Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Newidiadau Cyffrous Ar y Gweill ar gyfer Rhuthun

Mae yna fwrlwm gwirioneddol i’w deimlo yn Rhuthun wrth i welliannau mawr ddechrau ar sgwâr y dref a’r ardaloedd o amgylch. O ganlyniad i Gronfa Adfywio Lleol Llywodraeth y DU mae Cyngor Sir Ddinbych yn cyflawni cyfres o brosiectau sydd wedi’u dylunio i ddiogelu treftadaeth Rhuthun, gwella mannau cyhoeddus, a’i gwneud yn haws ac yn fwy diogel i fynd o amgylch y dref ar droed neu ar feic.

Yn 2023 cadarnhaodd Llywodraeth y DU eu bwriad i ddarparu £10.95 miliwn o gyllid grant ar gyfer 10 o brosiectau cyfalaf sydd wedi eu hanelu at ddiogelu treftadaeth unigryw, lles a chymunedau gwledig Rhuthun. Mae’r cyllid wedi ei ddyfarnu ar gyfer prosiectau llwyddiannus sydd wedi eu cynnwys yng Ngorllewin Clwyd yn unig ac ni ellir ei gyfeirio at brosiectau eraill.

Bydd y gwaith arfaethedig yn ceisio ehangu’r posibiliadau ar gyfer cynnal digwyddiadau ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gefnogi hunaniaeth leol, gan hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref hefyd.

Pan fydd y gwaith wedi dechrau, mae un neges yn fwy pwysig nag erioed:

Mae Rhuthun yn sicr ar agor ar gyfer busnes.

Mae siopau, caffis, marchnadoedd ac atyniadau yn masnachu fel arfer – ac mae eich cefnogaeth barhaus yn gwneud gwahaniaeth mawr.

 Pa Welliannau sydd Ar y Ffordd?

Trawsnewid Sgwâr Sant Pedr

Bydd un o’r newidiadau mwyaf y byddwch yn ei weld yn Sgwâr Sant Pedr, a fydd yn cael ei ailddylunio yn ystyriol i greu gofod mwy croesawgar, hyblyg a sy’n addas i gerddwyr. Mae hyn yn cynnwys:

  • Tynnu’r gylchfan i greu ardal ymgynnull fwy ger Tŵr y Cloc
  • Man ar gyfer seddi caffi awyr agored a digwyddiadau cymunedol
  • Gwell cysylltiadau teithio llesol, gan gynnwys gwneud Stryd y Farchnad yn stryd unffordd ar gyfer cerbydau tra’n cadw llwybrau beicio a cherdded dwyffordd

Mae’r holl ddiweddariadau hyn yn ymwneud â dathlu beth sy’n gwneud Rhuthun yn arbennig tra’n rhoi teimlad ffres a modern i’r canol.

Gwelliannau i Stryd y Farchnad

Mae Stryd y Farchnad hefyd yn cael gweddnewidiad gyda phalmant newydd a fydd yn gwneud y stryd yn fwy diogel i gerddwyr. Mae’r newidiadau hyn wedi eu cynllunio i wneud Rhuthun yn fwy apelgar a hygyrch.
Mae adborth y cyhoedd wedi bod yn gadarnhaol gyda’r rhan fwyaf o ymatebwyr yn dweud y bydd y cynlluniau yn gwneud canol y dref yn fwy diogel ac yn fwy deniadol.

Gwelliannau Parc Cae Ddôl

Bydd gwelliannau hefyd i Barc Cae Ddôl gan gynnwys:

  • Plannu blodau gwyllt
  • Adnewyddu toiledau
  • Pontydd a llwybrau newydd
  • Trac newydd ar gyfer beiciau a sgwteri
  • Offer campfa awyr agored

Nod y newidiadau hyn fydd creu parc a fydd hyd yn oed yn fwy pleserus ar gyfer teuluoedd, cerddwyr a’r rhai hynny sy’n mwynhau bod yn yr awyr agored.

Adfer Tŵr y Cloc (eisoes wedi’i gwblhau)

Efallai eich bod eisoes wedi sylwi ar Dŵr Cloc Rhuthun sydd wedi ei adfer yn hyfryd, gyda gwaith adnewyddu wedi ei wneud o ran y garreg, wyneb y cloc a’r mecanwaith. Dyma un o lwyddiannau cynnar y Gronfa Ffyniant Bro ac fe ddaeth hyn â bywyd newydd i’r tirnod eiconig hwn.

