Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Y Daith Gylchol; 35/36, Arriva

Yr wythnos hon rydym yn dod ag ail flog Julie yn seiliedig ar deithiau bws ar arfordir Sir Ddinbych.

Gwasanaeth 35 Y Rhyl (gan adael o Stand C) – Prestatyn – Dyserth – Rhuddlan – Y Rhyl

Gwasanaeth 36 Y Rhyl (gan adael o Stand D) – Rhuddlan – Dyserth – Prestatyn

Os ydych chi’n nerfus am deithio ar fws, mae’r gwasanaeth 35/36 yn llwybr da i ymarfer arno.  Mae’r bysiau yn gadael bob hanner awr ac mae hwn yn llwybr cylchol felly gallwch hyd yn oed deithio o’r cyfeiriad arall – ond waeth pa fws y byddwch yn ei gymryd, y 35 neu’r 36, byddwch yn cyrraedd y Rhyl (neu unrhyw un o’r llefydd y mae’n eu gwasanaethu) o fewn awr.   Ac mae nifer o atyniadau ar hyd y ffordd.  Felly os ydych chi ar eich gwyliau yn y Rhyl neu Brestatyn ac awydd cael blas ar y sir ehangach heb fynd yn rhy bell i’r mewndir, mae’r gwasanaeth 35/36 i chi!

Rhuddlan

Mae Rhuddlan yn dref ganoloesol fechan y gellir archwilio ei strydoedd, eglwys a Gwarchodfa Natur drwy ddilyn llwybr cerdded.  Goresgynnwyd sedd lywodraethol Gymreig Gruffydd ap Llywelyn yn yr 11eg ganrif gan y Normaniaid goresgynnol a adeiladodd gastell mwnt a beili yn Nhwthill a gafodd, yn ei dro, ei ddisodli gan gastell Saesneg Edward I o’r 13eg ganrif sy’n dal yn fawreddog hyd heddiw.  Os ydych chi awydd taith gerdded bleserus ar lan yr afon, ewch yn ôl i’r Rhyl ar hyd y llwybr 4 milltir o hyd gan ddilyn lan ddwyreiniol yr Afon Clwyd.

Castell Rhuddlan

Adeiladwyd Castell Rhuddlan gan Edward I i drechu a gwladychu Cymru felly fe es i yno gyda theimladau cymysg.  Ond mae’r strwythur yn wirioneddol anhygoel – yn enwedig rŵan gan ei fod yn adfail.  Mae gan y tyrau agorfeydd diffaith sy’n debycach i ogofâu na’r cadarnle o bŵer trefedigaethol yr oeddent yn arfer bod.  Mae mynawyd y bugail yn tyfu o’r holltau ac mae colomennod yn nythu yn y tyllau a oedd unwaith yn dal trawstiau a oedd yn cynnal y lloriau.

Os ydych yn lwcus byddwch yn dod ar draws Alan sy’n cadw’r lle yn daclus.  Mae Alan yn caru’r castell gymaint nes ei fod yn dweud ei fod yn teimlo fel pe bai wedi’i eni ynddo er ei fod yn dod o Crewe.  “Rwy’n meddwl ei fod yn le hyfryd o ystyried yr holl bethau erchyll sydd wedi digwydd yno.  Cymerodd 1800 o ddynion i gloddio’r ffos.  Dychmygwch faint o bobl a gymerodd i ail-gyfeirio’r afon!  Ac os oedd tirlithriad roeddech yn syrthio’r lle’r oeddech chi.  Roeddech yn hepgoradwy bryd hynny.”  Mae bellach yn le heddychlon.  “Mae Jac-dos yn dod yma’n aml” meddai Alan “ac wrth gwrs, mae gennych chi foch daear ac ambell i lwynog yn cymryd colomen.  Mae’r ydfrain a’r brain fel arfer yn y coed ond maent yn dod i mewn gan ei fod yn le mor hyfryd iddynt nythu yn y gaeaf.”

Lluniaeth

Mae nifer o gaffis yn Rhuddlan. Bu i mi fwynhau’r croeso cynnes a gefais gan Emma yn The Old Crown at the Castle er mai dim ond amser ar gyfer gwydriad o ddŵr oedd gennyf.  Roedd yr awyrgylch yn heddychlon ac roedd y cwsmeriaid wir yn mwynhau eu cinio.  Roedd omledau a brechdanau ffres i’w weld yn ddewisiadau poblogaidd iawn.  Yn y cyfamser, mae gan Siop Goffi Bailey’s ar y Stryd Fawr ymdeimlad cymunedol iddi ac mae ar agor yn hwyr un gyda’r nos y mis ar gyfer noson tapas. Gallwch brynu llyfr Teithiau Cerdded Grŵp Cymunedol Rhuddlan yma (£2.50) ynghyd â danteithion fel cacennau pysgod neu ffalaffels.

