwys Dewi Sant (Eglwys Leicester)

Er na chafodd yr eglwys hon erioed ei chwblhau (neu oherwydd hynny efallai), mae’n strwythur tangnefeddus bellach. Prosiect uchelgeisiol Robert Dudley (Iarll Caerlŷr) oedd hwn yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ond pan fu farw, daeth yr arian i ben a rhoddwyd gorau i’r gwaith adeiladu. Y bwâu o arddull y Dadeni yw’r cwbl sydd ar ôl o’i freuddwyd Biwritanaidd i greu neuadd bregethu Brotestannaidd. Ond efallai wir fod yr eglwys yn fwy hyfryd byth o gael yr awyr yn do iddi.

Muriau’r Dref

Cedwir giât muriau’r dref ym Mhorth Burgess dan glo, ond os gwyddoch chi sut i gael gafael ar allwedd, mae profiad arbennig yn eich disgwyl, ac mae’n bosib iawn y cewch chi’r lle i gyd i chi’ch hun. Mae’r llwybr cul ar hyd y muriau yn eich arwain uwchlaw gerddi’r dref. Fe welwch chi winwydd yn ymestyn, gyda’r ffrwythau o fewn eich cyrraedd, ac yna, wrth i chi adael gerddi coeth canol y dref, fe welwch chi blanhigion troed y golomen yn dringo’r muriau ac afalau surion bach wedi gollwng oddi ar y coed gwyllt ar y tyrrau.

Wrth i chi droi’r gornel, mae’r golygfeydd ar draws Dyffryn Clwyd mor syfrdanol o’u cymharu â dyfnderoedd duon dwys Tŵr y Coblyn, nes bod y profiad yn teimlo fel breuddwyd.

Felly sut mae cael gafael ar allwedd i’r muriau? Wel, fel pe bawn i’n rhan o gyrch hudolus, fe ddes i ar draws rhywun ag allwedd breifat ar ôl digwydd taro sgwrs gyda dyn yn cario ysgol. Fel arall, ewch draw i’r llyfrgell (sy’n hafan ynddi ei hun) a gofyn am gael benthyg eu hallwedd nhw.

Llanelwy

Mae’r ffyrdd yn llawer prysurach nag yr oedden nhw pan fûm i yma’n blentyn, ond nid yw’r heddwch wedi diflannu. Er bod y ddinas gadeiriol fechan wedi’i chorlannu gan yr A55 a’r A525, gyda’i strydoedd canoloesol, ei phensaernïaeth eglwysig felys (mae eglwys blwyf Llanelwy hefyd yn fan heddychlon), ei siopau annibynnol a’i llwybrau cerdded deiliog ar hyd glan Afon Elwy, mae Llanelwy yn parhau i fod yn gilfach werdd.

Llanelwy Cathedral

The cathedral grants Llanelwy its peace. Famed for its diminutive size, it occupies a tranquil space in the world despite its share of turbulent history. In the 13th century it was attacked by Edward I’s troops, by Owain Glyndŵr’s in the 15th century, and in the 16th century by Oliver Cromwell’s soldiers, who (it is said), let their horses drink from the font. Yet still it harbours a fizzing kind of silence. Soft lamps glow in the choir stalls, lozenges of stained-glass light bathe the walls, while in the grounds the trees seem to whisper.

The cathedral also holds a place in my heart and in the hearts of anyone for whom the Welsh language is important because this is where William Morgan was bishop. It was William Morgan (with the help of Edmund Prys the poet), who translated the bible into Welsh – the Old Testament in 1567, a revision of William Salesbury’s New Testament in 1588, and a Book of Common Prayer in 1599. Their work was fundamental in helping the Welsh language flourish. A sculpture honouring the translators, stands in front of the cathedral and somewhere in the tree-lined grounds, lost to time, is the grave of William Morgan.

Yr Eglwys Farmor, Bodelwyddan

Mae Eglwys y Santes Margaret ym Modelwyddan, a adeiladwyd yn oes Fictoria, yn nodwedd amlwg yn y dirwedd, gyda’i meindwr gwyn gloyw sy’n trywanu’r awyr yn amhosib ei fethu o’r ffordd. Ond mae’n cymryd dwy neu dair taith ar y bysiau i mi sylweddoli pam fod yn enw Bodelwyddan mor gyfarwydd. Bodelwyddan. Dyma ble mae’r milwyr o Ganada wedi’u claddu.

Ym 1919, roedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ben ond roedd 17,000 o filwyr o Ganada yn dal i aros yng ngwersyll hyfforddi’r fyddin ym Mae Cinmel i’r llongau ddod i’w cludo nhw gartref. Roedd eu hamodau byw yn ddeifiol o oer a chyfyng, roedd bwyd yn brin ac roedd y ffliw yn ymledu. Ond fe ganslwyd sawl llong ac aeth eraill, a oedd wedi’u bwriadu ar eu cyfer, â milwyr Americanaidd gartref yn eu lle. Pan aeth hi’n gythrwfl, anafwyd 28 o filwyr a lladdwyd pump. Mae gan bedwar o’r pump hynny fan gorffwys heddychlon o leiaf, yn Eglwys y Santes Margaret, ynghyd ag 85 o’u cymrodyr, y bu farw nifer ohonyn nhw o’r ffliw.

Mae’r eglwys hefyd yn nodedig am ei marmor. Defnyddiwyd pedwar math ar ddeg i’w hadeiladu, gan gynnwys pileri wedi’u gwneud o farmor coch Gwlad Belg, bonion marmor Purbeck yn cynnal pileri marmor Languedoc a chorff yr eglwys wedi’i wneud o farmor Ynys Môn.

Rhyl

Perhaps Rhyl is not described as being peaceful. But stroll out on the vast slabs of sand as the tide retreats and you’ll find space and serenity, and solitude if you want it, save for the mewling gulls.

And if, among the hubbub of shops and arcades, you just need a quiet place to sit for a while, you’ll find the United Church opposite the police station is open from 9.00 – 5.00 Mondays to Fridays (and 11.00 on Sundays for services). Visit on a Thursday and you’ll find a café run by volunteers, providing care, community and a safe peaceful space for all.