Eglwys a Chlwystai Sant Pedr

Mae Cenhadaeth Dyffryn Clwyd yn cyflawni’r rhan hon o’r prosiect i wella’r Eglwys a’r Clwystai i gadw treftadaeth a hanes yr adeilad tra’n ei wneud yn fan mwy hygyrch i bawb.

Cefnogi Busnesau Lleol yn Ystod y Newidiadau

Fe wyddom y gall cyfnodau adeiladu arwain at amharu — ond mae busnesau Rhuthun ar agor fel arfer. OBR Construction sy’n cwblhau’r gwaith ac maent yn darparu swyddog cyswllt i gefnogi busnesau lleol yn ystod y cyfnod trawsnewid.

Dyma’r hyn y gallwch ei ddisgwyl:

  • Bydd siopau a chaffis yn parhau ar agor trwy gydol y cyfnod lle cwblheir y gwaith
  • Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei ganiatáu, gydag arwyddion clir
  • Bydd parcio a mynediad ar gyfer danfon nwyddau yn parhau er gall rhai llwybrau gael eu haddasu
  • Bydd digwyddiadau a marchnadoedd yn parhau i gael eu cynnal, gan wneud y mwyaf o’r mannau hyblyg newydd

A yw Prif Atyniadau Rhuthun yn Dal ar Agor?

 Canolfan Grefft Rhuthun  –

Mae Canolfan Grefft Rhuthun yn parhau i weithredu fel arfer ac yn parhau ar agor i’r cyhoedd o Ddydd Mawrth i Ddydd Sul, 10:00–17:30, gyda mynediad rhad ac am ddim a pharcio ar y safle.

Mae’r arddangosfa gyfredol, gweithdai a digwyddiadau wedi eu rhestru ar eu gwefan.

Bydd Nantclwyd y Dre  a Charchar Rhuthun yn ailagor i’r cyhoedd ddydd Sadwrn 28 Mawrth 2026. Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol am fanylion digwyddiadau. Bydd rhan o grant y Gronfa Adfywio Lleol yn gwella’r cynnig yn Nantclwyd ymhellach drwy adnewyddu’r adain orllewinol a strwythur gardd deulawr bach o’r 18fed ganrif sy’n cael ei adnabod fel y tŷ haf. Yn y Carchar bydd llawr gwaelod 46 Stryd Clwyd yn dod yn fynedfa amlwg i’r Carchar a bydd gwelliannau o ran y swyddfa docynnau ac ardal y dderbynfa, caffi, mannau arddangos ychwanegol a man ymchwil cyhoeddus ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.

Castell Rhuthun– yn parhau ar agor i fusnes, mae’r gerddi hardd hefyd werth ymweld â nhw.

Edrych i’r dyfodol

Mae cymeriad a chyfaredd Rhuthun yn parhau yn greiddiol i’r cynlluniau hyn ac rydym yn llawn cyffro o weld y trawsnewidiad. Yn y cyfamser os oes angen ychydig o syniadau arnoch o ran llwybr cerdded lawrlwythwch ein llwybr tref. Mae yna nifer o siopau annibynnol a chaffis yn Rhuthun sy’n ei gwneud yn dref unigryw gyda phensaernïaeth ddiddorol sy’n rhychwantu canrifoedd ac yn rhoi gwir synnwyr o hanes i’r dref. Wrth i chi gerdded o amgylch y dref cadwch lygad am flychau bach sy’n rhan o Lwybr Celf Rhuthun i weld y dref o bersbectif gwahanol.

Hefyd cadarnhawyd y bydd Gŵyl Rhuthun yn parhau fel arfer ym mis Gorffennaf fel gall pawb fwynhau dod ynghyd ar y sgwâr gyda’r bandiau a’r perfformwyr eto i’w cadarnhau.

Erbyn diwedd 2026 bydd Sgwâr Sant Pedr, Stryd y Farchnad a’r dreflun yn ehangach wedi eu trawsnewid yn fannau mwy diogel, hygyrch a mwy deniadol — ac a fydd yn gweddu’n well i ddigwyddiadau, bywyd cymunedol a mwynhad bob dydd.

Daliwch ati i ymweld a chefnogi busnesau lleol gwych Rhuthun

Prynwch goffi, crwydrwch o amgylch y siopau annibynnol, ewch i gyfarfod ffrindiau yn y dref neu mwynhewch grwydro o amgylch Cae Ddôl. Mae pob ymweliad yn helpu i sicrhau fod Rhuthun yn ffynnu.