Neuadd Bodrhyddan

Trefnwch eich ymweliad yma’n ofalus – nid yw’n hysbys os yw bysiau yn stopio y tu allan i’r neuadd ai peidio – dywedodd rhai gyrwyr eu bod nhw’n stopio yno ond dywedodd rhai eraill nad ydynt yn stopio yno.   Bu iddynt fy ngollwng i yno beth bynnag, ond byddwch yn barod i gerdded 1 milltir i Ddyserth ac yn ôl.   Dim ond rhwng mis Mehefin a mis Medi, ar brynhawn dydd Mawrth a dydd Iau y mae Bodrhyddan ar agor.

Y teulu Langford sy’n berchen ac yn byw yn Neuadd Bodrhyddan.  Mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw ar gyfer teithiau tywys o’r tŷ i weld dodrefn y cyfnod, arfwisgoedd a mymi 3000 oed, ond nid ar gyfer y gerddi a’r ystafell de.

Yn y 19eg ganrif, cafodd y neuadd o’r 17eg ganrif (a adeiladwyd ar sylfaeni cynharach) ei ail-ddylunio fel bod y drws ffrynt gwreiddiol bellach yn edrych dros y llawr (gwelyau blodau addurniadol) tra bod y ffasâd newydd yn cael mynediad drwy rodfa ddwbl o goed. Mae’r rhodfa yn ymddangos yn gyfarwydd wrth i mi gerdded yn y cysgod, rwyf wedi darllen amdano’n rhywle.  A oedd gan Clough Williams-Ellis rywbeth i’w wneud â Bodrhyddan?  “Oedd, fe’r oedd yn rhan ohono” meddai fy nhywysydd cyfeillgar o’r Alban.   “Roedd yn gweithio yn y gerddi.  Mae llawer o darddelli a ffynhonnau yn y rhan yma o Sir Ddinbych a datblygwyd y gerddi dŵr o’u hamgylch.”  Gallwn ymgolli yn y gerddi dŵr hyfryd hyn, y bythwyrdd gyda sblashis o liw o gwmpas y pyllau a’r nentydd sy’n diferu – cymysgedd hyfryd o blannu gwyllt a strwythuredig.  Ond peidiwch ag anghofio’r ystafell de (yn yr hen ystafell filiards), lle cefais gacen sbwnj jam flasus gan Maureen.

Dyserth

Dyserth Isaf

Er bod amaethyddiaeth, chwareli calchfaen a chloddio copr a phlwm wedi siapio pentref Dyserth, y rhaeadr sydd wrth wraidd y pentref.  Mae’n debyg mai wrth droed y rhaeadr y sefydlwyd y sefydliad crefyddol cyntaf yn y 6ed ganrif – ar ben lle mae eglwys Santes Bridget a Sant Cwyfan yn sefyll ar hyn o bryd.  Er yr oedd yr eglwys ar gau pan fues i yno, mae’r fynwent yn ddiddorol, gydag Afon Ffyddion yn rhedeg yn ysgafn ac yn dawel wrth ei hymyl ar ôl plymio 21 medr oddi ar y clogwyn.

Dyserth Falls

Mae’r rhaeadr yn anhygoel.  Hyd yn oed os ydych yn gweld troi natur yn nwydd ychydig yn rhyfedd – mae’n rhaid i chi dalu i’w gweld – mae’n costio 50c ac mae rhywbeth Fictoraidd iawn amdani – y gerddi hardd, y parlwr hufen iâ a sut mae ymwelwyr yn cerdded drwy’r giatiau a dros y bont i edmygu’r rhaeadr.  Ac mae’n arbennig.  Mae drafft oer yn gwyntyllu’r dŵr, lle cewch eich deffro a’ch diheintio gan ddiferion y dŵr a chresendo’r sŵn gwyn…

Dyserth Uchaf

Mae’r rhaeadr yn rhannu Dyserth yn ddwy ran – Dyserth Isaf a Dyserth Uchaf.  Dringwch y grisiau wrth ymyl y rhaeadr, gan fwynhau’r golygfeydd panoramig cyn mynd drwy’r llannerch goediog ar dop y rhaeadr lle’r ydych yn mynd i fyd gwahanol – lonydd tawel Dyserth Uchaf.

Gweithiwch eich ffordd trwy’r bythynnod i ganfod cymuned fywiog ar hyd y brif stryd.  Mae’n fywiog ond yn llawer llai twristaidd na’r allfeydd wrth droed y rhaeadr.  Yma fe ddewch o hyd i (Siop Fferm a Chaffi) Frankies sy’n ganolbwynt cymunedol teuluol sy’n croesawu cŵn – mae bargen cawl a brechdan Tony yn cael ei argymell yn gryf!  Ond os hoffech fyrbryd wrth fynd, mae gan Billy a David gownter pasteiai poeth yn y siop gigydd.  Ac os ydych yn chwilio am anrhegion neu weithgaredd ar ddiwrnod gwlyb, mae ymdeimlad cyfeillgar i’w gael yn Two and Throw lle mae Louise yn gwerthu cerameg a hefyd yn rhedeg gweithdai crochenwaith.

Ffordd Dyserth

Os ydych yn teimlo fel mynd am dro, mae Llwybr Cerdded Dyserth i Brestatyn yn dilyn llwybr hen Reilffordd Prestatyn a Chwm a oedd yn gwasanaethu’r mwyngloddiau plwm a sinc a’r chwareli calchfaen, a oedd yn arfer cario teithwyr hefyd.  Mae bellach yn llwybr cerdded a beicio coediog hawdd a hyfryd.  Dilynwch y llwybr am 3 milltir yn ôl i Brestatyn.

Gallt Melyd (Meliden)

Mae Gallt Melyd yn gorwedd rhwng Dyserth a Phrestatyn. Mae’r safle bws yn y pentref ond rwy’n argymell cerdded o Ddyserth ar hyd Llwybr Cerdded Dyserth ac yna dal y bws o du blaen y ganolfan gymunedol os nad ydych eisiau parhau â’r llwybr.  Fel Dyserth, datblygwyd Gallt Melyd o gwmpas mwyngloddio plwm a chwareli calchfaen lle mae’r Llwybr Cerdded yn grair – sef yr hen reilffordd a wasanaethodd y diwydiannau.

Os oes yn well gennych chi daith gerdded fwy egnïol ond nad oes gennych chi ddigon o amser i ymuno â Llwybr Clawdd Offa neu Lwybr Gogledd Cymru (gellir ymuno â’r ddau o fan hyn) mae’r Graig Fawr yn ddewis hanner ffordd perffaith.  Gallwch gael mynediad at y graig galchfaen sy’n edrych dros y pentref o’r Llwybr Cerdded.

Y Sied

Pe bawn i’n byw yn yr ardal hon byddwch yn dod o hyd i mi yn Y Sied.  Mae’r Sied yn edrych dros y pentref ac roedd yn arfer bod yn sied nwyddau ar y rheilffordd – felly mae wedi’i leoli ar Lwybr Cerdded Dyserth. Bellach mae’n endid ynddo’i hun ar ôl cael ei adnewyddu’n hyfryd.

 

Mae’n ganolfan treftadaeth gydag arddangosfeydd am hanes lleol.  Mae’n ganolbwynt a man gweithio cymunedol, ac yn lleoliad i grefftwyr werthu eu nwyddau.   Mae busnesau lleol yn gweithredu yma o gynhwysyddion cludo wedi’u trosi.  Mae Tom, er enghraifft, yn gwerthu nwyddau ar gyfer yr awyr agored i gerddwyr sy’n mynd heibio o The Trainer Container, tra bod Matt yn cyflenwi busnesau lleol gyda bara wedi’i bobi yn The Rough Edge Bakehouse.

I fyny’r grisiau mae yno gaffi, a dyna lle y byddwch yn dod o hyd i mi.  Mae’r bwyd yn fendigedig ac yn atynnu cerddwyr a beicwyr sy’n mynd heibio.  Ond mae hefyd yn le braf i eistedd ac ysgrifennu neu freuddwydio am ychydig, gyda seddi cyfforddus, celf hyfryd, socedi ar gyfer y rhai sy’n gweithio o gartref neu weithwyr llawrydd fel fi, a golygfeydd ysbrydoledig dros yr arfordir.  Mae’r Sied yn encil cysgodol yn yr haf.  ‘Ond mae ‘na rywbeth arbennig iawn amdano yn y gaeaf hefyd’ meddai’r gweinydd hapus sy’n gweini quiche a salad blasus i mi.  ‘Mae’n glyd iawn felly.’  Mae hefyd yn dangos teras y to i mi ‘Mae hi wedi bod yn bwrw’ meddai, ‘ond mae pobl yn dal i eistedd yma – rwy’n sychu’r glaw oddi ar y seddi ac maent wrth eu bodd!’ A gyda golygfeydd fel hyn nid yw’n syndod gennyf.